Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £5 miliwn arall i gefnogi ac amddiffyn cyrff diwylliant a chwaraeon hyd braich Cymru a Cadw.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip Jane Hutt gyhoeddiad heddiw ar ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Aberystwyth. Mae'r ddau ymhlith y sefydliadau sy'n elwa ar y cyllid.
Dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol sy’n wynebu sefydliadau diwylliannol a chwaraeon ac wedi gweithredu i’w helpu i liniaru’r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Daw'r £5m ychwanegol o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru.
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn £725,000 a bydd y Comisiwn Brenhinol yn elwa ar £90,000. Yn ogystal, bydd £1.5m yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn cynnwys darparu cymorth i sefydliadau celfyddydol sy'n canolbwyntio ar wytnwch sefydliadol. Bydd Chwaraeon Cymru yn derbyn £1m, tra bydd Amgueddfa Cymru yn elwa ar £940,000. Bydd cyllid o £745,000 hefyd i Cadw i ddiogelu ei gynaliadwyedd ariannol.
Mae'r pecyn cymorth yn ychwanegol at y cyllid cyfalaf gwerth £3.2m a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar gyfer gwaith atgyweirio i'w wneud yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jane Hutt:
“Mae'r sefydliadau hyn yn allweddol ar gyfer cyflawni nifer o'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ac maent yn chwarae rôl sylfaenol o ran hyrwyddo lles meddyliol ac iechyd corfforol da ac yn dod â chymunedau ynghyd. Does dim dwywaith am yr effaith gadarnhaol maen nhw'n ei chael ar bobl ledled Cymru.”
“Rydym yn llwyr gydnabod fod hwn yn gyfnod ariannol anodd i'n sefydliadau celfyddydol a chwaraeon hyd braich yn ogystal ag i Cadw, a gwyddom na fydd y cyllid hwn yn mynd i'r afael â'r holl faterion y mae'r sefydliadau hyn yn eu hwynebu. Fodd bynnag, bydd y cymorth hwn yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd ariannol pellach ac yn eu gwneud yn fwy gwydn.”
Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan:
“Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddangos eu cefnogaeth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n bwysig sicrhau bod gan staff yn y Canolbarth delerau cyflogaeth teg, a bydd y cyfraniad tuag at y diffyg yn y Cynllun Pensiwn yn helpu i ddiogelu swyddi.”
“Rydym hefyd yn ddiolchgar bod yr heriau sy'n codi o gynnal casgliad digidol cenedlaethol yn cael eu cydnabod, yn enwedig yn dilyn yr ymosodiad seiber diweddar ar y Llyfrgell Brydeinig. Bydd y £225,000 yn mynd tuag at seilwaith sy'n diogelu'r casgliadau digidol yn y tymor hir ac yn sicrhau mynediad atynt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”