Mae dipyn o adrodd wedi bod am gyfnos y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, y sefydliad pwysig hwnnw sydd efallai yn bennaf yn cael ei gofio am ei fethiannau. Wedi hynt a helynt Madam Wen (1982), ffilm a gynhyrchwyd pell dros ei chyllid ar gyfer S4C yn ei mebyd, dim ond un ffilm cynhyrchwyd y Bwrdd cyn ei ddiddymu: Ty’d Yma Tomi (1984).
Yn seiliedig ar waith buddugol Siwan Jones yng nghystadleuaeth sgript Eisteddfod Genedlaethol 1983, ni chafodd Ty’d Yma Tomi fawr o sylw ar y pryd, ac yn sicr ers y cyfnod hwnnw, fawr ddim cyfle sydd wedi bod i’w gwylio hi. O’i chymharu â ffilmiau cynnar S4C o’r un cyfnod, efallai nid yw Ty’d Yma Tomi mor gofiadwy â hynny. Yn wir, mae Kate Woodward yn ei disgrifio fel ffilm “flinedig ac amaturaidd” (2013, 171). Ond, gyda phellter y pedwar degawd ers ei chynhyrchu, mae’n werth – yn fy marn i, o leiaf! – ail-ymweld â’r ffilm.
Yn y ffilm mae Elin (Gwen Ellis) yn actores sydd wedi symud o’r ddinas i’w thŷ haf yng nghefn gwlad y Gogledd wedi iddi adael ei gŵr hi. Yno, does ddim mawr o groeso gan y trigolion lleol. Wrth iddi deimlo’n fwyfwy ynysig, mae hi’n cwrdd â’r Tad Tomos (John Ogwen), yr offeiriad lleol a hynod ddirgel. Mae hi’n hefyd yn derbyn ymwelydd, sef Cathryn (Iola Gregory), sy’n gynhyrchydd teledu sy’n obeithiol o weithio gydag Elin. Wrth iddi ddod i nabod y ddau ddieithryn yn well, mae gorffennol Elin yn dechrau amharu ar ei phresennol.
Yn ogystal â’r prif sêr hynod adnabyddus, mae nifer o wynebau cyfarwydd eraill yn ffilm, gan gynnwys Eiry Palfrey, Dyfan Roberts ac Wyn Bowen Harris.
Tu ôl i’r camera, Gareth Wynn Jones sy’n cyfarwyddo. Yn ogystal â gyrfa hir a phwysig fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd, roedd hefyd yn gadeirydd ar y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg 1978 a 1981. Cyfarwyddodd o Teisennau Mair (1979) ac O.G (1981) i’r Bwrdd yn ogystal â Ty’d Yma Tomi.
Aeth yr awdur Siwan Jones ymlaen at yrfa hynod lwyddiannus, yn ysgrifennu dramâu teledu, gan gynnwys rhai o rai mwyaf adnabyddus S4C fel Con Passionate, Alys, a 35 Diwrnod.
Pam na lwyddodd y ffilm, felly? Wel, i adrodd yr amlwg i ddechrau nid ffilm ‘safonol’ neu ‘da’ yw hi, o reidrwydd, er yr enwogion ynghlwm â hi. Mae’r cymeriadau’n ddryslyd, y naratif yn aneglur, y sgript yn annaturiol, a’r diweddglo’n anfoddhaol… felly pam ei dathlu? Pwy sy’n ei mwynhau?
Fi, am un…! Mae dwy ffilm arall gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg wedi profi droeon nad oes angen i ffilm fod yn un ‘dda’ i ddarganfod cynulleidfa, sef y ffilmiau arswyd Gwaed ar y Sêr ac O’r Ddaear Hen. Cyfeiria Siwan Jones ei hun at y ffilm fel un oedd “yn nhraddodiad Tales of the Unexpected” (Woodward 2013, p. 168). Yn sicr, mae yno naws iasol i Ty’d Yma Tomi sy’n ei rhoi hi’n gyfforddus wrth ochr nifer o ffilmiau arswyd, gwyddonias, trosedd ac ati sy’n cael ei gwerthfawrogi gan filiynau ar draws y byd, ac nid hynny am eu bod nhw’n ‘safonol’.
Yn bersonol, rwy’n mwynhau naws rhyfedd ac aneglur y ffilm. Rwy’n cael mwynhad o’r ffaith bod y perfformiadau, ar adegau, yn rhai melodramatig. Mae’r elfen o abswrdiaeth i’r ffilm yn un bleserus dros ben – yn arbennig y Tomi o’r teitl…sy’n gath. Mae Elin yn galw ar Tomi nifer o weithiau yn ystod y ffilm, ond heb law am ei bresenoldeb yn ei chartref, does fawr o eglurhad pam Tomi sy’n haeddu teitl y ffilm. Calliaf rhag awgrymu bod y ffaith bod yno gath flaenllaw yn y ffilm yn rheswm digonol i’w mwynhau…ond mae’n help.
Mae hi’n ffilm feloddramataidd sy’n edrych yn bennaf fel un realaeth. Gyda golygfeydd o dŷ anghynnes Elin a thirwedd foel yn gefndir i stori sydd fel arall yn un llawn ddigon o benboethder, ias a thyndra. Mae’r cyferbyniad yma yn cyfrannu at ddryswch y ffilm, ond hefyd at ei hapêl: mae’r gwrthgyferbyniad yn rhoi i’r ffilm teimlad anesmwyth, a hynny ei hun yn cyfrannu at ei hias.
Gyda phellter amser, mae’r naws hen ffasiwn sydd i’r ffilm yn apelgar: i raddau yn y ffasiynau ac agweddau’r cymeriadau, ond hefyd yn y ffilm ei hun. Dyma ffilm ddirgel byddai’n dra gwahanol os oedd ffonau symudol neu fynediad hawdd i’r we yn gyffredin. Mae graen gweladwy'r ffilm yn ein hatgoffa fod hon yn dod o gyfnod cyn-ddigidol, arallfydol bron i gynulleidfa sydd wedi arfer gyda phicseli esmwyth heddiw.
Mae hi hefyd yn werth ei dathlu oherwydd ei arwyddocâd fel cynhyrchiad olaf y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg. Bwriad a phwrpas y Bwrdd Ffilmiau oedd cynhyrchu ffilmiau annibynnol er mwyn mwyn sicrhau bod modd i bobl Cymraeg ymwneud â chyfrwng poblogaidd yn eu hiaith ei hunain. Gyda dyfodiad S4C, roedd llai o alw ar ymdrechion y Bwrdd, a’r ymarferoldebau’n gynyddol ddrud.
Ry’n ni’n falch iawn o fod yn geidwad i gasgliad y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, gan gynnwys Ty’d Yma Tomi. Ar hyn o bryd dim ond drwy wneud cais ac ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol mae modd gwylio’r ffilm arbennig hon. Gobeithiwn i’r dyfodol daw fwy o alw arni a fwy o gyfleoedd i’w gweld!
Llyfryddaeth
Woodward, Kate (2013): Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru
Categori: Erthygl