Mae'r Llyfrgell newydd brynu mewn arwerthiant y gyfrol "O-kee-pa: a religious ceremony; and other customs of the Mandans" gan George Catlin. Cyhoeddwyd y llyfr yn Philadelphia yn 1867. Rhoddir disgrifiadau manwl o’r defodau a oedd yn cael eu cynnal yn flynyddol gan lwyth y Mandan ym Missouri er mwyn sicrhau cyflenwad bwyd am y flwyddyn ac er mwyn osgoi cael eu boddi mewn dilyw. Roedd yr awdur wedi treulio 14 blynedd ymysg llwythau brodorol Gogledd a De America, ac mae'n honni mai fe oedd y dyn gwyn cyntaf i gael gweld y defodau hyn. Cymerodd y cyfle i dynnu lluniau o'r Mandans a'u seremonïau, ac mae'r llyfr yn cynnwys 13 plât lliw.
Roedd Catlin yn argyhoeddedig bod tarddiad Beiblaidd i gredoau llwyth y Mandan, yn benodol eu credoau am y dilyw. Mewn atodiad i'r llyfr mae'n gosod allan ei resymau dros gredu mai nhw yw disgynyddion y Cymry a ymfudodd i America gyda'r Tywysog Madog ab Owain Gwynedd yn y 12fed ganrif, gan gynnwys tebygrwydd rhwng rhai geiriau yn yr iaith Gymraeg ac iaith y Mandans. Mae'r awdur ei hunan yn cyfaddef bod y cysylltiad yn amhosibl i'w brofi'n bendant, ac erbyn iddo ysgrifennu'r llyfr roedd yr Indiaid Mandan bron yn gyfan gwbl wedi'u lladd gan y frech wen.
Yn yr 16eg ganrif, John Dee oedd y cyntaf i hawlio’r Byd Newydd i Frenhines Lloegr ar sail mordaith Madog ac am ganrifoedd wedyn roedd storïau am “yr Indiaid Cymreig” yn llifo. O ganlyniad i ffugiadau Iolo Morganwg daeth yn gymhelliad cryf i ymfudo i America o Gymru.
Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin
Categori: Erthygl