Symud i'r prif gynnwys
Individual looking at David Jones material

4 Gorffennaf 2024

Cynhaliodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddau ddigwyddiad fel rhan o brosiect ar waith y bardd a’r artist David Jones.  

Wedi ei ariannu gan y Llyfrgell, y Brifysgol Agored a Chanolfan Ymchwil David Jones, pwrpas y digwyddiadau cychwynnol yma oedd cynnal trafodaethau a chasglu adborth ar beth sydd yn gwneud arddangosfa ddigidol effeithiol. 

Yn ystod y dydd cafwyd trafodaethau a chyflwyniadau gan y Llyfrgell, Casgliad y Werin ac Amgueddfa Cymru gan drafod technoleg, safonau ac adnoddau perthnasol.

Mae’r Llyfrgell yn gartref i gasgliad David Jones ac yn cynnwys archifau, paentiadau ac arysgrifau a bydd y prosiect yn gyfle i daflu goleuni ar un o artistiaid pwysicaf Cymru o’r 20fed ganrif.

Cam nesaf y prosiect fydd dewis eitemau o’r archif i’w digido er mwyn creu arddangosfa ddigidol.   

Categori: Newyddion