Y darganfyddiad diweddaraf o'n casgliad etifeddiaeth yw argraffiad “deluxe” o ‘King Arthur's Wood: a fairy story: and with it the tale re-told of Sir Gareth of Orkney and ye Ladye of ye Castle Perilous' gan yr artist enwog o Ganada, Elizabeth Forbes (1859-1912) a gyhoeddwyd yn 1905. Mae'r argraffiad hwn yn un o 350 o gopïau, ac fe'i cyhoeddwyd gan Simpkin, Marshall, Hamilton, Kent & Co., Bryste. Mae'n cynnwys 28 o blatiau darluniadol hardd, hefyd gan Elizabeth Forbes, yn darlunio golygfeydd o'r stori. Mae lluniau o nifer ohonynt wedi'u cynnwys gyda'r blog hwn.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad helaeth o eitemau yn ymwneud â chwedl y Brenin Arthur. Mae'n cynnwys gweithiau sy'n dyddio mor bell yn ôl â’r 13eg ganrif, ac yn parhau yr holl ffordd hyd at yr 21ain ganrif. Mae'n cynnwys gweithiau gan awduron enwog fel Sieffre o Fynwy, Thomas Malory a Richard Blackmore. Hefyd mae'n cynnwys awduron mwy cyfoes fel Andrew Beattie, Judith John, a Tracey Mayhew.
Ian Evans (Rheolwr Rhaglen Catalogio ar y Cyd)
Categori: Erthygl