Symud i'r prif gynnwys
[Translate to Cymraeg:] Two pupils with their teaching receiving their award

9 Gorffennaf 2024

Ar ddydd Gwener, Gorffennaf 5ed cynhaliwyd seremoniau gwobrwyo Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Daeth cynrychiolwyr o 40 o ysgolion cynradd ac uwchradd o bob cwr o Gymru i Aberystwyth i dderbyn gwobrau ariannol am greu prosiectau sy’n dathlu treftadaeth eu hardal.
 
Nôd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yw cymell disgyblion i ymddiddori yn hanes Cymru, ac ers 1990 mae’r fenter wedi bod yn cynnal cystadleuaeth genedlaethol ar gyfer plant ysgol gwahanol oedrannau. Mae cynhyrchu’r prosiectau yn annog disgyblion i ymchwilio a gwerthfawrogi treftadaeth eu milltir sgwâr, yn ogystal â chynyddu eu hymwybyddiaeth o hanes Cymru.  Bu nifer o'r cystadleuwyr yn defnyddio casgliadau ac adnoddau'r Llyfrgell i wneud hynny.
 
Yn ystod y defodau gwobrwyo cafwyd perfformiadau gan actorion Mewn Cymeriad, a chlywed am brofiadau Betty Campbell, y Brif Athrawes aloesol o Drebiwt, a Mari Jones, y ferch a gerddodd o Lanfihangel y Pennant i’r Bala  i brynu Beibl. I gydfynd â pherfformiad Mari Jones, rhoddwyd cyfle i ymwelwyr weld un o’r ddau Feibl a gludwyd ganddi ar ei thaith, ynghyd â’r Beibl cyntaf argraffwyd yn yr iaith Gymraeg yn 1588.
 
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhan o bartneriaeth sy’n cefnogi Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, ynghyd ag Amgueddfa Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Casgliad y Werin, a llu o noddwyr sy’n cynnwys y Moondance Foundation ac Hodge Foundation. Ceir mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth yma:
https://cy.whsi.org.uk/thecompetition.
 

Categori: Newyddion