Symud i'r prif gynnwys
Llyfrau yn ymwneud a criced yn y Llyfrgell a gatalogwyd yn ddiweddar

1 Mai 2024

Gyda tymor criced y siroedd wedi dechrau a Sam Northeast o Forgannwg wedi torri record am y sgôr uchaf i unigolyn mewn gêm dosbarth cyntaf yn Lord’s fis diwethaf, mae’n amser delfrydol i dynnu sylw at gyhoeddiadau hanesyddol sy’n ymwneud â chriced a gatalogwyd yn ddiweddar.

Mae nifer o eitemau nad oedd cofnod iddynt cyn hyn, nawr ar gael i’n defnyddwyr eu harchebu drwy’r catalog, diolch i waith diwyd ein catalogwyr. Un o’r darganfyddiadau mwyaf diddorol yw rhaglen gêm griced o 1921 ar gyfer gêm rhwng Clwb Criced Sir Gaerhirfryn a thîm teithiol Awstralia. Uchafbwynt y rhaglen yw llofnodion y ddau garfan (gweler y lluniau). Cyflwynwyd y rhaglen i Dywysog Cymru ar y pryd, sef Edward VIII. Mae’r llofnodion yn cynnwys enwogion o'r cyfnod fel Warwick Armstrong o Awstralia a Johnny Tyldesley o Sir Gaerhirfryn a Lloegr. Ennillodd Awstralia'r gêm yn hawdd o fatiad a 8 rhediad.

Dyma ddetholiad o deitlau nodedig eraill o fewn y casgliad hwn:
-    With bat and ball: twenty-five years' reminiscences of Australian and Anglo-Australian cricket: with hints to young cricketers on batting, bowling and fielding / George Giffen (1898)
-    Playing for England!: My Test-Cricket Story / by Jack Hobbs (1931)
-    The fight for The Ashes in 1926: being a critical account of the Australian tour in England / by P. F. Warner
-    Cricket / by the Hon. and Rev. E. Lyttelton (5th edition - 1903)
-    England v. Australia at the wicket: a complete record of all cricket matches played between English and Australian Elevens ([1887])
-    Fresh Light on Pre-Victorian Cricket: A Collection of New Cricket Notices from 1709 to 1837, Arranged in Chronological Order / By G.B. Buckley ([1937])
-    England v. the West Indies, 1895-1957 / by S. Canynge Caple (1957)
-    How to Play Cricket / by Lt.-Col. W. Shirley, and incorporated noted by A.C. Maclaren ([1925])
-    Behind the stumps / by Godfrey Evans ([1951])
-    Cricket fixtures: first class and minor counties. 1957 / from The Times (1957)
-    Cricket's Cradle: The Pedigree, Transformation, and Discovery of the GAME / by H. P. -T. (1923)
-    The Indian team in England, 1946 / by Gully ([1946])

 

Ian Evans (Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd) gyda chymorth Euros Evans (Llyfrgellydd Cynorthwyol).

Categori: Erthygl