Symud i'r prif gynnwys
Y gwir anrhydeddus William Ewart Gladstone, AS

12 Chwefror 2024

Wrth i ail ben-blwydd goresgyniad Wcráin gan Rwsia agosáu ar 24 Chwefror, dyma gyfle amserol i ganolbwyntio ar lyfr gyda’r teitl History of the origin of the war with Russia o Gasgliad Pamffledi Gladstone yn y Llyfrgell. Mae’r casgliad yn cynnwys pamffledi a anfonwyd at Gladstone yn ystod ei gyfnodau fel Prif Weinidog ac aelod o’r Wrthblaid. Awdur y llyfr yw Henry Richard, y Cymro o Dregaron oedd yn Aelod Seneddol dros Ferthyr Tydfil. Roedd Richard yn Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch rhwng 1848 a 1884 ac yn eiriolwr cryf dros gymod rhyngwladol i atal gwrthdaro rhwng cenhedloedd.

Mae’r cyhoeddiad yn ddetholiad o’i gyfraniadau Seneddol sy’n esbonio tarddiad a chefndir Rhyfel y Crimea a ddigwyddodd rhwng 1853 a 1856. Credir taw rhwng 1875 a 1880 y cyhoeddwyd y llyfr, rhwng ail a thrydydd tymor Gladstone fel Prif Weinidog. Mae’r dudalen flaen yn dangos iddi gael ei hanfon at Gladstone gan Richard yn bersonol. Mae’r gyfrol yn dwyn marciau ymylol helaeth gan Gladstone drwyddi draw. Dyma dystiolaeth uniongyrchol fod achosion y tensiwn gyda Rwsia yn flaenllaw ym meddwl Gladstone, fel y mae ym meddyliau ein harweinwyr gwleidyddol heddiw.

Esbonia Richard fod rhyfel y Crimea wedi dechrau oherwydd cwerylon ynglŷn â pherchnogaeth safleoedd Sanctaidd Jerwsalem. Roedd Palestina yn rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd a reolwyd gan Dwrci, ond roedd y safleoedd Sanctaidd o dan reolaeth gwahanol enwadau Cristnogol a phobl Twrci. Roedd yr Eglwys Uniongred Roegaidd (gyda chefnogaeth Rwsia) yn rheoli un safle ac yn rhannu tri safle arall, tra bod yr Eglwys Gatholig (gyda chefnogaeth Ffrainc) yn rheoli pedwar safle ac yn rhannu tri arall gyda’r Groegiaid, Arminiaid, Coptiaid ac eraill. Cymerwyd tri safle oddi wrth y Cristnogion yn gyfan gwbl a chawsant eu rheoli gan bobl Twrci. Daethpwyd i gytundeb i ddechrau rhwng y cenhedloedd perthnasol drwy ‘Nodyn Fiena’, ond wedi i Dwrci newid y cytundeb, fe’i gwrthodwyd gan Rwsia. Yn fuan wedyn, dechreuodd y rhyfel rhwng Rwsia ar un ochr a Ffrainc, Prydain a Thwrci ar yr ochr arall.

Credai Richard fod y rhyfel yn gamgymeriad dybryd gan ei fod yn cryfhau dylanwad ymerodraeth Twrci yn erbyn y cymunedau Cristnogol oedd yn byw yn y tiriogaethau Otomanaidd. Roedd y rhain yn cynnwys tua 12 miliwn o Gristnogion Uniongred Groegaidd. Llwyddodd y rhyfel i wanhau dylanwad Rwsia yn sylweddol, ond credai Richard ei fod yn cynnal goruchafiaeth Twrci dros boblogaeth Gristnogol Ewrop hefyd. Dyma enghraifft gynnar o’r gwrthdaro rhwng Rwsia a’r Gorllewin, gwrthdaro yr ydym yn dyst iddo eto heddiw.

Gallwn ddweud o’r nodiadau ymylol fod Gladstone yn cytuno a llawer o bwyntiau y mae Richard yn eu gwneud wrth eu tanlinellu, er enghraifft, fod Twrci, er ei bod yn awyddus am heddwch, yn amharod i roi’r gorau i’r posibilrwydd o boblogrwydd wrth ennill rhyfel. Mae hefyd yn tynnu sylw at frawddeg sy’n dweud bod buddiannau Lloegr a Rwsia yn Nhwrci yn union yr un fath, gan awgrymu y gallai’r ddwy wlad gyd-weithio pe bai’r Ymerodraeth Otomanaidd yn gwanhau. A allwch chi, y darllenydd, ddeall meddyliau Gladstone trwy’r nodiadau a ysgrifennodd fel y dangosir yn y lluniau?

Roedd gan Henry Richard weledigaeth bwysig yn ei gyfnod. Yn sicr mae angen eiriolwyr cryf dros heddwch a chymod heddiw.

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol

Categori: Erthygl