Symud i'r prif gynnwys
Senedd logo

11 Mehefin 2024

Fel rhan o’r digwyddiadau i nodi 25 mlynedd ers etholiad  cyntaf ar gyfer ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ gwahoddwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig i gymryd rhan mewn digwyddiad amser cinio yn y Senedd ar Ddydd Mercher 8 Mai 2024.

Roedd yn gyfle gwych i’r Llyfrgell arddangos rhai o’r trysorau sydd yn ein casgliadau archifol gwleidyddol a siarad am waith pwysig yr Archif Wleidyddol gydag Aelodau’r Senedd a’u staff.

Ymhlith yr eitemau a ddangoswyd oedd:

  • Taflenni a maniffestos o ymgyrch etholiad y Cynulliad 1999
  • Un o ddyddiaduron Wyn Roberts yn manylu ar yr ymgyrch dros greu S4C
  • Dyddiadur Philip Weeks, Cyfarwyddwr De Cymru o’r Bwrdd Glo Cenedlaethol ar gyfer cyfnod Streic y Glowyr 1984-5
  • Llythyrau a ysgrifennwyd gan Frances Stevenson, ysgrifennydd David Lloyd George, yn sôn am Gynhadledd Heddwch Versailles
  • Gohebiaeth Ann Jones ynglŷn â chau Cymdeithas Plant Cymru

Ysgogodd yr arddangosfa lawer o sgyrsiau yn hel atgofion am unigolion, ymgyrchoedd a digwyddiadau’r chwarter canrif ddiwethaf.
Roedd hefyd yn gyfle i roi cyngor i Aelodau’r Senedd a’u staff ar sut i reoli eu cofnodion a chadw deunydd pwysig ar gyfer eu harchifau eu hunain. 

Categori: Newyddion