T. Gwynn Jones, Dyfnallt, O.M. Edwards, Ambrose Bebb, R. Williams Parry … dyna rai o’n henwogion y mae eu harchifau wedi eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ond yn ddiweddar darganfuwyd llythyron oddi wrthyn nhw a nifer o Gymry amlwg eraill mewn archifdy yn Llydaw. Daeth y rhain i’r golwg yn sgil prosiect rhyngwladol sydd yn casglu a lledaenu gwybodaeth am archifau a llawysgrifau o Lydaw sydd wedi eu diogelu yng Nghymru a’r archifau o Gymru sydd ar gadw yn Llydaw. Arweinir y prosiect gan y Centre de Recherche bretonne et celtique ym mhrifysgol Brest ynghyd â’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, mewn partneriaeth â’r Llyfrgell Genedlaethol ac archifdy Penn ar bed (Finistère) yn Kemper (Quimper).
Dros y blynyddoedd daeth nifer o ymchwilwyr o Lydaw i’r Llyfrgell Genedlaethol i ddefnyddio’r archifau Llydewig helaeth yno, ond hyd yn hyn, prin oedd y wybodaeth oedd ar gael am y deunydd Cymraeg a Chymreig cyfatebol yn Llydaw. Dyna bapurau’r bardd François Jaffrennou (‘Taldir’, 1879-1956), er enghraifft – yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae hanner ei archif, a’r gweddill yn Kemper. Ac yno, mewn ffeiliau gohebiaeth o 1897 hyd 1927, cawsom hyd i lythyron niferus at Taldir oddi wrth Cymry amlwg y dydd, yn Gymraeg gan amlaf, oherwydd roedd Taldir wedi hen feistroli’r iaith. Ymhlith y gohebwyr mae T. Gwynn Jones a Dyfnallt. Roedd eu cysylltiadau nhw â Llydaw yn ddigon hysbys, ond mwy annisgwyl oedd y llythyron difyr oddi wrth R. Williams Parry a Syr Ifor Williams. Yn archifdy Kemper hefyd mae archif Francis Gourvil (1889-1984), a ddysgodd Gymraeg yn Nyffryn Ogwen rhwng y ddau ryfel byd. Nid rhyfedd felly bod llythyron oddi wrth Ambrose Bebb, Dyfnallt a Chymry eraill ymhlith ei bapurau, ac yn aml gellir darllen ochr arall yr ohebiaeth yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Megis dechrau mae’r gwaith a disgwyliwn ddarganfod rhagor o drysorau wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Ceridwen Lloyd-Morgan
Categori: Erthygl