Symud i'r prif gynnwys
Prif ddarlith Cynhadledd ARA yn dangos cyflwyniad gyda'r teitl 'Archives Forever? Supporting Archives in a Time of Climate Crisis' gan Alistair Brown, National Heritage Lottery Fund

9 Medi 2024

Eleni gwnaeth staff o’r timau Archifau a Llawysgrifau a Chadwraeth LlGC y bererindod flynyddol i gynhadledd ARA (Cymdeithas Archifau a Chofnodion) y DU ac Iwerddon a gynhaliwyd eleni yn Birmingham ar y 28-30 Awst. Mae'r gynhadledd yn arddangos ac yn trafod y materion mwyaf cyffredin sy'n wynebu archifwyr, rheolwyr cofnodion a chadwraethwyr ac yn rhoi cyfle gwych i ddysgu a rhannu syniadau.

Y thema eleni oedd ‘Climate and Crisis: Tackling it Together’ ac archwiliodd yr hyn y gallwn ei wneud fel gweithwyr archifol proffesiynol nid yn unig i helpu i liniaru a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd ond hefyd sut y gallwn ddiogelu casgliadau yn y dyfodol rhag newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol.

Roedd rheoli data cynaliadwy a moesegol hefyd yn bwnc cyffredin a chynhaliwyd sesiwn fywiog ac addysgiadol ar yr arfer gorau ar gyfer rheoli data cyfryngau cymdeithasol gan archifydd LlGC, Rob Phillips (Archif Wleidyddol Gymreig) a Rachel MacGregor (Prifysgol Warwick), a thynnodd sylw at yr angen am driniaeth sensitif o ddata archifol mewn maes sy'n dal yn gymharol newydd a ddatblygol.

Yn ogystal, canolbwyntiodd sesiynau ar y bynciau o gynaliadwyedd a chyfyngu ar effaith amgylcheddol wrth gyflawni’r prosesau archifol o gasglu, cadwraeth, a darparu mynediad, o ddeunyddiau cynaliadwy a ddefnyddir mewn cadwraeth, i storio ynni effeithlon a glanhau digidol.

Yn olaf, dangoswyd bod gwersi gwerthfawr i’w dysgu o’r cofnodion archifol eu hunain, gyda phwyslais cyffredinol ar y cyfoeth o hanes amgylcheddol sydd i’w ddatgloi o gasgliadau hanesyddol. Roedd y drafodaeth yn cynnwys casgliadau archifol amrywiol o sefydliadau megis y Royal Botantical Gardens Kew, UCD National Folklore Collection, National Meteorological Archive, Met Éireann, Historic Environment Scotland, a’r British Geological Survey (ymhlith llawer o rai eraill!). Dangoswyd sut y gall y casgliadau hyn ddarparu cysylltiad â’r amgylchedd a dylanwadu ar arfer archifol trwy ddata gwyddonol, arolygon, chwedlau gwerin, iaith, ac addysg, ac yn bwysicaf oll, sut y gall archifau’r dyfodol ddysgu gwersi o gofnodion y gorffennol.

Categori: Erthygl