Symud i'r prif gynnwys
'A man in a cart drawn by a donkey' gan John Thomas

17 Ebrill 2024

Cofnod gwadd yn ymwneud â chasgliad John Thomas sydd yn y Llyfrgell.

‘Golwg Ehangach’: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria

Ruth Richards (Gwasg Prifysgol Cymru)

Mae’r gyfrol newydd hon yn ymdrin â gwaith y ffotograffydd Cymraeg John Thomas (1836-1905) yng nghyd-destun ei gyfnod (Oes Fictoria) a’i ddiwylliant (y Gymru Anghydffurfiol Ryddfrydol). Ynddi, cynigir olwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd drwy eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru ei gyfnod. Dadleuir, drwy gymhariaeth â gwaith Daniel Owen, i John Thomas fabwysiadu ymateb nofelyddol i’w gyfrwng gan ganiatáu i amryfal ‘leisiau’ a phrofiadau ei eisteddwyr ddod ynghyd i greu darlun cynhwysfawr a chymhleth o’i oes, ei ddiwylliant a’i gymdeithas. Edrychir yn ogystal ar berthynas John Thomas ag O. M. Edwards, perthynas sy’n cymhlethu hyd heddiw ein dealltwriaeth o’r lluniau.

Mae’r gyfrol yn ymdrechu i adfer gweledigaeth artistig John Thomas, a dadleuir y drylliwyd y weledigaeth hon wrth i nifer o ffactorau megis ymatebion ansensitif i ddiwylliant Cymraeg a rhagfarnau yn erbyn ffotograffiaeth fel cyfrwng artistig ddod ynghyd i daflu cysgod dros wreiddioldeb, craffter a hiwmor y ffotograffydd hynod hwn.

Er mwyn amlygu’r gwreiddioldeb hwn yn ogystal â moderniaeth ymateb John Thomas, cymharer ei waith â phrosiect diweddarach y ffotograffydd Almaenig avant-garde, August Sander (1876-1964), o gofnodi holl gynrychiolwyr ei gyfnod a’i gyfoedion drwy gyfrwng ffotograffiaeth: cymhariaeth sy’n amlygu drachefn pa mor wirioneddol arloesol ydoedd gweledigaeth ffraeth a chreadigol y Cymro.

Ruth Richards

Categori: Erthygl