Symud i'r prif gynnwys
Cyfrinachau'r Llyfrgell: Datgelu rhai o drysorau'r casgliad Llyfrau Print

Written by Timothy Cutts

4 Hydref 2024

Wrth ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer y gyfres deledu Cyfrinachau'r Llyfrgell, mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn gweld nifer o drysorau o'r casgliadau printiedig. Un o'r rhai cynharaf sy'n cael eu dangos iddo yw A relation of some yeares travaile, begunne anno 1626. Into Afrique and the greater Asia, especially the territories of the Persian monarchie: and some parts of the Orientall Indies, and iles adiacent.

Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn Llundain yn 1634. Mae'r awdur yn cael ei enwi ar y dudalen deitl fel "T.H. Esquier", ond ei enw llawn oedd Syr Thomas Herbert, perthynas i deulu Iarll Penfro ac aelod o lys y Brenin Siarl I.

Aeth Herbert ar ei daith i Affrica ac Asia yng nghwmni Syr Robert Shirley a Syr Dodmore Cotton, a oedd wedi cael ei apwyntio fel llysgennad i Persia. Yn y llyfr mae'n disgrifio'r gwahanol wledydd lle roeddent yn teithio, ynghyd â'u pobloedd a'u bywyd naturiol.

Ar ynys Mauritius gwelodd aderyn mawr oedd yn methu hedfan ac a elwir yma, am y tro cyntaf, yn dodo. Erbyn diwedd y ganrif roedd wedi diflannu.  Mae Herbert yn disgrifio'r dodo fel "reputed of more for wonder then food ... of no nourishment" ac mae'n debyg mai nid hela a arweiniodd at ddiflaniad y dodo ond cystadleuaeth creaduriaid eraill.

Mae Herbert hefyd, yn ddiddorol iawn yn adrodd stori darganfyddiad America gan Madog ab Owain Gwynedd yn y 12fed ganrif.  Mae'r chwedl hon wedi cael ei hail-adrodd mewn sawl llyfr dros y canrifoedd, gan gynnwys O-kee-pa: a religious ceremony; and other customs of the Mandans gan George Catlin (1867) a brynwyd gan y Llyfrgell yn ddiweddar. 


Os nad ydych wedi gweld y bennod eto, gallwch ei gwylio ar BBC iPlayer.

Timothy Cutts
Rare Books Librarian

Categori: Erthygl