Symud i'r prif gynnwys
Cyfrinachau’r Llyfrgell: cyfrinachau’r Adran Mapiau

Written by Ellie King

23 Medi 2024

A wnaethoch chi wylio pennod gyntaf Cyfrinachau’r Llyfrgell nos Fawrth 17 Medi ar S4C? Os felly, byddwch wedi gweld eitemau o’n casgliad mapiau yn chwarae rhan flaenllaw yn ystod taith Tudur Owen o amgylch y llyfrgell.  

Map cyntaf Tudur oedd map o Ynys Môn gan John Speed, un o’r mapiau cyntaf i ddangos y sir ar ei phen ei hun. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Theatre of the Empire of Great Britain yn 1611, sef atlas o Brydain gyfan. Mae hynny ond yn 40 mlynedd ar ôl cyhoeddi’r atlas cyntaf un, fel y byddem yn ei adnabod heddiw, gan Abraham Ortelius yn Antwerp. Gwaith John Speed oedd yr atlas mawr cyntaf i gael ei gynhyrchu ym Mhrydain, gyda map ar gyfer pob sir yng Nghymru yn yr ail gyfrol.

Cyfraniad mawr Speed at ddatblygiad cartograffeg oedd cynnwys mapiau o drefi pwysig ym mhob sir. Mae map Sir y Fflint yn cynnwys cynlluniau o'r Fflint a Llanelwy, yn ogystal â golygfa o Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. 

Ar gyfer nifer o drefi, dyma'r mapiau cynharaf sy'n dangos strydoedd yn fanwl. Gall y cynllun strydoedd fod yn debyg iawn i'r presennol. Wrth chwyddo fewn ar gynllun Caerdydd, o fap Speed o Sir Forgannwg, gallwn weld llefydd adnabyddus fel y castell ac Eglwys Sant Ioan (wedi’i labelu N), ac mae’r allwedd yn cynnwys rhai enwau strydoedd sy’n gyfarwydd i ni: High Street (label G), sy’n rhedeg i’r de-ddwyrain o’r castell, Working Street ger St John's (label K), a Duke Street (wedi'i labelu'n Q). 

Fy hoff ran i o fapiau Speed yw’r creaduriaid yn y moroedd o amgylch Cymru.

Gwelodd Tudur Owen ei gartref ei hun hefyd ar un o'n mapiau degwm o'r 19eg ganrif, a llwyddodd i ddarganfod pwy oedd yn gweithio ar yr union tir yn 1841. Gallwch wneud yr un peth trwy chwilio ein gwefan Lleoedd Cymru, lle mae ein mapiau degwm wedi'u digideiddio a'u troshaenu ar fap modern.

Os nad ydych wedi gweld y bennod eto, gallwch ei gwylio ar BBC iPlayer.