Mae Cyfrinachau’r Llyfrgell yn gyfres newydd sbon ar S4C lle mae Dot Davies yn mynd â sêr adnabyddus ar daith bersonol ac emosiynol drwy goridorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Cartref ein Cyfrinachau.
Mae pedwar o bersonoliaethau adnabyddus Cymru - y darlledwr a'r digrifwr Tudur Owen; cantores, cyfansoddwraig a darlledwr Cerys Matthews; y naturiaethwr Iolo Williams a'r newyddiadurwr Maxine Hughes – yn ymddangos yn y gyfres newydd hon, gyda’r Llyfrgell ei hun yn chwarae rhan hanfodol ac yn gymeriad cadarn ynddi.
Gwyliwch wrth i’r pedwar darganfod straeon twym galon ac, ar adegau, rhai torcalonnus o'r gorffennol, gan ddarganfod y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Gwyliwch fan hyn
Cyfrinachau’r Llyfrgell
Nos Fawrth, o 17 Medi ymlaen
21.00
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Slam Media ar gyfer S4C