Wythnos diwethaf, dathlodd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol 75 mlynedd ers ei sefydlu. Diddorol yw nodi y prynwyd argraffiad cyntaf prin (1875) gan y Llyfrgell llynedd o’r llyfr ‘Diseases of the Hip, Knee and Ankle Joint and their treatment by a new and efficient method’ gan y llawfeddyg Hugh Owen Thomas. Fe’i cyhoeddwyd gan T. Dobb o Lerpwl.
Ganwyd Hugh Owen Thomas yn Sir Fôn yn 1834. Hyfforddodd fel llawfeddyg yn gyntaf gyda’i ewythr, Dr Owen Roberts, yn Llanelwy a hynny am bedair blynedd. Wedyn astudiodd feddygaeth yng Nghaeredin a Choleg Prifysgol Llundain. Datblygodd i fod yn llawfeddyg orthopaedig a gwneuthurwr rhwymyn (brace) llwyddiannus yn Lerpwl. Ysgrifennodd yn eang ar sut i drin toriadau gan ddefnyddio dulliau arbrofol a ddatblygodd ef ei hun. Dyma un o gyhoeddiadau cynharaf Thomas. Nifer fach o’r rhain a gyhoeddwyd a’u diben oedd eu cyflwyno i’w ffrindiau. Yn ddiddorol, ni wnaeth unrhyw ymdrech i roi cyhoeddusrwydd i’w lyfr a credir iddo ddistrywio’r copïau oedd yn weddill ar ôl eu dosbarthu.
Priodolir i Thomas o leiaf tair rheol wyddonol, sylfaenol ar sut i drin toriad. Yn gyntaf, mae’n bwysig fod y claf yn cael ei orfodi i orffwys. Yn ail, ni ddylid rhoi pwysau ar y cymal sydd wedi brifo ac yn drydydd mae’n bwysig symbylu’r cylchrediad o fewn y cymal sydd wedi brifo yn ystod y cyfnod adfer.
Mae’r dulliau llawfeddygol a ddisgrifir yn y llyfr yn dal i gael eu defnyddio heddiw a mae eu defnydd wedi galluogi trin fwy o gleifion yn llwyddiannus, gan osgoi cymalau sy’n gwella’n ddiffygiol ar ôl toriadau. Mae hefyd wedi llwyddo i leihau’n sylweddol y nifer o ddrychiadau.
Cyhoeddwyd y llyfr hwn saith deg tri mlynedd cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Mae’n rhoi cip o’r gofal meddygol oedd ar gael i bobl yn gyffredinol cyn darpariaeth gan y wladwriaeth. Ceir cyfeiriadau cyson at gost ac argaeledd triniaethau a bod y rhain yn dibynnu ar gyfoeth y claf.
Diddorol yw sylwi fod Thomas yn sôn am driniaethau a ddefnyddir gan lawfeddygon led led y byd. Mae’n gwerthuso’r technegau gwahanol hyn mewn modd beirniadol gan geisio gwella arnynt wrth ddatblygu ei ddulliau ei hun. Trwy gydol y llyfr mae Thomas yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos iddo ystyried yn fanwl lwyddianau a methianau ei driniaethau wrth addysgu llawfeddygon eraill.
Yn sicr, gwnaeth Hugh Owen Thomas gyfraniad sylweddol i ddatblygiad dulliau llawfeddygol dros y degawdau.
Hywel Lloyd,
Llyfrgellydd Cynorthwyol
Categori: Erthygl