Wrth ddarllen drwy’r cyfrolau gwahanol yng nghasgliad llyfrau Yr Ysgol Gymraeg yn Ashford, Llundain, un o’r enwau amlwg o ganol y cloriau yw William Owen Pughe. Nodir ef fel Llyfrgellydd Cymdeithas yr Hen Frytaniaid ar gyfer y blynyddoedd 1830 -1832, 1834-35 yn un o gyfrolau Adroddiad Blynyddol yr ysgol. Roedd William Owen Pughe yn eiriadurwr, olygydd, hynafiaethydd a bardd enwog ar ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau’r 19eg ganrif. Gadawodd ei ardal enedigol yn sir Feirionnydd i symud i Lundain yn 1776 lle bu’n byw yn y brifddinas am bron 30 mlynedd. Er iddo ddychwelyd i Gymru ar ôl iddo etifeddu ystâd yn 1806, roedd ei gysylltiadau gyda Llundain yn parhau yn gryf. Mae’r cysylltiadau hyn yn cael eu hamlygu yn ei rôl fel Llyfrgellydd Cymdeithas yr Hen Frytaniaid ar ddechrau’r 1830au ac ef hefyd oedd golygydd, ‘Y Greal’, sef cylchgrawn y Cymmrodorion a’r Gwyneddigion, rhwng 1805-07.
Fel ei gyfoedion, cyfrannodd Pughe lawer i fywyd diwylliannol a llenyddol Cymru. Bu ei ymdrechion yn gyfraniad i ysgolheictod y 19eg ganrif oherwydd dyhead ef a’i debyg i ail-ddatgelu ac argraffu cynnwys yr hen lawysgrifau. Cynorthwyodd Owain Myfyr, a oedd ar un adeg, wedi bod yn ysgrifennydd cynorthwyol i Gymdeithas y Cymmrodorion ac yn Lywydd Y Gwyneddigion, yn y gwaith o gyhoeddi barddoniaeth Dafydd ap Gwilym am y tro cyntaf yn 1789. Bu’r ddau hefyd, ynghyd â Iolo Morganwg, yn gyfrifol am goladu a chyhoeddi ‘The Myvyrian archaeology of Wales’, rhwng 1801 ac 1807, sef casgliad o lawysgrifau Cymraeg yn cynnwys Brutiau (Croniclau) a barddoniaeth gynnar Cymraeg. Bu cyfraniad Y Cymmrodorion yn allweddol yn natblygiad sefydliadau addysgol eraill yng Nghymru, er enghraifft, Prifysgol Cymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a chafodd y Gymdeithas ddylanwad ar drafodaethau niferus yn ymwneud â chreu sefydliadau cenedlaethol diwylliannol ac addysgol yng Nghymru yn ystod yr 20fed ganrif.
Mae Adroddiad Blynyddol yr ysgol yn dangos bod cysylltiad yr ysgol gyda boneddigion a noddwyr pwysig o Gymru yn parhau. Ymhlith rhestr Llywodraethwyr a Thanysgrifwyr yr ysgol (oeddent hefyd yn aelodau o ‘The Most Honourable and Loyal Society of Antient Britons’) yn 1890 mae yna gysylltiad lleol gydag Aberystwyth, er enghraifft, roedd yr Arglwydd Lisburne, Trawsgoed, Aberystwyth, wedi tanysgrifio £5/5s/5d ar gyfer 1889. Roedd cyndeidiau’r Arglwydd Lisburne yn un o sylfaenwyr ‘The Most Honourable and Loyal Society of Antient Britons’ pan gafodd ei sefydlu yn 1714-15 mewn cinio a gynhaliwyd yn Haberdashers Hall.
Mae Adroddiad 1890 hefyd yn rhestru cyfraniad Sgweier J. Loxdale, Castle Hill, Llanilar, Aberystwyth a dalodd £1/1s drwy danysgrifiad yn 1889; Uwch-gapten Price Lewes, Tŷ-glyn Aeron, Ciliau Aeron, Ceredigion a oedd wedi tanysgrifio £1/1s yn 1889; hefyd Theresa, y Weddw Ardalyddes (Dowager Marchioness) Londonderry, Plas Machynlleth, a danysgrifiodd £5/5s ar gyfer 1889. Un arall a gyfrannodd oedd y Bonheddwr Thomas Savin, Croesoswallt, perchennog cyntaf Gwesty Castell Aberystwyth cyn iddo ei werthu yn 1867 oherwydd dyledion. Prynwyd y gwesty fel un o adeiladau cyntaf Coleg Prifysgol Aberystwyth, ac sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Yr Hen Goleg’, wedi ei leoli lawr ger y prom yn Aberystwyth.
Ymhlith Llywodraethwyr a Thanysgrifwyr eraill yr ysgol yn 1890 a oeddent yn adnabyddus yng Nghymru ar y pryd oedd Syr R. Williams Bulkeley, Biwmares; David Davies, Broneirion, Llandinam; yr Arglwydd Dinefwr, Castell Dinefwr, Llandeilo; y Gwir Anrhydeddus W. E Gladstone, Hawarden, Caer; yr Arglwydd Harlech, Brogyntyn, Croesoswallt; yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, Stuart Rendel, 4 Whitehall Gardens, Llundain; Arglwydd Aberdâr a Syr W. Williams Wynn, Wynnstay, Rhiwabon a’i wraig a’i fam, y Weddw Foneddiges Williams Wynn, Llangedwyn, Croesoswallt.
Roedd cydnabod cysylltiadau brenhinol yr ysgol yn hollbwysig i broffil yr ysgol gyda’r brenin/frenhines bresennol yn Llywydd anrhydeddus yr ysgol. Ymddangosai arfbais y frenhiniaeth ar dudalennau blaen adroddiadau blynyddol yr ysgol er mwyn pwysleisio teyrngarwch ethos, disgyblion a staff yr ysgol i’r sefydliad hefyd. Cynhaliwyd ciniawau blynyddol fel symbol o’r teyrngarwch hynny yn ogystal â bod yn achlysuron codi arian i’r ysgol. Cynhaliwyd y Ddawns Fawreddog Gwisg Ffansi a Gwisg Llawn gyntaf er budd y ‘Welsh Charity School’ pan lleolwyd hi yn Gray’s Inn Road, yn Ystafelloedd Willis, Sgwâr St. James, ym Mehefin 1823. Dathlwyd 185 mlynedd yr ysgol ym Mwyty Holborn ar Fawrth 1af, 1900.
Cyrhaeddodd Edward Jones (1752-1824) Llundain tua 1775 ac erbyn diwedd y ganrif honno cafodd ei benodi fel y telynor i Dywysog Cymru. Adnabyddwyd ef hefyd fel ‘Bardd y Brenin’. Deuai o deulu cerddorol yn sir Feirionnydd, roedd yn feirniad ar ganu’r delyn ac yn gasglwr brwd o alawon Cymreig. Cyhoeddwyd nifer o drefniadau ganddo ar gyfer y delyn ac ar alawon a hen benillion brodorol. Cyhoeddwyd y gwaith ‘Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards’ yn wreiddiol yn 1784 a chynhwysai alawon gwerin Cymraeg a barddoniaeth Cymraeg, er enghraifft, ‘Gorhoffedd Gwŷr Harlech – The March of the Men of Harlech, ‘Gogerddan’, ‘Hob y Deri Dando’, ‘Rhyfelgyrch Cadpen Morgan / Captain Morgan’s March’. Roedd esboniad o gefndir hanesyddol y caneuon gwerin i gyd-fynd gyda phob cân yn y llyfr.
Ymhlith yr eitemau eraill oedd ‘The history of North Wales: comprising a topographical description of the several counties of Anglesey, Caernarvon, Denbigh, Flint, Merioneth, and Montgomery’. Fe’i ysgrifennwyd gan William Cathrall yn 1860. Hefyd ‘A Book of Glamorganshire’s Antiquities’ gan Rice Merrick, Esq, 1578’, sef cyfrol a gyflwynwyd gan Syr Thomas Phillips i Gymdeithas y Cymmrodorion ar Fawrth 4, 1831.
Cynhwysai llyfrgell yr ysgol amrywiaeth eang o ddeunydd darllen gwreiddiol gan enwogion Cymru mewn gwahanol feysydd, er enghraifft, ‘Canwyll y Cymru’ gan y Ficer Pritchard, Llanymddyfri; ‘Historie Britannicae Defensio’, gan J. Price a gyhoeddwyd yn 1573; ‘The Historie of Cambria’ gan Caradog o Llangarvan ac argraffiad a gyhoeddwyd yn 1848 o Adroddiad Addysg 1847, sef cyfrolau o adroddiadau ar gyflwr addysg yng Nghymru oedd yn fwy adnabyddus fel ‘Brad y Llyfrau Gleision’.
Tra fu’r ysgol mewn bodolaeth bu’n ffocws ar gyfer nawdd a chefnogaeth unigolion a sefydliadau oedd â diddordeb mewn diwylliant a threftadaeth Cymru. Yn sicr bu ei llyfrgell yn warchodfa i gadw trysorau llenyddol a llawysgrifau’r Cymru fel bod y waddol honno’n cael ei hamddiffyn a’i chadw i genedlaethau’r dyfodol.
Llyfryddiaeth
- Adroddiad Blynyddol yr Ysgol Gymraeg i Ferched
- Gwefan LLGC
- Y Bywgraffiadur Cymreig
- ‘Hanes Cymru’ – John Davies
Bethan Hopkins-Williams
Cynorthwy-ydd catalogio
Categori: Erthygl