Ar 13 Rhagfyr 2023 prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn arwerthiant grŵp mawr o bapurau o Gasgliad Powys Mappowder, papurau teulu’r Powysiaid a gasglwyd gan Lucy Amelia Penny (1890-1986), yr ieuengaf o un ar ddeg o blant y Parch. C. F. Powys a Mary Cowper Johnson. Ymhlith ei brodyr a chwiorydd roedd yr awduron John Cowper Powys (1872-1963), Theodore Francis Powys (1873-1953) a Llewelyn Powys (1884-1939). Daw enw'r casgliad o bentref Mappowder yn Dorset, cartref Lucy o 1950.
Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o gerddi cynnar a llawysgrifau llenyddol eraill John Cowper Powys, pregethau'r Parch. C. F. Powys a phapurau aelodau eraill o'r teulu, ond y rhan fwyaf o'r archif o bell ffordd yw'r gohebiaeth. Mae 1500 yn lythyrau teuluol. Mae'r mwyafrif yn lythyrau at Lucy oddi wrth ei theulu (mae yna gant chwe deg chwech iddi oddi wrth ei brawd John er enghraifft), ond casglodd hefyd lawer o lythyrau eraill gan deulu a ffrindiau.
Yn ogystal â'r rhain ceir ymhell dros ddwy fil o lythyrau pellach, sef gohebiaeth Lucy â'i hunig ferch Mary Casey (1915-1980), awdur y nofel The Kingfisher's Wing (1987) (mae llawysgrif hon hefyd wedi'i chynnwys), a Gerard (m. 2002), gŵr Mary. Yn 1947, ar awgrym John Cowper Powys, symudodd Mary a Gerard i Kenya i fyw (adlewyrchir hyn yn y ffaith fod llawer o'r ohebiaeth wedi ei yrru ar ffurf llythyrau awyr).
Prynodd LlGC hefyd saith albwm o ffotograffau teuluol y Powysiaid yn yr arwerthiant ac mae'r rhain bellach yn rhan o Gasgliad Ffotograffau'r Llyfrgell.
Yn dilyn marwolaeth Lucy arhosodd y casgliad yn Mappowder yng ngofal perchennog Newydd y bwthyn. Tra yno cafodd y casgliad cyfan ei ddidoli a'i gatalogio'n ofalus ac ar hyn o bryd mae'r ohebiaeth yn dal yn cael ei storio'n daclus iawn mewn dau ar bymtheg o focsys esgidiau.
Mae casgliad Mappowder yn ategu'r grŵp mawr o lawysgrifau a phapurau (139 o gyfrolau a 63 o focsys) sydd eisoes yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymwneud â John Cowper Powys a hefyd ei bartner Phyllis Playter, ei frodyr a chwiorydd a'r teulu ehangach (yma cawn 660 o lythyrau i John o Lucy a deg ar hugain oddi wrth Mary). Symudodd John a Phyllis i Gymru yn 1935, gan fyw yng Nghorwen ac yn ddiweddarach Blaenau Ffestiniog.
Edrychaf ymlaen yn fawr at gatalogio'r casgliad yn y dyfodol agos; bydd ar gael i'r cyhoedd yn fuan wedyn.
Rhys Jones
Curadur Cynorthwyol (Llawysgrifau)
Categori: Erthygl