Mae Ystafell Peniarth yn ofod arddangosfa sylweddol ac yn thrwyfa yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r gofod yn cynnwys tair sgrin, sy’n galluogi’r Archif Sgrin a Sain i arddangos eitemau o’r casgliadau, a, pan fo angen, cyd-fynd â gweithiau eraill sy’n cael eu dangos.
Cafodd arddangosfa gyfredol Peniarth, Golwg Ar Asia, ei churadu gan Miidong P. Daloeng, Swyddog Prosiect Dadgoloneiddio Archifau'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n cynnwys ffotograffau hynod, gan gynnwys rhai wedi’u lliwio â llaw, a gymerwyd o albymau J. R. Harding, Dolaucothi, a Bourne & Shepherd (Indian Views). Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys detholiad o eitemau o’r archifau clyweledol.
Fe wnaeth staff o’r Archif Sgrin a Sain a’r Archif Ddarlledu cynorthwyo Miidong drwy gasglu rhestr hir o eitemau clyweledol perthnasol, ac o hynny dewisodd hi ddetholiad terfynol – ac un rhaglen lawn – ar gyfer yr arddangosfa. Wrth greu’r rhestr hir, wnaethon ni ffocysu ar sicrhau amrywiaeth o gynnwys, yn bennaf eitemau wedi’u ffilmio mewn amryw o fannau ar draws Asia, yn ogystal â rhai oedd yn adlewyrchu’r profiad Asiaidd yng Nghymru.
Dyma’r rhaglenni a’r clipiau sy’n rhan o’r arddangosfa.
Yn Blwyddyn y Brenin (HTV Wales, 1987), mae Cenwyn Edwards yn cyflwyno portread o’r Wlad Thai i gyd-fynd â phen-blwydd Brenin Rama IX yn 60 mlwydd oed. Mae Edwards yn cyflwyno pwysigrwydd y pen-blwydd arbennig yma yn ôl sodiac y calendr lleuadol Thai, ac yn amlinellu ffynnu economaidd Gwlad Thai yn ystod teyrnasiad hir y brenin. Drwy gydol y clip cawn weld manylion hardd adeiladau traddodiadol yn ogystal â dawnswyr, milwyr, gwerthwyr bwyd ar yr afon Chao Phraya, a delweddau o’r Brenin ei hun.
Roedd Amser Te (TWW, 1960) yn rhaglen cylchgrawn wedi’i anelu’n bennaf at fenywod, ac wedi’i gyflwyno gan Myfanwy Howell. Mae’r clip yma o un rhifyn o’r rhaglen yn dangos trŵp cerddorol o India yn perfformio dau gân mewn gardd. Ar gyfer yr un gyntaf, mae dau ddyn a menyw yn eistedd ar flanced, y naill yn chwarae dau sitar a set o tabla, y fenyw yn canu. Yn yr ail ddarn, mae’r ffocws ar ddwy fenyw yn canu ac yn ychwanegu at y gerddoriaeth drwy glapio’u dwylo.
Mae dau glip o Eisteddfod Llangollen yn uwcholeuo celfyddyd o wahanol fannau yn Asia. O 1982 (HTV Wales), mae Maureen Staffer yn cyflwyno’r grŵp Chen Chin, 8 o ddawnswyr a 6 o gerddorion, o Tsiena, sy’n perfformio beth sy’n ymddangos fel dawns guzi yangge. Y grŵp oedd y gyntaf o Tsiena i fynychu’r Eisteddfod. Ac o 2013, mae Wynne Evans yn cyflwyno côr Sefydliad Cenedlaethol Technoleg Jinggaswara yn perfformio cân Indonesaidd traddodiadol ar y maes.
Mae Hong Kong Time (HTV Wales, c. 1981), a gyfarwyddwyd gan Clive Atkins, yn ffilm Bwrdd Twristiaeth Hong Kong sy’n paentio darlun o’r rhanbarth drwy nifer o ddelweddau montage sy’n cynnwys trigolion yn ymarfer tai chi, trafnidiaeth ddinesig, crefftau traddodiadol, siopa a bwyd. Mae yno wrthgyferbyniad rhwng traddodiad a bywyd modern yn y ffilm i’w weld mwyaf amlwg mewn delweddau o berfformiadau dawns sy’n cynnwys steiliau Tsieneiaidd a gorllewinol.
O ddiddordeb arbennig i ni ac i unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r archif yw Dan Bach a Kiss (S4C, 2014), rhaglen deithio sy’n dilyn ein Dan Griffiths ni ar daith unwaith-mewn-bywyd i Japan i weld ei hoff fand, KISS, yn perfformio yno. Mae’r clip sydd wedi’i gynnwys yn yr arddangosfa yn dangos argraff gyntaf Dan o Tokyo, gan gynnwys y groesfan Shibuya enwog.
Mewn rhifyn o The Slate (BBC Wales, 1994), mae Eddie Ladd yn cyflwyno eitem ar y sîn bhangra ffynnol yng Nghaerdydd, gan gynnwys delweddau o’r bang bhangra 2XL yn perfformio a mewnwelediad gan y newyddiadurwraig Annand Jasani o’r Ŵyl Celfyddydau De Asia. Mae sîn gwefreiddiol Caerdydd hefyd yn cael ei leoli mewn cyd-destun Prydeinig, gyda ffocws ar lwyddiant Apache Indian yn y siartiau.
Mae rhifyn 1984 Y Byd Arall (HTV Wales) yn defnyddio’r delweddau gwreiddiol ffilmiwyd gan y raswr ceir Clara “Clärenore” Stinnes a’r sinematograffydd Carl-axel Söderström yn ystod eu taith 2-flynedd ar draws y byd ar gyfer ceir Adler, 1927-1929. Mae’r clip yn yr arddangosfa yn egluro eu bod nhw wedi dilyn ffyrdd y camelod drwy’r anialwch Gobi er mwyn cyrraedd Kalgan (neu Zhangjiakou) yng ngogledd Tsiena. Gwelwn ni’r camelod yn gweithio, yn ogystal â thrigolion yr ardal yn gweithio ac yn chwarae.
Ar ail sgrin yn Peniarth mae’r rhaglen gyfan Hong Kong Pwy? a ddarlledwyd gan S4C yn 1997. Mae’r rhaglen ddogfen yn dilyn Min Chan, o Gaernarfon, wrth iddi ymweld â’i theulu estynedig am y tro gyntaf, yn Luk Keng a Tai Po. Tra’n bennaf yn dilyn profiadau Min a’i theimladau wrth iddi ymweld am y tro gyntaf, mae’r rhaglen hefyd yn dogfennu nifer o draddodiadau, bywyd yn Kowloon, a’r hanes a’r berthynas rhwng Hong Kong a Tsienia’r brifdir.
Rydym yn gobeithio bod y detholiad yn adlewyrchu rhywfaint o amrywiaeth Asia a’i phobl, gan gynnwys y diaspora yma yng Nghymru. Mae modd mwynhau’r arddangosfa Golwg ar Asia am nifer mwy o wythnosau, nes 28 Medi, felly mae digon o amser o hyd i ymweld a mwynhau’r eitemau cyfoethog ac amrywiol sydd ar ddangos.
Categori: Erthygl