Mae yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru oddeutu 40,000 o lawysgrifau, sy'n ffurfio'r casgliad mwyaf a phwysicaf o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig yn y byd.
Cyfrol wedi ei hysgrifennu â llaw, neu gasgliad o ddogfennau wedi eu dwyn ynghyd i ffurfio cyfrol yw llawysgrif fel arfer. Mae llawysgrifau yn cael eu cadw ar wahân i gasgliadau archifau'r Llyfrgell, er bod y berthynas rhyngddynt yn agos.
Ysgrifennwyd llawysgrifau’r Llyfrgell ar bapur, memrwn, papyri, dail, llechi ac amryfal gyfryngau eraill. Mae gennym hefyd enghreifftiau o lawysgrifau mewn amryw o wahanol ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Lladin, Ffrangeg a Chernyweg.
Mae yn y Llyfrgell 2 brif ddosbarth o lawysgrifau, sef:
Bellach, catalogir holl dderbynion llawysgrif newydd y Llyfrgell yn electronig, ac mae mwy a mwy o’r disgrifiadau blaenorol yn cael eu hychwanegu at y gronfa, a’u hadolygu.
Gellir cael mynediad arlein i’r llawysgrifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio ar Gatalog y Llyfrgell. Gellir chwilio am enwau, pynciau ac enwau lleoedd, ynghyd â chwilio testun rhydd. Gellir hefyd bori yn yr Ystafell Ddarllen mewn disgrifiadau cynnar a gyhoeddwyd mewn nifer o wahanol gatalogau papur.
Wedi sicrhau tocyn darllen, darllenir llawysgrifau yn yr Ystafell Ddarllen yn y Llyfrgell. Mae yno gyfarpar arbennig, megis lamp uwch-fioled, i hwyluso’r gwaith o astudio’r deunydd cynharaf, yn ogystal â chyfeirlyfrau hwylus y gellir ymgynghori â hwy wrth ymchwilio.
Cyfyngir mynediad at rai llawysgrifau oherwydd eu hoed a’u cyflwr, a darperir copïau dirprwyol (digidol neu ficroffilm) ohonynt ar gyfer darllenwyr.
Dylid cyfeirio ymholiadau am gasgliadau llawysgrif y Llyfrgell at y tîm ymholiadau.
Dangosir detholiad o lawysgrifau’r Llyfrgell yn Ystafell Arddangos Hengwrt trwy gydol y flwyddyn.