Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan roddion pobl Cymru a gyda'n gilydd gallwn ni barhau'r traddodiad hwnnw. Bydd eich rhodd chi yn sicrhau fod ein treftadaeth yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol trwy
Gynnal a datblygu ein casgliadau
Gyflawni gwaith cadwraeth hanfodol
Gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau arloesol
Bydd eich cefnogaeth hael yn ein galluogi ni i wneud mwy. Bydd unrhyw rodd, boed fawr neu fychan, yn gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Llyfrgell.