Cymorth Cylchgronau Cymru
Cyffredinol
Pa gylchgronau sydd wedi eu cynnwys ar y wefan?
Mi gewch restr lawn o'r holl deitlau ar y dudalen Am y Prosiect
A fydd mwy o gylchgronau'n cael eu hychwanegu i'r wefan?
Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ychwanegu mwy o deitlau i'r wefan
Chwilio
Sut gallaf chwilio trwy'r cylchgronau?
Gallwch chwilio'r safle trwy ddefnyddio'r blwch chwilio allweddair ar dudalen gatref Cylchgronau Cymru.
Awgrymiadau:
- Os ydych yn chwilio am ddau neu fwy o allweddeiriau penodol sy'n ymddangos gyda'i gilydd ee David Jones, cofiwch ddefnyddio "" o gwmpas y termau - "David Jones". Bydd hyn y sicrhau fod eich canlyniadau'n dangos erthyglau sy'n cynnwys termau sy'n union fel eich termau chwilio yn unig
- Bydd chwilio am ddau neu fwy o dermau chwilio heb "" (ee David Jones) yn creu canlyniadau sy'n cynnwys cyfuniad o David, Jones a David Jones, sy'n rhoi rhestr ganlyniadau tipyn hirrach nag sy'n angenrheidiol
- Defnyddiwch y ddewislen teitl os ydych yn gwybod enw'r cylchgrawn yr hoffech ei chwilio. Gallwch ddewis mwy nag un teitl ar y tro. I ddileu teitl cliciwch ar y 'x' ym mlwch y teitl sy'n ymddangos
- Defnyddiwch y llithrydd dyddiad i gyfyngu eich chwiliad i gyfnod penodol
- Gallwch fireinio'ch chwiliad trwy ddewis chwillio am gyhoeddiadau Cymraeg neu Saesneg eu hiaith yn unig
Noder na ellir defnyddio gorchmynion Boolean i gyfyngu'ch canlyniadau chwilio ar y dudalen gartref, ond y gallwch eu defnyddio wrth gynnal Chwiliad Uwch (gweler isod i ddysgu mwy am orchmynion Boolean).
Beth yw'r gorchmynion Boolean?
Gorchmynion sy'n eich galluogi i gyfuno termau chwilio er mwyn ehangu neu gyfyngu'ch chwiliad yw'r rhain. Mae'r termau a gefnogir yn y catalog hwn yn cynnwys A, NEU, a NID. Gellir defnyddio rhain wrth gynnal Chwiliad Uwch.
- Bydd A yn cyfuno dau neu fwy o allweddeiriau, gan gyfyngu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes A Cymru yn dychwelyd canlyniadau sy'n cynnwys y ddau derm chwilio, e.e. Hanes Cymru
- Bydd NEU yn dychwelyd canlyniadau gyda'r naill derm chwilio neu'r llall yn y teitl, gan ehangu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes NEU Cymru yn dychwelyd canlyniadau gan gynwys Hanes Cymru a Hanes Plwyf Ffestiniog
- Bydd NID yn hepgor term o'ch chwiliad, gan ei wneud yn fwy penodol, er enghraifft: Bydd Davies, John NID Hanes Cymru yn dychwelyd â rhestr o weithiau gan John Davies nad sy'n cynnwys Hanes Cymru.
Sut mae defyddio'r Chwiliad Uwch?
Mae'r Chwiliad Uwch yn cynnig mwy o opsiynau i fireinio'ch chwiliad na'r chwiliad cyflym ar y dudalen flaen.
Awgrymiadau:
- Dewislen 'A': Gorchmynion Boolean yw'r rhain, a gellir eu defnyddio wrth chwilio am fwy nag un allweddair ar yr un pryd. Gweler uchod am fwy o fanylion am orchmynion Boolean
- Os ydych am chwilio am 3 neu fwy o allweddeiriau gyda'i gilydd, cliciwch ar y botwm '+' ar yr ochr dde er mwyn ychwanegu mwy o flychau chwilio
- Teitl y Cyhoeddiad: Os ydych am gyfyngu'ch chwiliad i gylchgrawn arbennig gallwch ddewis un neu fwy o'r teitlau o'r ddewislen hon
- Dyddiad cyhoeddi: Os ydych am gyfyngu'ch chwiliad i ddyddiad/cyfnod arbennig, defnyddiwch y ddewislen 'Rhwng y dyddiadau' er mwyn dewis sut i chwilio yn ôl dyddiad, yna ychwanegwch eich dyddiad(au) oddi tano
Sut gallaf ddechrau chwiliad newydd?
I ddechrau chwiliad newydd cliciwch ar deitl y wefan ar yr ochr chwith. Bydd hwn yn eich tywys yn ôl i'r dudalen flaen lle gwelwch y prif opsiynnau chwilio a phori.
A fedraf chwilio am allweddair o fewn teitlau erthyglau'n unig?
Gallwch. Copiwch y ddolen isod ac ychwanegwch eich allweddair chwilio i'r diwedd
https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/search?alt=articletitle:
ee
Dyma'r ddolen gyda 'Branwen' wedi ei ychwanegu fel allweddair chwilio ar y diwedd:
https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/search?alt=articletitle:branwen
Pam nad yw rhai teitlau'n dod i fyny wrth chwilio?
Nid oes gennym ddyddiadau ar gyfer rhai teitlau, ac felly nid oes modd chwilio amdanynt:
- Gerddorfa
- Geiriau Gras a Gwirionedd
- Newyddion o fywyd a heddwch
Serch hynny, gellir pori drwyddynt trwy ddefnyddio'r ddewislen Pori.
A fedraf weld cofnod o'm chwiliadau hanesyddol?
I weld cofnod o'ch chwiliadau hanesyddol, cliciwch ar y botwm 'Hanes Chwilio' yng nghornel dde y linell las ar frig pob tudalen.
Gallwch glirio'ch hanes trwy glicio ar y ddolen 'Clirio hanes Chwilio' ar waelod y rhestr
Pori
Sut gallaf bori trwy'r cylchgronau?
Gallwch bori trwy restr o'r cylchgronau trwy glicio ar y ddewislen yng ngholofn dde'r dudalen flaen.
Awgrymiadau:
- Bydd yr eitem gyntaf yn y ddewislen 'Pori Pob Cylchgrawn' yn cynnig rhestr A-Z gliciadwy o bob cylchgrawn
- Os ddewiswch chi deitl o'r ddewislen, mi gewch eich tywys i Dudalen Cyhoeddiad ar gyfer y teitl hwnnw. Mae hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y cylchgrawn, rhestr o'r rhifynnau sydd ar gael a delwedd o'r cylchgrawn
A fedraf bori drwy'r cylchgronau yn ôl iaith cyhoeddi?
Gallwch. Ceir dolenni o dan y ddewislen pori ar y dudalen flaen sy'n eich galluogi i bori 'Cyhoeddiadau Cymreig yn unig' neu 'Cyhoeddiadau Saesneg yn unig'. Bydd y rhain yn eich tywys i dudalen ganlyniadau sy'n arddangos canlyniadau perthnasol i'r iaith honno yn unig
Nodwch y bydd yr opsiwn hidlo yn ôl iaith wedi ei ddewis ar gyfer yr iaith berthnasol. I ddileu'r opsiwn hidlo cliciwch arno, a bydd eich canlyniadau'n adnewyddu
A fedraf bori trwy'r cylchgronau yn ôl dyddiad?
Gallwch. Ceir histogram ar waelod y golofn dde ar y dudalen flaen, sy'n eich galluogi i weld canlyniadau ar gyfer degawdau penodol. Bydd y rhain yn eich tywys i dudalennau canlyniadau perthnasol ar gyfer y degawd a ddewiswyd.
Nodwch y bydd yr opsiwn hidlo yn ôl degawd wedi ei ddewis ar gyfer y degawd perthnasol. I ddileu'r opsiwn hidlo cliciwch arno, a bydd eich canlyniadau'n adnewyddu
Beth yw'r rhestr o ddolenni ar waelod pob tudalen cyhoeddiad?
Ar waelod pob tudalen cyhoeddiad mi welwch ddolenni at yr holl rifynnau ar gyfer y cylchgrawn hwnnw.
Awgrymiadau:
Ar gyfer rhai cylchgronau, ffurfir y rhestrau dolenni o rifau yn unig, ac ni fyddant yn cynnwys unrhyw wybodaeth am ddyddiadau. I weld gwybodaeth dyddiad ar gyfer pob rhifyn, cliciwch ar y dolenni. Bydd y dolenni'n eich tywys i'r syllwr, lle y gwelwch golofn dde 'Mwy o wybodaeth', yma y ceir y wybodaeth am ddyddiadau
Canlyniadau Chwilio
Pa wybodaeth a arddangosir ar gyfer pob canlyniad?
- Dolen: Bydd y ddolen yn cynnwys teitl yr erthygl ar gyfer rhai cylchgronau, lle nad yw hyn ar gael, mi fydd yn cynnwys gwybodaeth cyfrol
- Darn testunol: Dyma ddarn byr sy'n dod o gorff yr erthygl
- Y wybodaeth o dan bob canlyniad: Mae hwn yn cynnwys teitl y cyhoeddiad (dolen i Dudalen Cyhoeddiad y cylchgrawn), Teitl y Rhifyn a Dyddiad yr eitem penodol hwnnw
Sut fedraf newid nifer y canlyniadau yr arddangosir?
Yn y gornel dde o dan y linell las, mi welwch y ddewislen 'Opsiynau Arddangos', yma gallwch newid nifer y canlyniadau a ddangosir.
Sut fedraf newid trefn y canlyniadau?
Yn y gornel dde o dan y linell las, mi welwch y ddewislen 'Opsiynau Arddangos', yma gallwch newid trefn eich canlyniadau.
Sut penderfynir pwysigrwydd y canlyniadau?
Dangosir canlyniadau sy'n cynnwys eich allweddair yn y teitl yn gyntaf, ac yna'r canlyniadau lle mae'r allweddair yn ymddangos yn y cynnwys.
Awgrymiadau:
Noder os gwelwch yn dda nad yw pob cylchgrawn yn cynnwys teitl chwiliadwy, ac felly ni fydd y rhain yn ymddangos ar frig eich canlyniadau (ar gyfer y rhain dangosir gwybodaeth cyfrol a rhifyn yn lle teitl yr erthygl)
Sut fedraf fireinio fy nghanlyniadau?
Mae'r golofn chwith yn cynnwys hidlwyr y gallwch ddefnyddio i fireinio'ch canlyniadau
Mae'r hidlwyr yn cynnwys:
- Cyhoeddiad (teitl cylchgrawn)
- Iaith (iaith y cylchgrawn)
- Degawd
- Blwyddyn
- Mis
- Diwrnod
Cliciwch ar yr eitemau perthnasol o fewn yr hidlwyr er mwyn cyfyngu'ch canlyniadau, byddant yn diweddaru'n awtomatig
Gallwch newid yr hidlwyr rydych wedi eu dewis yn ôl yr angen trwy glicio ar yr eitemau eto er mwyn eu hepgor.
Galwch glirio'r holl hidlwyr rydych wedi eu dewis ar yr un pryd trwy glicio ar y botwm 'CLIRIO DEWISIADAU' ar frig y rhestr hidlwyr
Awgrymiadau:
Y mwyaf o hidlwyr y gallwch eu defnyddio i fireio'ch chwilad y mwyaf perthnasol fydd eich canlyniadau, ac felly mi fydd hi'n haws i chi ganfod erthyglau defnyddiol
Pam na fedraf weld deunydd dan ofal ystad Dylan Thomas?
Ni chafwyd caniatâd i gynnwys deunydd dan ofal ystad Dylan Thomas.
Gweld y Cylchgronau
Sut fedraf weld y cylchgronau ar sgrin lawn?
Cliciwch ar y ddolen yng ngornel waleod dde'r sgrin sy'n dweud 'Sgrin lawn' gydag eicon o saeth mewn sgwar
Sut fedraf glosio a gwrthglosio wrth edrych ar gylchgrawn?
Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac mi welwch eiconau'n ymddangos yng nghornel uchaf chwith yr ardal ddu o amgylch y ddelwedd. Cliciwch ar y '+' i glosio a'r '-' i wrthglosio
Sut fedraf droi'r ddelwedd?
Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac mi welwch eiconau'n ymddangos yng nghornel uchaf chwith yr ardal ddu o amgylch y ddelwedd. Cliciwch ar yr eicon o hanner cylch a saeth i droi'r ddelwedd (mi fydd yn troi chwarter troad gyda'r cloc bob tro)
Sut fedraf symud i'r dudalen nesaf/flaenorol?
Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac mi welwch saeth fechan yn ymddangos bob ochr i'r ddelwedd. Cliciwch ar y saeth ar yr ochr dde i symud i'r ddualen nesaf, a'r saeth ar yr ochr chwith i symud nol i'r dudalen flaenorol
Sut fedraf weld erthyglau eraill o fewn y cylchgrawn?
Mi welwch y golofn 'CYNNWYS' ar yr ochr chwith. Yma gallwch ddewis unrhyw erthygl o fewn y cyhoeddiad cyfan
Awgrymiadau:
Cyfrol: Mae coeden archifol y cylchgrawn yn cael ei arddangos yn ôl cyfrol yn ddiofyn, ac mi fedrwch ddewis unrhyw erthygl o'r rhifyn presennol, neu ddewis rhifyn arall i'w ddarllen
Sut fedraf weld rhifynnau eraill o'r cylchgrawn yn ôl dyddiad?
Yn ddiofyn mae'r golofn chwith 'CYNNWYS' yn cael ei arddangos yn ôl cyfrol. Gallwch newid hyn i arddangos y goeden yn ôl dyddiad trwy glicio ar 'Dyddiad' ar frig y goeden. Fe ddangosir amrediad y dyddiadau y cyhoeddwyd y cylchgrawn. Gallwch ddewis unrhyw ddyddiad, ac fe ddangosir tudalen flaen y rhifyn perthnasol
Awgrymiadau:
Noder, unwaith i chi ddewis unrhyw rifyn, mi fydd y golofn chwith 'CYNNWYS' yn newid nol i arddangos yn ôl cyfrol
A fedraf weld rhagolwg o bob tudalen o fewn cylchgrawn heb agor bob un yn unigol?
Gallwch. Yn y golofn chwith 'CYNNWYS' galwlch glicio ar y tab 'Bodluniau' ar frig y golofn. Arddangosir bodlun ar gyfer pob tudalen yn y cylchgrawn penodol hwnnw.
Awgrymiadau:
I weld rhifyn gwahanol cliciwch ar y tab 'Mynegai' ( i'r chwith o'r tab 'Bodluniau) ac fe gewch restr testunol yn ôl rhifyn. Yno gallwch ddewis rhifyn gwahanol cyn myn dyn ôl i'r bodluniau os ydych yn dymuno
Sut fedraf weld mwy nag un tudalen o'r cylchgrawn ar yr un pryd?
Wrth edrych ar gylchgrawn gallwch ddewis un neu ddwy dudalen ar y tro. Yng nghornel uchaf dde yr ardal du, o dan y llinell las, cliciwch ar yr eicon sy'n edrych fel llyfr agored - bydd hyn yn arddangos dwy dudalen ar y tro
Awgrymiadau:
I fynd yn ôl i arddangos un dudalen ar y tro, cliciwch ar yr eicon eto ( mi fydd nawr yn edrych fel tudalen unigol)
Sut fedraf weld gwybodaeth berthnasol wrth edrych ar gylchgrawn?
Yn y golofn dde mi welwch 'MWY O WYBODAETH'. Mae'r panel hwn yn cynnig gwybodaeth gefndirol am y cylchgrawn
Awgrymiadau:
Gallwch gau'r panedl os ydych yn dymuno trwy glicio ar y saethau yng nghornel chwith y gofon. Os ydych yn dymuno ei agor eto, cliciwch ar y saethau ar frig y golofn gaeedig
Lle gallaf weld gwybodaeth briodoliad ar gyfer y cylchgrawn?
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y golofn dde 'MWY O WYBODAETH' neu yn y blwch bach yng nghornel waelod chwith delwedd y cylchgrawn
Awgrymiadau:
Os yw'r blwch priodoliad yn effeithio ar eich gallu i weld y ddelwedd, gallwch gau'r blwch trwy glicio ar y groeso fach yn y gornel uchaf dde
Oes dolen barhaol ar gyfer y cylchgrawn rwy'n ei darllen?
Oes. Mi welwch y ddolen barhaol yn y golofn dde 'MWY O WYBODAETH' o dan y teitl 'Dolen barhaol'
Awgrymiadau:
Os hoffech chi wneud nodyn o'r dolenni ar at un o'r cylchgronau, y ffordd gorau o wneud hyn yw i ddefnyddio'r ddolen barhaol yn hytrach na'r cyfeiriad ar frig eich porwr (gall y cyfeiriadau hyn newid dros amser)
*Rydym yn ymwybodol o broblemau gyda'r dolenni parhaol ar hyn o bryd, ac yn gweithio i'w datrys mor fuan â phosib
Os wyf yn gwybod rhif y ddelwedd, a fedraf neidio i'r dudalen berthnasol, neu oes rhaid gweithio trwy'r bodluniau i'r dudalen gywir?
Gallwch. Ar frig y cylchgrawn mi weld flwch bach gwyn a botwm 'Gweld' i'r dde ohono. Teipiwch rhif y ddelwedd yn y blwch gwyn a chlicio ar y botwm 'Gweld'. Bydd y cylchgrawn yn adnewyddu i ddangos delwedd y dudalen gywir.
Awgrymiadau:
Noder nad yw rhif y DDELWEDD o reidrwydd yr un peth â rhif y DUDALEN fel y mae'n ymddangos yn y cylchgrawn.
Mae rhif y DDELWEDD yn rhedeg o ddechrau'r cylchgrawn i'r diwedd (hy un rhif ar gyfer pob ddelwedd), lle gallai rhif y DUDALEN ddechrau ar dudalen 4 er enghraifft (hy ni fyddai gan ddelwedd y clawr/tudalen o fewn y clawr ayb rif tudalen)
Dangosir rhif y ddelwedd ar bob bodlun yn y golofn chwith (gweler uchod am fwy o wybodaeth am y bodluniau)
Beth mae'r blwch chwilio o dan y ddelwedd o'r cylchgrawn yn chwilio?
Tra'n edrych ar y cylchgrawn mi welwch eich term chwilio o dan y ddelwedd. Os gliciwch chi ar y ddolen 'Gwaredu' mi gewch chi flwch chwilio gwag. Gallwch ddefnyddio hwn i chwilio o fewn y cylchgrawn rydych yn ei ddarllen.
Awgrymiadau:
Bydd eich chwiliad wedi ei gyfyngu i'r rhifyn rydych chi'n ei ddarllen. Ni fyddwch yn chwilio pob cyfrol ar gyfer y teitl hwnnw. I wneud hynny rhaid i chi fynd yn ôl i brif ffwthiant chwilio'r wefan
Beth yw'r nodwyr glas o dan y cylchgrawn?
Mae'r nodwyr glas yn dynodi pob cofnod o'ch term chwilio yn y rhifyn rydych yn ei ddarllen. O glicio ar y nodwr glas, mi fydd y dudalen berthnasol yn ymddangos, gyda'ch term chwilio wedi ei uwcholeuo.
Pam fod rhai geiriau wedi eu huwcholeuo yn y cylchgrawn?
Mae eich termau chwilio wedi eu huwcholeuo'n las o fewn y dudalen yn y cylchgrawn er mwyn ei gwneud hi'n haws i chi ganfod y darn perthnasol ar y dudalen.
Pam fod y neges 'Delwedd ddim ar gael' yn ymddangos ar gyfer rhai tudalennau?
Mae ambell dudalen heb ei digido a dyna pam fod y neges 'delwedd ddim ar gael' yn ymddangos. Mi fyddem ni'n ddiolchgar iawn petai modd i chi roi gwybod i ni os ddewch chi ar draws y neges hon. Gallwch gysylltu trwy'r Gwasanaeth Ymholiadau, gan nodi dolen i'r dudalen berthnasol. Enghraifft o gylchgrawn gyda'r neges hon fyddai 'Yr Athraw'.
Lawrlwytho cylchgrawn
Sut ydw i'n lawrlwytho tudalennau, erthyglau a rhifynnau cylchgronau?
Pan yn edrych ar ddeunydd yr hoffech ei lawrlwytho, dewiswch yr eicon ar waelod ochr chwith y dudalen. Dewiswch rhwng fformat jpg (un dudalen/ddelwedd) neu pdf (erthygl neu rifyn).
Pam na fedra i lawrlwytho'r erthygl yn unig?
Dyw rhai o'r cylchgronau ddim wedi eu mynegeio ar lefel erthygl (yn arbennig rhai'r 19egG). Mae hyn yn golygu mai dim ond tudalen/delwedd unigol neu rifyn cyfan y gallwch ei lawrlwytho.
Pam na fedra i weld erthygl neu ddelwedd yn y ffeil sydd wedi'i lawrlwytho?
Mae rhai erthyglau a delweddau yn y cylchgronau wedi eu cuddio oherwydd cyfyngiadau hawlfraint. Ni fydd rhain yn ymddangos ar y wefan na'r ffeil sydd wedi'i lawrlwytho.
Fersiwn symudol y safle
Sut gallaf lywio trwy rifyn o'r cylchgrawn ar fy ffôn symudol?
Gallwch ddefnyddio'r saethau i'r chwith/dde o'r ddelwedd er mwyn llywio trwy'r rhifyn
Yn anffodus nid yw'r goeden lywio ar gael ar ffonau symudol
Awgrymiadau:
Gallwch weithio'ch ffordd trwy wahanol rifynnau o'r cylchgrawn trwy ddefnyddio'r dolenni ar waelod tudalen cyhoeddiad y teitl hwnnw