Yn diogelu a dathlu ein hetifeddiaeth sain a delweddau symudol.
Croeso i Archif Sgrin a Sain, cartref i gasgliadau cyfoethog a dihafal o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a'r Cymry.
Daw’r Archif â stori Cymru a’r Cymry yn fyw o flaen eich llygaid. Mae’n stori ryfeddol, gaiff ei hadrodd gan filoedd o leisiau a delweddau symydol a recordiwyd ers 1898.
Amdanom Ni
Nod Archif Sgrin a Sain yw gwarchod, dathlu a hyrwyddo etifeddiaeth sain a delweddau symudol Cymru. Mae’r Archif yn gartref i gasgliad cyfoethog a dihafal o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a'r Cymry.
Mae casgliad yr Archif yn eang iawn o ran cynnwys. Mae’n cwmpasu pob agwedd ar ddiwylliant a bywyd Cymru a’i phobl fel y mae wedi’i groniclo gan y cyfryngau clyweledol, sef recordiau sain, fideo, ffilm a’r cyfryngau digidol diweddaraf.
Sefydlwyd yr Archif yn 2001, pan gafodd Archif Ffilm a Theledu Cymru ei huno gyda chasgliad Sain a Delweddau Symudol y Llyfrgell Genedlaethol. Bellach, ariennir yr Archif gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Cyswllt â ni.
Mae sawl ffordd o gysylltu â'r gwasanaeth:
Neu gallwch chi dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol:
Facebook: Archif Sgrin a Sain Cymru | Screen and Sound Archive of Wales
Twitter: @AGSSC
Instagram: @yr_archif