23 Ionawr - 30 Gorffennaf 2016
Trwy’r canrifoedd bu beirdd a llenorion Cymru yn portreadu’r profiad o ryfela, gan ddathlu buddugoliaeth neu alaru wedi methiant. Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar bedair cyflafan hanesyddol – mawr a bach – rhwng y chweched ganrif a’r ail ganrif ar bymtheg. Dangosir geiriau artistiaid megis Aneirin a David Jones, Bleddyn Fardd a Gerallt Lloyd Owen, ochr-yn-ochr â thystiolaeth croniclwyr, rhai yn gyfoes ac eraill yn ôl-syllol. Dewch yng nghwmni’r beirdd i Gatraeth, Cilmeri, Bosworth a’r Somme.
Cyfeirnod: NLW Llyfr Aneirin, Cardiff MS 2.81
Cyfeirnod: Peniarth MS 2
Cyfeirnod: NLW MS 6680B