Ewyllysiau

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wedi bod yn datblygu ffurflen chwilio ewyllysiau newydd. Mae'r ffurflen mewn beta ar hyn o bryd, ond rydym yn awyddus iawn i glywed barn ein defnyddwyr ar y ddarpariateh mor belled.

Os y dewch chi ar draws unrhyw broblemau mi fyddem yn ddiolchgar iawn petai modd i chi roi gwybod i ni trwy'r Gwasanaeth Ymholiadau.

Rhwng a

          Gall ewyllysiau eich helpu i ddarganfod:

          • Enw a chyfeiriad llawn yr unigolyn
          • Gwybodaeth am statws cymdeithasol a chyfoeth yr unigolyn
          • Gwybodaeth am dir ac eiddo’r unigolyn
          • Enw priod, plant, wyrion a pherthnasau eraill
          • Man claddu’r ymadawedig
          • Gwybodaeth am alwedigaeth
          • Enwau gweinyddwr/ysgutor


          Hyd 1858, profwyd ewyllysiau gan lysoedd Eglwys Loegr. Mae ewyllysiau gwreiddiol, rhestrau eiddo a bondiau ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chopïau cofrestr o ewyllysiau. O’r dudalen hon gallwch chwilio am ewyllysiau a brofwyd yn y Llysoedd Esgobaethol Cymreig cyn 1858.


          Roedd saith esgobaeth neu rai’n cyfateb iddynt yng Nghymru. Mae’r rhestr ganlynol yn dangos ardaloedd awdurdodaeth profeb a dyddiadau’r ewyllysiau a gedwir yma yn y Llyfrgell:


          Esgobaeth Bangor: Môn, y rhan fwyaf o Sir Gaernarfon, y rhan fwyaf o Feirionydd, rhannau o Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn
          Ewyllysiau gwreiddiol 1576-1858 (y mwyafrif wedi’u dyddio 1635-1648, 1660-1858)
          Copïau o ewyllysiau 1790, 1851-1858


          Archddiaconiaeth Aberhonddu: Brycheiniog, y rhan fwyaf o Sir Faesyfed, a rhai plwyfi yn Siroedd Mynwy, Trefaldwyn a Henffordd
          Ewyllysiau gwreiddiol 1557-1857 (1609-1653, 1660-1857 yn bennaf)
          Copïau o ewyllysiau 1543-1858 (1570-1589, 1694-1858 yn bennaf)
          Ewyllysiau heb eu profi (heb eu catalogio)


          Esgobaeth Caer: pedwar plwyf yn Fflint a Holt yn Ninbych.
          Ewyllysiau gwreiddiol 1521-1858 (1557-1650, 1660-1858 yn bennaf)
          Gwahanlys Penarlâg: plwyf Penarlâg
          Ewyllysiau gwreiddiol 1554-1858 (1554-1641, 1660-1858 yn bennaf)


          Esgobaeth Llandaf:  Siroedd Mynwy a Morgannwg (ac eithrio Gŵyr)
          Gwreiddiol 1568-1857
          Copïau o ewyllysiau 1695-1844


          Esgobaeth Llanelwy: y rhan fwyaf o Siroedd Dinbych, Fflint a Threfaldwyn, a rhannau o Feirionydd, Caernarfon ac Amwythig
          Gwreiddiol 1557-1858 (1583-1649, 1660-1857 yn bennaf)
          Copïau o ewyllysiau 1548-1709 (1565-1648, 1660-1669, 1684-1709 yn bennaf)
          Ewyllysiau heb eu profi (heb eu catalogio)


          Esgobaeth Tyddewi: Sir Benfro, Ceredigion, Caerfyrddin, a rhan o Forgannwg (Gŵyr)
          Gwreiddiol 1556-1858 (1564-1653, 1660-1858 yn bennaf)
          Copïau o ewyllysiau 1703-1858 (1703-1731, 1814-1858 yn bennaf)
          Ewyllysiau heb eu profi (heb eu catalogio)


          Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r ewyllys arlein, yna efallai y byddai’n werth i chi chwilio yn y mynegeion llawysgrif i’r copïau cofrestr o ewyllysiau cyn 1858 neu yng nghofnodion esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru. Gellir canfod ewyllysiau ymhlith archifau stad neu gasgliadau cyfreithwyr (chwiliwch amdanynt ym mhrif gatalog y Llyfrgell)


          Os oedd tir gan unigolion mewn mwy nag un esgobaeth yng Nghymru, yna profwyd eu hewyllysiau yn Llys Uchelfraint Caergaint. Gellir cael mynediad arlein i’r fynegai i ewyllysiau Llys Uchelfraint Caergaint (PCC), 1384-1858, ar wefan Yr Archifau Cenedlaethol.

           

          Mae copïau o ewyllysiau’r PCC sy’n ymwneud â Chymru ar gael ar ficroffilm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Ar ôl 1858 cyflwynwyd system symlach o brofeb sifil. Mae ewyllysiau a brofwyd yng Nghymru rhwng 1858 a 1941 ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gellir cael mynediad iddynt drwy’r Calendar of Grants of Probate ar ficroffis a’r cyfrolau gwreiddiol yn yr Ystafelloedd Darllen. Mae mynediad arlein am ddim hefyd ar gael drwy Ancestry Library y gellir ei ddefnyddio o fewn yr adeilad.

          Mynediad at ddelweddau digidol

          Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

          Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.