Symud i'r prif gynnwys

Cymorth

Sut i chwilio

Mae dwy brif ffordd o ddarganfod erthygl benodol a allai fod o ddiddordeb i chi:

 

1. Allweddair (term(au) penodol)

Mae blwch chwilio syml tebyg i un ‘Google’ ar y dudalen gartref yn eich caniatáu i chwilio am eiriau o fewn testun erthygl, a bydd y gosodiadau diofyn yn chwilio testun cyfan yr holl bapurau newydd.

Gallwch hefyd osod criteria mwy penodol a mireinio eich chwiliad ar y dudalen gartref i unrhyw gyfuniad o bapurau newydd gwahanol, blynyddoedd penodol ac/neu i gategorïau penodol o erthyglau.

NEWYDD: Gallwch hefyd gyfyngu eich chwiliad i gyhoeddiadau Cymraeg neu Saesneg eu hiaith trwy ddewis Cyhoeddiadau Cymraeg yn unig neu Cyhoeddiadau Saesneg yn unig. Mae’r gwahaniaeth hwn yn seiliedig ar deitl y cyhoeddiad ac mae rhai o’r papurau yn cynnwys erthyglau yn y ddwy iaith.

 

2. Pori

Gallwch bori drwy restr o deitlau papurau newydd ar y dudalen gartref, darganfod beth a gyhoeddwyd ar ddyddiad penodol, neu glicio ar y map i ddarganfod pa deitlau a gyhoeddwyd ym mhedwar rhanbarth gweinyddol modern Cymru, neu tu allan i Gymru.

NEWYDD: Gallwch bellach hefyd bori trwy Cartwnau, Graffiau, Darluniadau*, Mapiau, Ffotograffau

* Nid yw’r darluniadau wedi eu catalogio’n unigol, pori fyddwch chi felly am erthyglau unigol sy’n cynnwys darlun. Mi fydd y canlyniad felly’n dangos y darlun o fewn erthygl benodol.

 

Beth yw'r gorchmynion Boolean?

Gorchmynion sy'n eich galluogi i gyfuno termau chwilio er mwyn ehangu neu gyfyngu'ch chwiliad yw'r rhain. Mae'r termau a gefnogir yn y catalog hwn yn cynnwys A, NEU, NID ac AGOS.

  • Bydd A yn cyfuno dau neu fwy o allweddeiriau, gan gyfyngu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes A Cymru yn dychwelyd canlyniadau sy'n cynnwys y ddau derm chwilio, e.e. Hanes Cymru
  • Bydd NEU yn dychwelyd canlyniadau gyda'r naill derm chwilio neu'r llall yn y teitl, gan ehangu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes NEU Cymru yn dychwelyd canlyniadau gan gynwys Hanes Cymru a Hanes Plwyf Ffestiniog
  • Bydd NID yn hepgor term o'ch chwiliad, gan ei wneud yn fwy penodol, er enghraifft: Bydd Davies, John NID Hanes Cymru yn dychwelyd â rhestr o weithiau gan John Davies nad sy'n cynnwys Hanes Cymru.
  • Bydd AGOS yn cynhyrchu rhestr o ganlyniadau ble mae'r termau o fewn pump gair i'w gilydd, er enghraifft: Bydd Chwyldro AGOS Cymru yn dychwelyd canlyniadau gan gynnwys Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru

Canlyniadau Chwilio

Mae’r canlyniadau chwilio yn rhestru unrhyw erthyglau sy’n cyd-fynd â’ch chwiliad ac yn cynnwys peth gwybodaeth ychwanegol i’ch cynorthwyo i benderfynu a ydynt yn berthnasol neu beidio:

  • Teitl yr erthygl
  • Darn o’r erthygl gyda’r termau chwilio wedi eu haroleuo
  • Teitl y papur newydd, dynodwr tudalen, ac, os yn berthnasol, datganiad argraffiad
  • Categori’r erthygl
  • Nifer y geiriau yn nhestun yr erthygl

 

Gellir trefnu’r canlyniadau mewn:

  • trefn esgynnol neu ddisgynnol
  • yn ôl perthnasedd (pennir perthnasedd uwch i ganlyniad sy’n ymddangos yn y teitl, neu ym mhedair llinell gyntaf yr erthygl)  
  • mewn trefn dyddiad cyhoeddi.

 

Gellir mireinio’r canlyniadau ymhellach drwy dethol (a dad-ddethol) yr hidlyddion yn y panel ar yr ochr chwith. Mae’r hidlyddion yma’n caniatáu i chi arddangos canlyniadau chwilio mewn unrhyw gyfuniad o:

  • deitlau papurau newydd
  • categorïau erthyglau
  • ardaloedd
  • dyddiadau cyhoeddi (i’r flwyddyn, mis, diwrnod)
  • iaith (NEWYDD)
  • Cynnwys erthygl (darluniad, ffotograff, cartwn, map, graff) (NEWYDD)
  • Statws Hawlfraint (NEWYDD)

 

Mae’r botwm Hanes Chwilio ar bob tudalen yn cynnig mynediad hawdd i’ch 10 chwiliad olaf.

Mae’r botwm Chwiliad Uwch yn eich galluogi i lunio chwiliadau mwy penodol e.e. am gyfuniad o dermau a/neu ddyddiad penodol e.e. 1 Ionawr 1804.

Bydd clicio ar deitl yr erthygl yn mynd â chi i dudalen syllwr yr erthygl.

Yn anffodus, oherwydd ansawdd y data, ni ellir rhoi sicrwydd bod pob darn o wybodaeth berthnasol yn y canlyniadau.

Tudalen Syllwr yr Erthygl

Mae syllwr yr erthygl yn arddangos delwedd y gellir closio ati o’r erthygl (ar y chwith) a thestun yr erthygl (ar y dde).

Yn ddibynnol ar feddalwedd eich porwr, gallwch glosio i mewn ac allan o’r ddelwedd naill ai drwy ddefnyddio olwyn eich llygoden, drwy glicio ar y raddfa glosio (chwith uchaf) neu glicio a llusgo’r ddelwedd gryno (chwith isaf).

Mae’r syllwr erthygl hefyd yn caniatáu i chi lywio yn ôl a blaen drwy dudalenau’r papur newydd ac i lywio drwy’r argraffiadau blaenorol a dilynol sydd a’r gael o’r papur newydd arbennig yna.

Gallwch hefyd weld y erthygl gyda sgrin lawn trwy ddewis y symbol croes gyda saethau i’r pedwar cyfeiriad.

Nid yw testun yr erthyglau’n 100% cywir ac mae’r lefel o gywirdeb yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys cyflwr y dudalen yn y papur newydd gwreiddiol, safon y papur a’r argraffu, maint a steil y ffont a chymhlethdod gosodiad y colofnau.

Categorïau Erthyglau

Mae pob erthygl yn disgyn i un o bedwar categori:

  • Newyddion: Dyma’r categori diofyn sy’n cwmpasu’r mwyafrif o bynciau gan gynnwys newyddion cyffredinol, trosedd, chwaraeon, newyddion cymdeithasol, llythyrau a gohebiaeth, celf, llenyddiaeth, ffuglen a barddoniaeth.
  • Hysbysiadau Teuluol: Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau.
  • Hysbysebion: Hysbysebion breision a mân hysbysebion.
  • Rhestrau Manwl: Rhestrau rhifiadol yn cynnwys canlyniadau chwaraeon, canllawiau, amserlenni teithio a rhestrau’r farchnad stoc.

Pennir categorïau’r erthyglau gan gyfrifiadur ar sail presenoldeb allweddeiriau a chynllun y dudalen, ac nid ydynt felly’n 100% cywir.

Defnyddio Papurau Newydd Cymru Arlein i ymchwilio

Os ydych yn defnyddio Papurau Newydd Cymru Arlein at ddibenion ymchwil, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni trwy'r Gwasanaeth Ymholiadau. Mae'n bosib y gallwn eich cynorthwyo gyda'ch ymchwil neu y gallai rhai o'r newidiadau technegol y byddwn yn eu gwneud wrth gynnal a chadw'r wefan yn tarfu ar eich methodoleg. I drafod eich anghenion, llenwch y Ffurflen Ymholiadau os gwelwch yn dda.

Hawlfraint

Mae gan bob papur newydd label hawlfraint, sydd wedi ei lleoli yng ngornel uchaf dde’r syllwr. Mae pob papur yn dod o dani un o’r categorïau canlynol:

Cysylltwch

Byddwn yn datblygu’r dudalen gymorth dros y misoedd nesaf yn unol â natur adborth ac ymholiadau gan ddefnyddwyr.

Defnyddiwch y ddolen Cysylltu yng nghornel uchaf dde bob tudalen am fwy o gymorth ar ddefnyddio Papurau Newydd Cymru Arlein.