Dull wisgoedd Cymru cyflwynedig i bendefigion a boneddigion y dywysogaeth, Augusta Hall (1802-1896)

Cyfeirnod: Llyfr lluniadu LlGC 299

Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, oedd un o noddwyr pwysicaf diwylliant gwerin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig ym meysydd cerddoriaeth, dawns a gwisg draddodiadol.

 

Roedd yn ferch i deulu bonheddig o Sir Fynwy a chymerodd ddiddordeb mewn materion Cymreig drwy gydol ei hoes er na siaradai Gymraeg yn rhugl ei hun. Trwy ei chyfeillgarwch â Thomas Price (Carnhuanawc, 1787-1848) daeth yn aelod blaenllaw o gymdeithas ddiwylliannol a gwlatgarol y Fenni, sef y Cymreigyddion. Enillodd wobr eisteddfod Caerdydd am draethawd ar yr iaith Gymraeg a'r wisg Gymreig.Tua'r adeg hon hefyd y dechreuodd ddefnyddio'r enw Gwenynen Gwent. Cefnogai Maria Jane Williams (Llinos, 1795-1873), Aberpergwm, yn y gwaith o gasglu alawon gwerin Morgannwg a Gwent. Hithau hefyd oedd yn bennaf gyfrifol am boblogrwydd y delyn deires tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Trwy ei chysylltiadau â'r Cymreigyddion bu'n ddylanwadol yn sefydlu'r Welsh Manuscripts Society yn 1836. Yn ddiweddarach fe ddaeth llawysgrifau Iolo Morganwg i'w meddiant, ac erbyn hyn maent yn rhan o gasgliadau'r Llyfrgell.

Ond adwaenir hi'n bennaf am lunio delwedd y wisg draddodiadol, sef het a phais a betgwn. Dadleuai yn ei thraethawd eisteddfodol yn 1834 y dylai merched Cymru wisgo dillad traddodiadol. Yr oedd dillad o wlanen Gymreig yn fwy ymarferol yn ei thyb hi oherwydd eu bod yn addas ar gyfer tywydd pob tymor ac yn eu diogelu rhag y ddarfodedigaeth! Bu mor ddiwyd yn ceisio hybu ei delwedd o'r wisg nes iddi orfodi ei morynion i'w gwisgo wrth eu gwaith ym mhlas Llanofer.Yn y gyfrol Dull-wisgoedd Cymreig ceir cyfres o 17 o ddyfrlliwiau gan A. Cadwaladr a gomisiynwyd ganddi o wisgoedd merched rhai o siroedd Cymru. Mae'n debyg i'r gyfrol hon ddylanwadu ar arlunwyr eraill megis Alexander F. Rolfe (fl.1839-fl. 1873) a H. Jones (fl. 1824- fl.1849) i greu delweddau tebyg.

Ceir nifer o enghreifftiau eraill o ddarluniau gan Augusta Hall yng nghasgliadau'r Llyfrgell, e.e. NLW PB6178, The Bard ac NLW PA3982, Self Portrait.

Darllen pellach

  • Rachael Ley. Arglwyddes Llanofer Gwenynen Gwent, Caernarfon : Gwasg Gwynedd, 2001.
  • Mair Elvet Thomas. Afiaith yng Ngwent, Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 1978.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?