Christopher Williams 1873-1934: Ôl-syllol

7 Gorffennaf - 22 Medi 2012

Arddangosfa ôl-syllol sylweddol o weithiau celf Christopher Williams, wedi’u harchwilio a’u curadu gan Robert Meyrick, Pennaeth Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, daeth Williams i’r brig ar don o ddiddordeb cynyddol  yn hanes, diwylliant a llên gwerin hynafol Cymru. Ac yntau ar y cychwyn yn arlunydd testunau clasurol a Beiblaidd megis rhamant gondemniedig  Paulo and Francesca a Remorse of King Saul, trodd y Cymro Llundeinig ei olygon i fyd y Mabinogion: y ddewines Ceridwen ger ei chrochan; Branwen, chwaer Brenin Ynys Prydain a phriod ei elyn Brenin Iwerddon, yn syllu’n hiraethus allan i’r môr; a Blodeuwedd, y ferch a grëwyd o flodau’r dderwen, y banadl a’r erwain gan y dewin Gwydion.

Ar wahân i’r golygfeydd mytholegol hyn, enillodd Williams enw iddo’i hun fel portreadwr gwladweinwyr ac academyddion Cymreig, llenorion a chlerigwyr.  Yn 1911, pan ddechreuodd Williams weithio ar ei alegori genedlaethol gyfoes The Awakening of Wales, bu’r prif weinidog David Lloyd George yn eistedd iddo ar gyfer y cyntaf o dri phortread gan yr arlunydd. Yn yr un flwyddyn, comisiynwyd Williams gan y Brenin Siôr V i beintio The Investiture of Edward, Prince of Wales at Caernarfon Castle.

Byddai Williams yn mentro allan yn aml i’r cyfandir a thu hwnt i beintio’r tirlun ac adeiladau eiconig megis yr Alhambra yn Grenada neu’r Santa Maria della Salute yn Fenis. Eto i gyd, er cymaint y’i cyfareddwyd gan farchnadoedd  Tangiers, byddai Williams yn dal i ddychwelyd i arfordir Cymru o hyd ac o hyd, lle byddai’n llwyddo i ddal y golau a’r naws mewn nifer fawr o frasluniau byrfyfyr, arbrofol a grëwyd ganddo ên plein air wrth deithio rhwng Llangrannog a Phenrhyn Llŷn. Er na fwriadwyd eu harddangos yn gyhoeddus erioed, mae’r brasluniau hyn yn tystio i gyfaredd oesol yr arlunydd â thirlun Cymru a’i ymchwilio taer am hunaniaeth Gymraeg.

Wrth wasanaethu ar amryfal bwyllgorau sefydliadol a beirniadu arddangosfeydd, cyfrannodd Williams yn helaeth at ysgogi diddordeb yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Pan fu Williams farw yn 1934, cyflwynodd ei weddw Emily lawer o’i luniau cynfas gwerthfawr yn rhoddion i sefydliadau ledled Cymru. Gan mor uchelgeisiol oedd ei bortreadau roedd gofyn iddynt gael eu harddangos mewn orielau eang neu fannau cyhoeddus. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd golygfeydd a fwriadwyd i oleuo neu ddyrchafu’r cyhoedd wedi mynd allan o ffasiwn. Hyd y dydd heddiw, ychydig iawn ohonynt a welodd olau dydd.

Yr arddangosfa bresennol yw’r fwyaf erioed i amlygu casgliad trawiadol o gynnyrch yr arlunydd. Gan dynnu ar archifau a chasgliadau preifat nas defnyddiwyd cyn hyn, cawn ddirnadaeth newydd o fywyd a gyrfa un o brif arlunwyr Cymru’r 20fed ganrif gynnar. Mae’n codi’r cwestiwn a ddaw i feddwl  pawb sy’n edrych ar waith Christopher Williams: paham, er ei gysylltiadau proffesiynol a’r gefnogaeth gan bobl amlwg ym maes gwleidyddiaeth ac academia, arlunydd a ddisgrifiwyd gan Lloyd George fel ‘one of the most gifted artists Wales has produced’, y cafodd ei anghofio mor fuan ac am gyfnod mor faith.