Pan oeddwn i’n byw yn Hong Kong am gyfnod yn 2004-5 ac yn ymweld â thir mawr Tsieina, cefais fy swyno gan y llyfrau plygu ac ymestynnol a ddefnyddir yno gan artistiaid. Deuthum ag amryw ohonynt yn ôl gyda fi pan ddychwelais i Gymru ac ers hynny rwyf wedi llenwi rhai ohonynt. Rhoddais gwpl ohonynt yn anrheg i gyfeillion, un o’r cyfeillion hynny oedd Clive Hicks-Jenkins, ac rwy’n cofio eistedd yn ei gegin yn trafod syniad am arddangosfa o’r llyfrau hyn gan amryfal artistiaid. Yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf bûm yn meddwl mwy am y peth a phenderfynais wireddu’r syniad.
Ar y cychwyn dechreuais gyda chwe artist Cymreig: fi fy hun a phump o artistiaid eraill yr oeddwn yn gyfarwydd â hwy. Dewisais artistiaid yr oedd gen i feddwl uchel o’u gwaith, a phob un ohonynt gyda ffyrdd amrywiol iawn o weithio. Yr hyn roeddwn i’n ei ragweld oedd y byddai pob artist yn gwneud yn union yr hyn a ddymunai yn ei lyfr, fel y byddai pob llyfr yn gwbl wahanol i’r llyfrau eraill, ond y byddai main a ffurf pob llyfr yr un fath â’r lleill. Byddai’r fformatiau yn unffurf, ond ceid cryn amrywiaeth o ran arddull a chynnwys. Wrth i mi drafod hyn gyda phobl eraill ehangodd y syniad i gynnwys artistiaid o Hong Kong ac Awstralia roeddwn i’n gyfarwydd â hwy.
Yn Chwefror 2009 galwais yn Hong Kong ar fy nhaith i Awstralia a phrynu llyfrau ymestynnol o ddau faint gwahanol ac yna eu rhoi i bob artist oedd yn cymryd rhan. Wrth i mi drafod y syniad gyda rhagor o artistiaid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ychydig o rai eraill wedi eu hychwanegu. Fel y llyfrau eu hunain, mae’r arddangosfa wedi ymledu dros amser. Mae un ar bymtheg o artistiaid yn yr arddangosfa; deg o Gymru, tri o Hong Kong, dau o Awstralia ac un o Loegr.
Mae un o’r artistiaid o Hong Kong yn gweithio yn y traddodiad Tsieineaidd o beintio brwsh sych ac mae gwaith y ddau arall yn gwbl gyfoes. Mae gan y ddau artist o Awstralia brofiad maith o ymarfer ac arddangos. Rhwng popeth mae’r grŵp o artistiaid a ddetholwyd yn arddangos amrywiaeth eang o ran arddulliau a chynnwys. Mae rhai o’r artistiaid sydd yn y grŵp yn dra adnabyddus, tra mae eraill yn llai enwog, ond mae pob un ohonynt yn dangos arddull, ffocws a hunaniaeth gwbl unigryw. Mae eu llyfrau yn rhyfeddol o amrywiol.
Fy syniad oedd gadael i’r artistiaid siarad drostynt eu hunain. Wrth i bob llyfr gael ei agor mae llais cwbl unigol yn cael ei ddatgelu. Fel yn achos tudalennau testun mewn llyfr, geiriau artist yw’r delweddau.
Mary Husted