Llyfrau Achau Alcwyn C. Evans

Cyfeirnod: NLW MSS 12359-12361D

Mae'r tair llawysgrif yma'n cynnwys achau, wedi eu mynegeio, o deuluoedd hynafol de-orllewin Cymru a grynhowyd gan Alcwyn Caryni Evans, hynafiaethydd hynod drylwyr a diwyd o Gaerfyrddin.

NLW MS 12361D - Mynegai

NLW MSS 12359D - Llyfr A-C

NLW MSS 12360D - Llyfr D-H

Alcwyn Caryni Evans (1828-1902)

Ganed Alcwyn Caryni Evans yng Nghaerfyrddin ar y 14eg o Fai 1828, yn fab i Evan Donard Evans (1796-1877) a'i wraig Sophia Evans (1800-1844). Fel ei dad, roedd Alcwyn Evans yn ysgolfeistr, a bu'n cadw'r 'Carmarthen Academy' yn Heol Awst am tua 40 mlynedd, ac yna hen dŷ'r Crynwyr, hen ysgol ei dad.

Er yn ieuanc iawn dangosodd Alcwyn Evans ddiddordeb mewn hanes lleol, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1867, enillodd y brif wobr lenyddol am ei 'History of Carmarthenshire'.  Dichon taw'r hanes yma (NLW MS 12369-12371B) oedd un o'i drysorau mwyaf gwerthfawr, a pharhaodd i ychwanegu manylion ato hyd ei farw.

Yn gasglwr trefnus a gofalus, gwnaeth Alcwyn Evans fwy nag unrhyw un arall i ymchwilio i hynafiaethau tref a sir Gaerfyrddin yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg Bu farw ar yr 11eg o Fawrth 1902 yn ei gartref yng Nghaerfyrddin.  Mewn ysgrif goffa iddo, dywed y Parch M. H. Jones, hynafiaethydd o Gaerfyrddin bod "Mr Evans yn ddiamheuol yn un o'r ychydig awdurdodau y gellid cysylltu ag ef am achau, ewyllysiau hynafol, dogfennau a chyfeiriadau eraill yn ymwneud â hanes y sir" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin, 2, t.110).

Gwasgarwyd ei gasgliad o bapurau ar ôl ei farw. Daeth ei gasgliad o gyfrolau llawysgrif "mewn ysgrifen gain wedi eu mynegeio'n ofalus" i lyfrgell Syr Evan Davies Jones, Pentŵr, Abergwaun, ac yng Ngorffennaf 1939 prynwyd y casgliad yn Sotheby's, Llundain ar ran yr Henadur R. J. R. Loxdale, Castle Hill, Llanilar, sir Aberteifi, a gyflwynodd y cyfan yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (NLW MSS 12356-88).

Y Llawysgrifau

Mae'r tair llawysgrif yn cynnwys achau, wedi eu mynegeio, o fonedd siroedd de-orllewin Cymru a gasglwyd o lawysgrifau a ffynhonellau eraill gan Alcwyn C. Evans.  Mewn erthygl yn y Carmarthen Journal, 11 Awst 1939, dywed rhyw E.J.W. “mae'r llyfrau yma o werth amhrisiadwy i'r achyddwr, gan eu bod yn diweddaru achau'r Cymry bonheddig a’u gwneud yn gyfoes."

Sut i ddefnyddio'r llawysgrifau:

Dylai'r darllenydd ddechrau chwilio drwy ymgynghori â'r gyfrol fynegai (NLW MS 12361D), sy'n cynnwys mynegeion o enwau'r bobl a'r lleoedd sy'n ymddangos yn yr achau yng nghyfrolau NLW MSS 12359-12360D, a mynegai NLW MS 12356E (Bonedd y Cymry).  Mae'r gyfrol mynegai mewn tair rhan: tt. 1-109, mynegai enwau lleoedd; tt. 124-214, mynegai cyfenwau; a tt. 216-234, mynegai cyfrol 1 o Bonedd y Cymry.

Mae rhan 1, mynegai enwau lleoedd wedi ei rannu'n 4 colofn:
colofn 1: cartref/enw lle;
colofn 2: enw lle / plwyf;
colofn 3: cyfeirnod tudalen i gyfrolau NLW MSS 12359-12360D;
colofn 4: croesgyfeiriadau i enwau teuluoedd eraill yn yr achau.

Mae rhan 2, mynegai'r cyfenwau wedi ei rannu'n 6 colofn:
colofn 1: cyfenw neu enw patronymig;
colofn 2: enw lle / plwyf perthynol;
colofn 3: llinell ddisgyniad;
colofn 4: cyfeirnod tudalen i gyfrolau NLW MSS 12359-12360D;
colofn 5: croesgyfeiriadau i enwau teuluoedd eraill yn yr achau;
colofn 6: nodiadau a chroes-gyfeiriadau amrywiol.

Mae rhan 3 yn fynegai i gyfrol 1 o Bonedd y Cymry  (NLW MS 12356E), wedi ei drefnu yn ôl brenhinoedd, llywodraethwyr, penaethiaid ac uchelwyr.

Mae'n bwysig nodi nad yw hwn yn fynegai cyflawn i holl deuluoedd ac enwau lleoedd a geir yn y llawysgrifau, a'i fod yn rhestr o'r teuluoedd mwyaf amlwg, a bod nifer o achau eraill sydd heb eu mynegeio i'w gweld o fewn canghennau'r achau.

Wedi ymgynghori â'r mynegai, dylai fod gennych gyfeirnod (ee B125) i'ch arwain i'r ach berthnasol yn y ddwy gyfrol arall -NLW MSS 12359-12360D.

Rhennir y ddwy gyfrol yma fel a ganlyn:

NLW MSS 12359D:
Llyfr A ('The British Genealogist of the Gentry of Carmarthenshire');
Llyfr B ('The British Genealogist of the Gentry of Cardiganshire'); a
Llyfr C ('The British Genealogist of the Gentry of Pembrokeshire').

NLW MSS 12360D:
Llyfr D ('Brychan Brycheinog');
Llyfr E ('The British Genealogist of the Gentry in some parts of Glamorgan, Brecknock, c.');
Llyfr F,
Llyfr G ('The Sixth Booke of ye Brittish Genealogist of Brecknockshire'); a
Llyfr H.

Felly, os mai cyfeirnod eich teulu yw A100 dylech fynd i gyfrol NLW MSS 12359D, a chwilio am ran A, tudalen 100, neu yn achos F98, dylech fynd i gyfrol NLW MSS 12360D, a chwilio am ran F, tudalen 98.

Darllen pellach:

  • B. G. Charles, 'Alcwyn Caryni Evans', yn y Bywgraffiadur Ar-lein
  • E.J.W., 'The Alcwyn Evans Manuscripts – compilations of a former Carmarthen Pedagogue,' Carmarthen Journal, 11 Awst 1939
  • Francis Jones, Historic Carmarthenshire Homes and their families, Carmarthen, 1987

 

 

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?