Deddf Cymudo’r Degwm 1836

Cymudo’r degwm oedd yr enw ar y broses o gyfnewid taliadau mewn nwyddau am daliad ariannol. Lluniwyd Deddf Cymudo’r Degwm er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd yn sydyn ar hyd a lled y wlad.

Roedd y degwm yn dal i fod yn daladwy ym mhob plwyf yng Nghymru bron (ac yn y mwyafrif o blwyfi yn Lloegr hefyd) yn 1836. Roedd dechrau’r 18fed ganrif yn gyfnod o ddiwygio mawr yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac economaidd. Roedd galw cynyddol am Gymudo’r Degwm (bu rhai diwygwyr yn ymgyrchu i ddiddymu’r degwm yn gyfan gwbl) ac yn 1836 bu i lywodraeth y dydd lywio Mesur Cymudo’r Degwm drwy’r Senedd yn llwyddiannus. Derbyniodd y Ddeddf Gydnabyddiaeth Brenhinol ar 13 Awst 1836.

Y broses o gymudo

Sefydlwyd y Comisiwn Degwm gan Ddeddf 1836; fe’i rheolwyd gan 3 Comisiynydd yn Llundain:

  • William Balmire
  • Thomas Wentworth Buller
  • Y Parch Richard Jones

William Balmire oedd y cadeirydd. Ffermwr o Cumberland ydoedd a bu’n rhaid iddo ymddiswyddo fel AS wedi iddo gael ei benodi i’r Comisiwn. Y Parch Richard Jones oedd enwebiad Archesgob Caergaint.

Sefydlu’r ardaloedd degwm

Rhai o dasgau cyntaf y Comisiynwyr oedd canfod ym mhle roedd cymudo eisoes wedi digwydd, a hefyd sefydlu ffiniau pob uned lle talwyd y degymau ar wahân. Galwyd yr uned hon yn ardal ddegwm er mwyn gwahaniaethu rhyngddi â phlwyf neu drefgordd. Cyfeiriwyd yr ymholiadau at bob plwyf neu drefgordd a restrwyd ar y ffurflenni cyfrifiad. Gellir canfod canlyniadau’r ymholiadau hyn yn Ffeiliau’r Degwm (Dosbarth IR18 yn yr Archifdy Gwladol).

Mae yna 1,132 o Ffeiliau Degwm ar gyfer Cymru ac maent yn cynnwys pob ardal yng Nghymru, nid yn unig y llefydd hynny lle’r oedd y degymau yn parhau i gael eu talu yn 1836. Plwyfi yw ardaloedd degwm fel arfer, ond mae lleiafrif ohonynt yn drefgorddau; mae rhai yn gapeliaethau, pentrefannau, neu fannau amhlwyfol, gyda nifer ohonynt yn mwynhau statws ar wahân at ddibenion cymudo’r degwm yn unig.

Achosion lle na wnaed dosraniad

Yng Nghymru dim ond 41 o ffeiliau sydd heb fap degwm yn cyfateb iddynt. O’r rhain, mae 5 yn cyfeirio at ffeiliau dyblyg o dan enwau eraill yn yr un ardal; mae 9 yn cyfeirio at ardaloedd a gynhwyswyd eisoes mewn ardaloedd degwm eraill. Felly mae 14 o’r 41 o ffeiliau heb fod yn cyfeirio at ardaloedd degwm penodol.

O’r 27 o ardaloedd degwm eraill na pharatowyd map ar eu cyfer, cawn fod y degwm yn Ifton (Sir Fynwy) wedi’i gymudo pan gaewyd y tir yn 1776. Mewn  11 ardal arall cafodd yr holl rhent-dâl degwm ei gyfuno cyn y dosraniad ac mae’r 15 sy’n weddill yn perthyn i ardaloedd lle nad oedd degwm yn cael ei dalu yn 1836 ac a oedd fwy na thebyg wastad wedi bod yn rhydd o’r degwm. Roedd 9 o’r rhain yn ardaloedd amhlwyfol bach iawn ac roedd 6 ohonynt yn arfer bod yn diroedd mynachlogydd. Paratowyd datganiadau cydsoddiad ar gyfer yr ardaloedd hyn hefyd er mwyn gwneud y sefyllfa’n rheolaidd.

Disgrifiwyd cynnwys y ffeiliau hyn yn fanwl yn Kain (1986).

Dosraniad

Roedd yna 2 ran benodol i’r broses o gymudo; y cyntaf oedd pennu asesiad cyffredinol ar gyfer yr ardal ddegwm ac yn ail, dosrannu rhent-dâl y degwm ar eiddo unigol.

Cofnodwyd y dosraniad ar fap ac mewn atodlen ysgrifenedig. Mae’r mapiau a’r atodlenni hyn gyda’i gilydd yn ffurfio’r hyn y mae’r haneswyr yn arfer ei alw’n ‘arolwg degwm y plwyf’. Pwrpas hanfodol arolwg oedd darparu mesur cywir o faint pob darn o dir neu ardal ddegwm mewn erwau, a chofnodi sut y gwelwyd bod y tir yn cael ei ddefnyddio.

Roedd Deddf y Degwm yn darparu ar gyfer gwneud copi gwreiddiol a 2 gopi arall o bob offeryn dosrannu a gadarnhawyd; seliwyd pob un ohonynt a’u llofnodi gan y Comisiynwyr. Cadwyd y copïau gwreiddiol dan ofal y Comisiynwyr ac maent erbyn hyn yn yr Archifdy Gwladol. Mae’r casgliad yn gyflawn.

Rhoddwyd y copïau i:

  • Gofrestrydd yr Esgobaeth: Trosglwyddwyd y copïau hyn i Gomisiwn yr Eglwys yng Nghymru pan ddatgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920, ac yn 1944 rhoddwyd hwy ar adnau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r casgliad yn gyflawn oni bai am y plwyfi hynny ar y ffin a ddewisodd ymuno ag esgobaeth Seisnig adeg y datgysylltiad. Ar gyfer yr ardaloedd degwm hyn, mae gan y Llyfrgell gopïau ffotograffig.
  • Beriglor a gwardeiniaid y plwyf. Mae rhai o’r copïau hyn yn parhau i fod yn yr eglwysi plwyf ond erbyn hyn mae llawer ohonynt ar adnau yn yr archifdai lleol. Mae gan y rhan fwyaf o archifdai ffotocopïau o’r mapiau a’r atodlenni ar gyfer eu cylch yn ogystal

Mapiau Degwm Ar-lein

Ewch i Lleoedd Cymru i chwilio a phori drwy fapiau degwm Cymru a'r dogfennau sy'n cyd-fynd â nhw.