Ewch i Lleoedd Cymru i chwilio a phori drwy fapiau degwm Cymru a'r dogfennau sy'n cyd-fynd â nhw.
Mae’r Llyfrgell yn cadw cyfres o fapiau degwm a rhestrau cysylltiol ar gyfer Cymru.
Mae’r holl fapiau degwm yn y Llyfrgell yn awr wedi eu catalogio a gellir eu canfod ar y catalog arlein. Mae enwau lleoedd yn nheitlau’r mapiau yn aml yn amrywio o’r sillafiad modern a gellir canfod y ffurfiau safonol trwy chwilio o dan bwnc.
Mae llungopïau o’r mapiau a’r atodlenni ar gael ar fynediad agored yn Ystafell Ddarllen y De. Nid yw’r rhai gwreiddiol fel arfer yn cael eu rhoi allan ac eithrio mewn achosion arbennig iawn (e.e. at bwrpas cyfreithiol) lle mae’n bwysig archwilio lliwiau neu luniad y map.
Mae cyfrol o fynegai mapiau sy’n dangos ffiniau'r ardaloedd degwm unigol hefyd ar gael yn Ystafell Ddarllen y De. Mae hwn wedi ei selio ar lungopi o Fynegai'r Arolwg Degwm (Index to Tithe Survey) yr Arolwg Ordnans gyda ffiniau’r ardaloedd degwm wedi eu hamlygu.
Am wybodaeth lawnach ymgynghorwch â’r llyfryddiaeth isod, yn arbennig Davies (1999), sy’n rhoi arweiniad cynhwysfawr i’r mapiau a’r atodlenni sy’n cael eu cadw yn y Llyfrgell.