Mapio Cymru o’r 16eg a’r 17eg Ganrif

Y map printiedig cynharaf i ddangos Cymru yn eglur oedd Angliae Triquetra Descriptio, Sebastian Münster yn 1538. Fodd bynnag, ychydig iawn o fanylion a ddangoswyd yn y map hwn o Brydain Fawr.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae Anglia II Nova Tabula Münster  yn dangos llawer mwy o fanylder ac mae’n gam mawr ymlaen o’r fersiynau Ptolemaig cynharach. Mae’r map hwn yn dangos llawer mwy o fanylion am Gymru, er bod yr arfordir yn parhau i fod yn ddychrynllyd o ddi-lun. Mae tebygrwydd rhwng y map yma â map Gough ac mae’n bosib iddo fod wedi cael ei gopïo o lawysgrif debyg.

Y cam nesaf ymlaen o ran mapio Cymru yw map Gerard Mercator o 1564 o Ynysoedd Prydain, sy’n dwyn y teitl Angliae, Scotiae & Hiberniae Nova Descriptio. Mae’r map hwn, ar 8 dalen ar raddfa o 14 milltir i bob 1 modfedd [oddeutu. 1:887,000], yn fanwl iawn a dyma’r map cyntaf i ddangos arfordir Cymru ar ffurf y gellir ei adnabod. Hyd y gwyddom dim ond 4 copi sy’n bodoli.

Y map printiedig cynharaf sydd wedi ei gofnodi o Gymru’n benodol yw Cambriae Typus Humphrey Lhuyd, a gasglwyd ynghyd yn 1568 ac a gyhoeddwyd gyntaf yn ‘Additamentum Theatrum Orbis Terrarum’ Abraham Ortelius yn 1573. Mae’r fersiwn llawysgrif 4 dalen wreiddiol o’r map, a anfonwyd gan Lhuyd i gael ei gyhoeddi, bellach ar goll. Mae gan y Llyfrgell 22 gwahanol argraffiad o’r 5 amrywiad ar fap Lhuyd.

Yn fuan wedi map Lhuyd, dechreuodd cartograffwyr eraill gynhyrchu mapiau manylach o Gymru. Y 3 gwneuthurwr mapiau mwyaf dyfeisgar yn y cyfnod hwn o bosib oedd Saxton, Speed ac Ogilby.

Christopher Saxton

Cynhyrchodd Christopher Saxton yr atlas sir gyntaf o Gymru a Lloegr yn 1579. Cynhwyswyd 13 o Siroedd Cymru mewn 7 map, fel a ganlyn:

  • Monmethensis comitatus…
  • Glamorgā comitatus…
  • Radnor Breknok Cardigan et Caermarden…
  • Penbrok comitat’…
  • Montgomeri ac Merionidh…
  • Denbigh ac Flint…
  • Mone Insulæ modo Anglesey, et Caernaruan…

Cafodd gwaith Saxton ei selio ar arolygon tir manwl a hwn oedd yr un mwyaf manwl yn ei ddydd. Parhaodd y mapiau yma, neu amrywiadau arnynt, i gael eu defnyddio am dros ganrif. Yn ddiweddarach bu i Kip a Hole rannu’r mapiau Cymreig i’w siroedd unigol ar gyfer eu defnyddio yn Britannia Camden (6ed argraffiad Lladin yn dyddio o 1607). Mae gan y Llyfrgell sawl copi, yn rhai rhydd a rhai wedi eu rhwymo, o fapiau Cymreig Saxton a chopïau deilliadol.

Doedd gan atlas Saxton ddim map ar wahân o Gymru gyfan; fodd bynnag, fe gynhyrchodd fap wal mawr o Gymru a Lloegr yn 1583. Mae’n ymddangos bod fersiynau cynnar o blatiau o’r map hwn yn sail i fap o Gymru a brynwyd gan y Llyfrgell yn 1986.

Mae’r Map Proflen hwn o Gymru, yn dyddio o 1580, yn ymddangos i fod yn ymgais i gynhyrchu map o Gymru. Mae ychwanegiadau llawysgrif i’r platiau printiedig yn cefnogi’r syniad yma; fodd bynnag, os mai hyn oedd y bwriad, wnaeth y syniad erioed ddwyn ffrwyth. Mae’r map ei hun yn welliant mawr ar fapiau cynharach o’r wlad ac yn rhoi darluniad cymharol gywir o’r arfordir.

Un o’r ychydig fapiau yn Camden a oedd heb fod yn deillio o blât cynharach gan Saxton yw map George Owen o Sir Benfro (1603). Mae gan y Llyfrgell 2 lawysgrif wahanol o’r map hwn, sy’n arloesol o safbwynt ei ddarluniad o’r rhwydwaith ffyrdd a hefyd ei grid alffa-rifol a’i fynegai enwau lleoedd gyda chyfeiriadau grid. Cyhoeddwyd y map ar ffurf wedi’i symleiddio yn argraffiad 1607 o Britannia.

John Speed

Yn 1611 cyhoeddodd John Speed ei ’Theatre of the Empire of Great Britain’; mae’r 2ail gyfrol o’r gwaith hwn sy’n cynnwys 4 cyfrol i gyd yn edrych ar Gymru a cheir ynddo fap o Gymru a mapiau unigol o’r 13 sir yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r mapiau yng ngwaith Speed wedi eu dyddio yn 1610, er bod ychydig ohonynt yn gynt.

Mae gwaith Speed yn welliant ar un Saxton gan ei fod yn darparu mwy o fanylder ac hefyd yn cynnwys cynlluniau mewnosodiad bychain o’r trefi pwysig ar bob map. Unwaith eto, mae gan y Llyfrgell sawl copi o’r mapiau hyn.

Yn ychwanegol i’r fersiynau cyhoeddedig mae gan y Llyfrgell hefyd fersiynau proflen ar gyfer 7 o siroedd Cymru: Brycheiniog, Ceredigion, Caerfryrddin, Meirionydd, Mynwy a Maesyfed. Prynwyd y rhain gan y Llyfrgell yn 1998.

John Ogilby

Yn 1675 cyhoeddodd John Ogilby Britannia, a oedd hefyd yn cynnwys mapiau; fodd bynnag, roedd y mapiau a gynhyrchwyd gan Ogilby yn wahanol iawn i’r rhai gan Speed a Saxton. I Ogilby nodwedd bwysicaf tirlun Prydain oedd ei ffyrdd.

Doedd ei fapiau ddim yn darlunio darn o dir fel mapiau traddodiadol, ond yn hytrach byddai’r map ar ffurf stribed a oedd yn dilyn taith rhyw ffordd. Mae’r darluniau hyn o’r ffyrdd yn darparu cyswllt rhwng yr hen deithlenni a darluniau o draffyrdd modern. Mae datblygiad map o’r fath a’i boblogrwydd amlwg yn  dystiolaeth o’r cynnydd mewn teithio ar y ffyrdd a oedd mewn perygl oherwydd datblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwydiannol y ganrif flaenorol.

Mae llawer o’r ffyrdd yn dechrau neu’n gorffen yng Nghymru, neu’n teithio trwyddi ac mae rhai wedi eu gosod yn gyfan gwbl yng Nghymru. Y map ffordd gyntaf yn y gyfrol yw ‘The road from London to Aberistwith’. Mae o leiaf 16 o’r 102 o blatiau yn dangos ffyrdd yng Nghymru. Mae gan y Llyfrgell sawl enghraifft o’r mapiau hyn, a rhai sy’n deillio ohonynt, a barhaodd i gael eu cynhyrchu drwy lawer iawn o’r 18fed ganrif.

Dim ond detholiad bychan o’r deunydd o’r cyfnod hwn sy’n cael ei gadw yn y Casgliad Mapiau yw hyn. Mae gwaith nifer o gartograffwyr eraill yn cael ei gynrychioli yn y casgliad, gan gynnwys gwaith cartograffwyr Ewropeaidd gwych megis Mercator, Blaeu a Hondius. Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i gasgliad mawr o facsimiles o’r gweithiau hyn.