Symud i'r prif gynnwys

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn berchen ar, yn cynhyrchu ac yn defnyddio gweithiau sydd wedi eu gwarchod gan hawlfraint. Wrth gasglu, cadw a rhoi mynediad i’r gweithiau hynny, mae’n bwysig ein bod yn trin a thrafod hawliau yn y dull priodol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod ein bod yn ymdrin â hawliau yn ddiwyd a chytbwys, a’n bod yn gweithredu yn ddidwyll bob amser.

Os oes gennych hawl dros waith sy'n cael ei arddangos ar y wefan ac yn gwrthwynebu’r defnydd a wneir ohono, gallwch wneud cais i’w dynnu oddi ar y wefan drwy ysgrifennu at takedown@llgc.org.uk. Bydd eich cais yn cael ei brosesu yn unol â’n Polisi Hysbysu a Chymryd i Lawr. Os ydych yn gwybod am unrhyw achosion ble nad yw'r deiliaid hawlfraint wedi eu cydnabod yn gywir rhowch wybod i ni drwy ein Gwasanaeth Ymholiadau, os gwelwch yn dda, fel y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol.

Ceisiwn gyflwyno gwybodaeth hawliau ar ein gwefan mewn dull eglur a chryno a gofynnwn yn garedig i chi barchu’r hawliau sy’n gysylltiedig â’r eitemau.

Ceir rhagor o wybodaeth am ymdriniaeth y Llyfrgell o Hawliau Eiddo Deallusol yn y Polisi Hawliau Eiddo Deallusol.


Casgliadau digidol

Mae’r holl eitemau o fewn i’r casgliadau digidol yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:

Copyright Hawlfraint
Nod Parth Cyhoeddus Nod Parth Cyhoeddus
Hawlfraint Anhysbys Hawlfraint Anhysbys
>CC Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-RhannuYnYrUnModd CC Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-RhannuYnYrUnModd
CC Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-DimGweithiauDeilliadol CC Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-DimGweithiauDeilliadol

Bydd gwybodaeth hawliau ar gyfer eitemau a chasgliadau penodol yn cael eu diweddaru dros amser i adlewyrchu’r fframwaith newydd ar gyfer trwyddedu a labelu casgliadau digidol a chynnwys arall.

Bydd gwybodaeth hawliau ar gyfer eitemau a chasgliadau penodol yn cael eu diweddaru dros amser i adlewyrchu’r fframwaith newydd ar gyfer trwyddedu a labelu casgliadau digidol a chynnwys arall.


Archebu copïau ansawdd uchel a gwneud ceisiadau i ddefnyddio mewn ffyrdd sydd fel arall yn waharddedig

Gallwch wneud cais am gopi ansawdd uchel neu ganiatâd i ddefnyddio eitem mewn modd sy’n waharddedig ar y wefan drwy lenwi’r Ffurflen Ymholiadau Arlein.

Noder os gwelwch yn dda ei bod yn bosibl y bydd angen caniatâd y deiliad hawlfraint arnoch cyn y gallwn ddarparu copi.


Metadata a gwybodaeth destunol arall

Mae metadata (gwybodaeth am y casgliadau) a gwybodaeth destunol arall mae'r Llyfrgell wedi ei ysgrifennu ar gyfer y wefan wedi ei drwyddedu dan drwydded CC-0 ac yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint. Buasem yn gwerthfawrogi yn fawr petaech yn rhoi cydnabyddiaeth i’r Llyfrgell fel ffynhonnell y wybodaeth os yw'n bosibl.

Noder os gwelwch yn dda nad yw’r holl fetadata a gwybodaeth destunol arall sydd ar y wefan wedi ei gynhyrchu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac y gall rhywfaint ohono fod wedi ei warchod gan hawliau trydydd parti. Os hoffech chi fwy o eglurder ynghylch pa ddata y gellir ei ddefnyddio dan y drwydded CC-0, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiadau Arlein.