Ffotograffwyr

Ebenezer Morgan  (1820-1906)

Bedyddiwyd Ebenezer Morgan yn Lledrod, Ceredigion ar 9 Gorffennaf, 1820. Bwriodd ei brentisiaeth yn y fasnach gwaith coed yn Nhregaron ac yna bu’n gweithio fel saer ym Manceinion a Birmingham. Ar ôl dychwelyd i Aberystwyth aeth i bartneriaeth â Benjamin Hughes, oedd yn berchen ar siop gwerthu nwyddau haearn yn y dref.

Yn fuan wedyn, dechreuodd Morgan, ar y cyd â John Owen (y ffotograffydd cyntaf i ddod i Aberystwyth) eu busnes ffotograffiaeth eu hunain, ac erbyn tua 1860 roedd Morgan wedi sefydlu 2 stiwdio ei hun ar Heol y Wig. Roedd yr 1880au yn gyfnod llewyrchus ar gyfer ffotograffiaeth yn Aberystwyth ac erbyn 1880 roedd Morgan yn berchen ar un o’r chwe busnes ffotograffiaeth yn y dref. Roedd yn un o’r ffotograffwyr cynharaf mwyaf amlwg yn y dref, a pharhaodd y busnes am dros ddeugain mlynedd nes iddo ymddeol yn 1899.

John Thomas  (1838-1905)

Mab i labrwr oedd John Thomas o Gellan, Ceredigion. Yn 1853 symudodd i  Lerpwl i weithio mewn siop ddillad. Dros gyfnod o ddeng mlynedd cafodd y gwaith effaith niweidiol ar ei iechyd a bu’n rhaid iddo chwilio am waith arall.

Ar ddechrau’r 1860au, gweithiodd i gwmni a werthai ddeunyddiau ysgrifennu a ffotograffau o enwogion. Roedd cyhoeddi a gwerthu ffotograffau bychan o bobl enwog (ffotograffau carte-de-visite) yn fusnes proffidiol iawn ar y pryd. Yn fuan sylweddolodd cyn lleied o Gymry a ddarlunnid yn y ffotograffau o enwogion a werthai, felly penderfynodd fynd ati ei hun i newid hyn.

Dysgodd hanfodion ffotograffiaeth ac yn 1863 dechreuodd dynnu ffotograffau o bobl enwog drwy wahodd nifer o bregethwyr enwog i eistedd am eu llun. Roedd y fenter yn llwyddiant ac erbyn 1867 roedd yn ddigon hyderus i sefydlu ei fusnes ffotograffiaeth ei hun yn Lerpwl, sef ‘The Cambrian Gallery.’

Gweithiodd fel ffotograffydd am tua deugain mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw teithiodd i bob cwr o Gymru gan dynnu ffotograffau o dirluniau yn ogystal â phobl.

Hugh Humphreys (1817-1896)

Ganed Hugh Humphreys yng Nghaernarfon yn 1817. Yn 12 oed prentisiwyd ef gyda Peter Evans, argraffydd yng Nghaernarfon. Sefydlodd ei fusnes argraffu ei hun yn y dref yn 1837, ac yn fuan datblygodd y busnes yn fenter llawer mwy a oedd hefyd yn cynnwys gwerthu llyfrau, ffotograffiaeth a pheintiadau olew. Ffynnodd y busnes am bron i drigain mlynedd. Un o’r llyfrau pwysicaf a gyhoeddodd oedd A Tour in Wales (cyh. 1778-1783) gan y teithiwr, naturiaethwr a hynafiaethydd, Thomas Pennant (1726-1798).

Yn ôl cyfarwyddiaduron masnach, roedd Humphreys yn gweithio fel ffotograffydd tirluniau a phortreadau yn yr 1880au a’r 1890au o dan y teitl ‘Humphreys Photographic Studio & Fine Art Gallery’ yn Adeiladau Paternoster, ar y Maes, Caernarfon. Roedd nifer o’r ffotograffau a wnâi ar ffurf ffotograffau cardiau, oedd yn hynod o boblogaidd yn ystod y cyfnod hwn. Cymerodd ran amlwg ym mywyd y dref, a chafodd ei ethol yn Faer yn 1876.

John Wickens (1865-1936)

Roedd John Wickens yn ffotograffydd enwog ym Mangor gyda stiwdios yn Y Cilgant a Ffordd y Coleg, Bangor Uchaf a Stryd Fawr, Bangor. Yn ôl y cyfarwyddiaduron masnach dechreuodd weithio fel ffotograffydd yn y dref yn 1889 a daliodd i weithio yno am weddill ei fywyd.

Erbyn 1990, roedd ganddo ddau safle yn Retina Studio, Bangor Uchaf , a Studio Royal, 43 Stryd Fawr. Roedd yn ffotograffydd portreadau cynhyrchiol, ac enillodd wobrau am ei luniau, yn cynnwys medal Aur yn Eisteddfod Abertawe yn 1891.

Henry Alfred Chapman (1844-1915)

Ganed Henry Alfred Chapman yn Coningsby, Swydd Lincoln, yn 1844 ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Lincoln. Ymgartrefodd y teulu Chapman yn Abertawe yn 1860. Agorodd ei dad, Samuel Palmer Chapman stiwdio ffotograffiaeth yn York Street ac yn ddiweddarach yn y Stryd Fawr. Yn ddiweddarach  symudodd Henry i Rif 235 Stryd Fawr i sefydlu ei siop a’i stiwdio ei hun a chartref i’r teulu. Roedd Henry a’i dad ymysg y ffotograffwyr masnachol cyntaf yn Abertawe.

Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, roedd newidiadau technegol yn digwydd yn gyson ym maes ffotograffiaeth ac roedd bob amser yn awyddus i arbrofi. Cynhyrchodd y portreadau ar gardiau oedd yn hynod o boblogaidd, sef y ‘cartes-de-visite’. Gwerthid y rhain am 2/- yr un am dros 13 mlynedd.

Yn 1870 fe’i hapwyntiwyd yn ffotograffydd y Llywodraeth ar gyfer Morgannwg. Enillodd nifer o wobrau am ei ffotograffau, gan gynnwys chwe gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful yn 1901. Gweithiodd yn ddyfal a chafodd yrfa hir. Erbyn 1908, roedd ganddo gynifer â 350,000 o negatifau gwydr.

Roedd ei gariad at ddarlunio a pheintio hefyd yn amlwg drwy gydol ei fywyd. Roedd yn arlunydd portreadau a chynigiai’r gwasanaeth hwn ochr yn ochr â’i waith fel ffotograffydd. Gweithiai’n bennaf mewn olew a pheintiodd nifer o Gymry enwog o’r ardal megis Syr John Dillwyn Llewelyn a William Thomas o Lan. Yn y 1870au ef oedd y prif artist ar gyfer y cyhoeddiad misol The Swansea boy.

Cafodd ei ethol ar y Cyngor yn 1881 a bu’n gynghorydd ac yn Oruchwyliwr y Tlodion am ugain mlynedd. Yn 1892 cafodd ei ethol yn Faer Abertawe.

Llyfryddiaeth

  • Darlington, Elizabeth A., 1988. ‘High Street Photographers in Aberystwyth 1857 - c1900.’ Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfrol XXV/4 (Gaeaf)
  • Gabb, Gerald, 1999. Jubilee Swansea (Volume II) : the town and its people in the 1890s. Swansea : Gerald Gabb
  • Hugh Humphreys (1817-1896)Y Bywgraffiadur Cymreig, 1959; arg. arlein, 2007
  • National Library of Wales, ‘John Thomas (1838-1905): ei fywyd a’i waith