Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Casglwyd gan Ceris Gruffudd
Mae'r llyfryddiaeth hon - sy'n seiliedig ar arolwg a wneuthum o ddeunydd o ddiddordeb Cymreig yn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifdai Awstralia yn ystod ymweliad â'r wlad honno ym 1982 - wedi'i ehangu fel canlyniad i ddelio ag ymholiadau darllenwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ychwanegwyd, yn ogystal, eitemau a gyhoeddwyd ar gyfer ac ar ôl Daucanmlwyddiant Awstralia ym 1988.
Cyhoeddwyd y llyfryddiaeth yn The historical and cultural connections and parallels between Wales and Australia (1991), ond ychwanegwyd eitemau i'r fersiwn hon. Mae'r llyfryddiaeth yn delio'n benodol ag Awstralia, er bod yna gyfeiriadau wrth fynd heibio at Seland Newydd. Rhestrir llyfrau, erthyglau mewn cylchgronau a thraethodau ymchwil ynghyd â llawysgrifau sy'n ymwneud yn benodol â'r rhaniadau testunol. Ni wnaethpwyd ymdrech i gynnwys yr holl lawysgrifau gan fod y rhain wedi eu rhestru yng nghyfrol Phyllis Mander Jones, Manuscripts in the British Isles relating to Australia, New Zealand and the Pacific (Canberra, 1972) ac yn RAAM (Register of Australian Archives & Manuscripts).
Rhestrwyd y cofnodion yn nhrefn yr wyddor dan saith pennawd - Alltudiaeth, Dyddiaduron a Llythyrau, Hanes Teuluoedd, Teithio a Disgrifiad, Crefydd, Y Cymry yn Awstralia a Bywgraffyddol. Mae'r cofnodion am lyfrau yn cynnwys enw awdur, teitl llyfr, man cyhoeddi, enw'r cyhoeddwr, blwyddyn gyhoeddi a thudaleniad. Mae'r cofnodion am erthyglau mewn cylchgronau yn cynnwys enw awdur, teitl erthygl, enw'r cylchgrawn, rhif cyfrol a rhan a blwyddyn gyhoeddi.
Rhestrir yn y cofnodion bywgraffyddol y rhai hynny o Gymry Awstralia a gynhwyswyd yn neuddeg cyfrol yr Australian Dictionary of Biography ac yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a'i Atodiad. Dynoda enwau mewn bachau petryal ail genhedlaeth o Gymry Awstralia, neu bobl a anwyd y tu allan i Gymry. Nid oedd gan Gymry Awstralia, fel eu cymheiriaid yn Unol Daleithiau America, ddiwydiant cyhoeddi eang; dau gylchgrawn yn unig a gyhoeddwyd yn y cyfnod cynnar - Yr Australydd a'r Ymwelydd, y ddau wedi'u cyhoeddi yn Victoria. Yn ôl Bob Owen, Croesor, cyhoeddwyd Yr Ymgeisydd yn Castlemaine ym 1865, ond nid oes yr un copi ohono wedi goroesi.
Hyd y gwn i, yr unig lyfr o ddiddordeb Cymreig a gyhoeddwyd yn Awstralia yn ystod y ganrif ddiwethaf oedd Britannia antiquissima: or a key to the philology of history (sacred and profane) gan John Jones Thomas (Caraddaeg) Melbourne: Henry Tolman Dwight, 1860: (2il arg, 1866).
Yn ôl nodyn yn Llyfrgell Talaith NSW: "Ceisia'r awdur brofi drwy astudiaeth o'r iaith Gymraeg a thraddodiad Cymreig fod y Cymry yr un rhai a'r Cimmeriaid (pobl wreiddiol o gyn-hanes) yn Ewrop ac Asia Leiaf". Y nodyn "diwedd y gyfrol gyntaf" ar t. 216 yw'r unig awgrym fod cyfrol arall wedi'i bwriadu. Dim ond y gyfrol gyntaf o'r ddau argraffiad a restrir yng nghatalogau'r Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgelloedd Cenedlaethol Awstralia a Chymru, Llyfrgell Mitchell, Sydney ac yn Bibliography of Australia Ferguson.
Ganwyd John Jones Thomas yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, ac yn ôl Yr Ymwelydd I (1874/5) t. 191, roedd yn frawd i Mesac Thomas (a ddaeth yn Esgob Goulburn, NSW); disgrifir John Jones Thomas ar yr wyneb-ddalen fel 'cyn Arolygydd Ysgolion Enwadol Ei Mawrhydi'.
Mae tri chasgliad o lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia yn cynnwys deunydd ar y Cymry yn Awstralia. Mae yng Nghasgliad Evan Thomas (N301.453429 E92) saith bocs a phedair cyfrol o ddeunydd a gasglwyd gan Evan Thomas, a anwyd yn Ysbyty Ifan, ac a fu am flynyddoedd yn ysgrifennydd y Cambrian Society of Victoria. Cadwodd hefyd bapurau'r Gymdeithas a chymdeithasau eraill ac maent yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia MSS 2595. Rhoddodd Mrs Olwen Watson, Sydney, bapurau ei rhieni i Lyfrgell Genedlaethol Awstralia ym 1983 - Papurau Maldwyn Rees MS 6781. Bu Blodwen a Maldwyn Rees yn weithgar ym mywyd Cymreig Awstralia a hwy fu'n golygu a chyhoeddi The Welsh Australian (1935-42).