Dros yr wythnosau diwethaf mae blog y Llyfrgell wedi symud i'r dudalen hon.
Yma bydd modd dilyn yr holl straeon o'r Llyfrgell a dod i nabod rhai o'r casgliadau'n well.
Fe symudwyd y blog am resymau technegol a chynaladwyedd ynghŷd â'r galw i greu ardal Newyddion newydd, cynhwysfawr. Fel rhan o'r gwaith symud, fe gopiwyd cofnodion o Ionawr 2023 ymlaen draw i'r dudalen hon, ond yn anffodus nid oedd adnoddau i symud cofnodion hŷn.
Mae modd defnyddio fersiwn archif o'r blog ar yr Internet Archive Wayback Machine i weld cofnodion hŷn. Os nad ydych chi'n gallu dod ar draws y cofnod sydd angen arnoch yma gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau ac mi wnan ni ein gorau i'ch helpu.