Symud i'r prif gynnwys

Y Ddeiseb Heddwch yn dychwelyd yn ôl i Gymru

Yn 2019 y dechreuodd Pwyllgor Partneriaeth ‘Hawlio Heddwch’ weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fenthyg y gist a rhai o’r deisebau. Arweiniodd y trafodaethau hyn gydag Amgueddfa Genedlaethol Hanes America at drosglwyddo’r gist i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, fel y cefnogir gan Lywodraeth Cymru. Rhoddwyd £249,262 i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi ymdrechion Prosiect Deiseb Heddwch Menywod Cymru.

Hanes y Ddeiseb Heddwch

Ers 1923, roedd y ddeiseb wedi'i chadw a'i harddangos gan Amgueddfa Genedlaethol Hanes America, yn Washington DC. Dechreuodd ei thaith pan benderfynodd grŵp o ferched o Gymru ymgymryd ag ymgyrch dros heddwch, bum mlynedd ar ôl i erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf chwalu Ewrop. Mewn cynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, lansiwyd ymgyrch i sicrhau bod menywod UDA yn clywed lleisiau menywod Cymru i gyd-weithio dros fyd heb ryfel.

Arwyddwyd y ddeiseb gan 390,296 o ferched Cymru. Yn ôl y sôn credir ei bod yn 7 milltir o hyd, ac fe aethpwyd â hi i’r UDA mewn cist dderw gan Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys, a Gladys Thomas, lle y'i cyflwynwyd wedyn i ferched America gan ddirprwyaeth heddwch Cymru.

Mynediad at y Ddeiseb Heddwch

Mae'r ddeiseb ar hyn o bryd yn cael ei chatalogio a'i digido gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae nifer o'r papurau bellach ar gael i’w gweld arlein. Ceir mwy o fanylion am gynnwys papurau'r ddeiseb yn ein cofnod catalog newydd. Wrth edrych ar bapurau'r ddeiseb ar y we, gallwch ddewis papur penodol trwy glicio ar y tab ‘Mynegai’ ar ochr chwith y syllwr digidol.

Deisebau o focs 1

Prosiect torfoli

Y cam nesaf yw lansio ymgyrch genedlaethol i drawsgrifio enwau’r llofnodwyr ar lwyfan torfoli (crowdsource) y Llyfrgell gyda’r bwriad o ddarparu adnodd a dehongliad hygyrch i gynulleidfaeodd byd-eang. Mae’r ymgyrch yn un unigryw, gan y bydd yn gwahodd pobl  i drawsgrifio’r 390,296 o lofnodion sydd yn y ddeiseb, gan ganiatáu i bawb gyfrannu at yr etifeddiaeth hon, sydd heb ei hadrodd i raddau helaeth eto. Bydd y wybodaeth a gawn yn sgil y broses yn caniatáu i ni ddarganfod pwy yn union oedd y menywod hyn o Gymru a aeth i chwilio am heddwch.

Partneriaethau

Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei harddangos mewn sefydliadau amrywiol ledled y wlad. Bydd Academi Heddwch Cymru a WCIA yn rheoli’r prosiect ar ran Partneriaeth y Ddeiseb Heddwch gyda’r bwriad o ymgysylltu â 10,000 o bobl i ddarganfod, ac i ddysgu am y rhan y chwaraeodd menywod yng Nghymru ym mudiad heddwch a threftadaeth y wlad, a thrwy hynny gyfrannu at wybodaeth gyfunol o Ddeiseb Heddwch 1923. I ddysgu mwy am y prosiect hwn neu i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd i gymryd rhan, llenwch y ffurflen gofrestru hon neu sganiwch y cod QR i gofnodi eich diddordeb.

Y gobaith yw y bydd yr adnoddau addysgol a ddaw yn sgil y prosiect hwn, yn annog ysgolion, sefydliadau pobl ifanc a grwpiau cymunedol i ddysgu a chymryd rhan yn nhreftadaeth heddwch Cymru. Mewn byd lle mae gwrthdaro’n parhau, mae prosiectau o’r fath yn cael effaith ddofn gan wneud i ni drafod ac ystyried y gobaith o ddod a heddwch i’r ddaear gyfan, ac ysbrydoli cenedlaethau newydd i ymdrechu am fyd heb ryfel.