Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae papurau newydd yn rhoi darlun byw o fywyd yn y gorffennol yn ogystal ag yn y presennol. Maent yn ffynhonnell boblogaidd a defnyddiol ar gyfer amrywiaeth o ymchwil hanesyddol. Oherwydd eu natur nid yw papurau newydd yn para am byth. Mae hen bapurau newydd yn troi'n asidig ac yn frau, ac felly'n creu problem cadwraeth sylweddol i'r llyfrgelloedd sy'n ceisio'u diogelu.
Mae llyfrgelloedd drwy'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn cydweithredu ar raglen Newsplan. Bwriad cymal cyntaf Newsplan oedd adnabod papurau newydd sydd wedi goroesi drwy'r Deyrnas Unedig, a chyhoeddwyd manylion am y papurau mewn cyfres o adroddiadau rhanbarthol. Cyhoeddwyd yr Adroddiad ar gynllun Newsplan yng Nghymru yn 1994, a dyna sylfaen y wefan hon.
Mae ail gymal Newsplan wedi canolbwyntio ar baratoi microffilm o bapurau newydd hyd at 1950. Hyrwyddir y gwaith yn bennaf gan Newsplan 2000, ymddiriedolaeth elusennol a gefnogir gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth, y diwydiant papurau newydd, y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cydlynnir gwaith Newsplan yng Nghymru gan Bwyllgor Gweithredu Newsplan Cymru.
Drwy baratoi microffilm o'r papurau newydd gwreiddiol sydd o ansawdd uchel ac o safon gadwraethol, bydd modd diogelu'r negyddion meistr o'r microffilm pan fydd y papurau newydd gwreiddiol wedi dirywio. Gellir defnyddio copiau o'r negyddion fel copiau darllen neu eu sganio i gynnig mynediad digidol ar-lein.
Mae'r wefan hon yn cyflwyno gwybodaeth am waith Newsplan Cymru ac yn cynnig mynediad i gronfa ddata o bapurau newydd Cymreig sydd ar gael mewn llyfrgelloedd naill ai ar ffurf papur neu ar ficroffilm. Ar y wefan hefyd fe geir cysylltiadau i wefannau eraill sy'n cyflwyno gwybodaeth am Newsplan ac am bapurau newydd eraill a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.