Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Gellir olrhain gwreiddiau’r gronfa hon yn ôl i lafur Elizabeth J. Louis Jones a Henry Lewis yn eu Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1928. Ehangwyd y gwaith wedi hynny dan nawdd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, a noddodd gynhyrchu’r Mynegai i Farddoniaeth Gaeth y Llawysgrifau, mewn setiau 12 cyfrol, i sefydliadau ymchwil yn 1978.
Ailgydiwyd yn y gwaith yn 1987, dan nawdd yr Academi Brydeinig, ac mewn partneriaeth rhwng y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a’r Llyfrgell Genedlaethol. Ehangwyd y maes i gynnwys pob cerdd Gymraeg sydd ar gael mewn llawysgrifau a ysgrifennwyd cyn 1830, yn ganu caeth a chanu rhydd, boed enw bardd wrth y gerdd ai peidio. Ychwanegwyd meysydd chwilio, ffynonellau print, a throswyd y data i ffurf electronig.
Yn 1991 daeth y cynllun dan adain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gwnaed peth gwaith ar y llawysgrifau er mwyn cadarnhau fod eu cynnwys wedi ei gofnodi yn y gronfa ddata. Daeth y gwaith o ehangu’r Mynegai i ben yn 1995, ac o addasu a chywiro’r data yn 2000, ond mae'r gwaith ymhell o'i orffen.
Ym mis Mawrth 2021 bu’n rhaid diddymu’r mynediad arferol at wefan y Mynegai oherwydd nifer o broblemau gyda diogeledd y wefan. Hyd nes y bydd datrysiad hirdymor i’r broblem hon, byddwn yn cynnig mynediad i’r data i chi ei lawrlwytho yma, a’i chwilio eich hunan.
Mae'r data ar gael ar ffurf:
Data Maldwyn (ffeil Excel) Hawlfraint; Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Trwydded CC-BY 4.0
I chwilio'r gronfa ddata, nodwch eich term chwilio yn y blwch chwilio gwyrdd golau a gwasgwch ENTER. Bydd hyn yn chwilio pob colofn o'r gronfa ddata. Bydd unrhyw ganlyniadau yn cael eu hamlygu mewn oren. I weld y cofnodion sy'n cyfateb yn unig, defnyddiwch unrhyw un o'r cwymplenni hidlo yn rhes 3 i ddewis 'Filter by Colour' a dewiswch y llenwad oren. Cofiwch glirio'r hidlydd hwn cyn eich chwiliad nesaf.
Byddwn yn parhau i roi mynediad fel ag o’r blaen i