Symud i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae gan Hawliau Eiddo Deallusol ran bwysig mewn sawl agwedd o waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r Llyfrgell yn berchen ar, yn cynhyrchu ac yn rheoli Hawliau Eiddo Deallusol, ac y mae ymddygiad diwyd wrth ymdrin â'r hawliau hynny yn hanfodol i weithrediad, enw da, cynaladwyedd a chyflawniad ei hamcanion craidd, sef 'casglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg'.

Wrth ymdrechu i gyflawni ei hamcanion craidd yn y modd mwyaf effeithiol, mae gan y Llyfrgell ddyletswydd tuag at ddeiliaid hawliau a defnyddwyr. Mae ganddi ddyletswydd i barchu’r Hawliau Eiddo Deallusol sy’n bodoli yn y casgliadau dan ei gofal ac y mae ganddi hefyd ddyletswydd i ddiogelu, rhoi mynediad i, a hwyluso defnydd o'r casgliadau hynny. Yn ogystal, mae gan y Llyfrgell gyfrifoldeb i warchod ei buddiannau ei hun er mwyn sicrhau cynaladwyedd tymor hir y gweithgareddau hynny sy'n galluogi mynediad a defnydd o'r casgliadau yn ffisegol ac yn ddigidol. Mae'r holl ffactorau hyn wedi dylanwadu ar safbwynt y Llyfrgell wrth drin a thrafod Hawliau Eiddo Deallusol.

1. Sgôp a diffiniadau

Mae'r Polisi Hawliau Eiddo Deallusol yn berthnasol i bob agwedd o waith y Llyfrgell sy’n ymwneud â chreu a rheoli Eiddo Deallusol.

Mae Swyddfa Eiddo Deallusol y DG yn disgrifio ‘Eiddo Deallusol’ fel a ganlyn:

Mae Eiddo Deallusol yn tarddu o fynegiant o syniad. Felly gallai Eiddo Deallusol fod yn frand, yn ddyfais, yn gân neu’n greadigaeth ddeallusol arall. Gellid perchnogi, prynu a gwerthu Eiddo Deallusol.

Mae’r gyfraith yn darparu fframwaith sy’n rhoi hawl i berchennog Eiddo Deallusol benderfynu ym mha ffordd y defnyddir eu heiddo (‘Hawliau Eiddo Deallusol’), ond y mae hefyd yn nodi’r ffyrdd y gellid defnyddio’r eiddo heb ganiatâd y perchennog (gelwir y rhain yn ‘eithriadau’).

Mae rhai mathau o Hawliau Eiddo Deallusol yn fwy perthnasol nag eraill i waith y Llyfrgell, yn arbennig hawlfraint a hawliau cronfa ddata. Mae’r canlynol yn gyflwyniad bras i’r hawliau hynny yn hytrach na diffiniadau manwl ohonynt.

‘Hawlfraint’ yw'r hawl cyfreithiol unigryw i reoli'r defnydd a wneir o waith dros gyfnod o amser. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys: copïo; addasu; dosbarthu; cyfathrebu i'r cyhoedd drwy drosglwyddiad electronig; rhentu neu roi copïau ar fenthyg i'r cyhoedd; a pherfformio yn gyhoeddus. Mae hefyd gan awduron gweithiau llenyddol, dramatig, cerddorol ac artistig a chyfarwyddwyr ffilmiau ‘hawliau moesol’ mewn perthynas â’u gwaith. Mae perchnogaeth a hyd hawlfraint (yn ogystal â bodolaeth a hyd hawliau moesol) yn dibynnu ar nifer o ffactorau sydd angen eu hystyried yn ofalus. 

Mae ‘Hawl Cronfa Ddata’ yn codi o fuddsoddiad sylweddol mewn casglu, gwirio a chyflwyno cynnwys cronfa ddata. Maent yn parhau am 15 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr y cwblhawyd y gronfa ddata.

2. Amcanion

Mae'r Polisi Hawliau Eiddo Deallusol yn disgrifio safbwynt y Llyfrgell mewn perthynas â’r Hawliau Eiddo Deallusol sy'n eiddo iddi, a gynhyrchir, ac a reolir ganddi wrth gyflawni ei amcanion craidd a gweithgareddau perthnasol eraill. Ceisir rhoi eglurdeb a chysondeb i’r modd y mae’r Llyfrgell yn ymdrin â Hawliau Eiddo Deallusol a sicrhau bod pob aelod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a dyletswyddau. Mae hefyd yn hysbysu aelodau'r cyhoedd o'r modd y mae'r Llyfrgell yn ymdrin â Hawliau Eiddo Deallusol a’r camau y mae'n eu cymryd er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Eiddo Deallusol berthnasol.

3. Rolau a chyfrifoldebau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw'r endid gyfreithiol sy’n berchen ar Eiddo Deallusol y Llyfrgell a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw'r corff sy'n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfiaeth y Llyfrgell â'r gyfraith.

Mae gan holl Benaethiaid yr Is-adrannau gyfrifoldeb dros sicrhau cydymffurfiaeth â'r Polisi o fewn i'w is-adrannau eu hunain.

Mae Rheolwyr Llinell yn gyfrifol am sicrhau bod aelodau staff dan eu rheolaeth wedi derbyn hyfforddiant ddigonol mewn perthynas â Hawliau Eiddo Deallusol.

Mae gan bob aelod o staff ddyletswydd i gadw at y Polisi Hawliau Eiddo Deallusol.

Bydd y Pwyllgor Cydymffurfio Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau diweddaru’r polisi, ei weithredu, a chreu a goruchwylio gweithdrefnau ategol.

Mae’r Polisi yn cael ei fonitro a’i adolygu gan y Pwyllgor Cydymffurfio Gwybodaeth a chymeradwyir y Polisi gan y Tîm Gweithredol.

4. Polisi

4.1  Cyffredinol

4.1.1 Bydd y Llyfrgell yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth a chyfraith ac yn hyrwyddo arfer gorau sy'n ymwneud ag eiddo deallusol ac yn berthnasol i’r Llyfrgell a’i gweithgareddau.

4.1.2 Bydd y Llyfrgell yn barod i ystyried rhagori ar ei dyletswyddau a’r hyn sy’n ofynnol ohoni os yw’n dod i’r casgliad y byddai hynny er budd sefydlu perthynas dda â deiliaid hawliau a defnyddwyr.

4.1.3 Mae'r Llyfrgell yn ceisio hwyluso defnydd o wybodaeth a gynhyrchir ganddi a'r casgliadau dan ei gofal drwy arddangos gwybodaeth hawliau eglur a chywir a thrwy ddefnyddio trwyddedau agored.

4.1.4 Bydd y Llyfrgell yn gweithredu â diwydrwydd dyladwy i sicrhau Hawliau Eiddo Deallusol a thrwyddedau priodol mewn perthynas â’r casgliadau dan ei gofal a’i gweithgareddau yn gyffredinol.

4.2 Datblygu casgliadau’r Llyfrgell

4.2.1 Bydd penderfyniadau sy’n ymwneud â derbynion a wneir dan y Polisi Datblygu Casgliadau’r Llyfrgell yn rhoi ystyriaeth i berthnasedd y Polisi Hawliau Eiddo Deallusol.

4.2.2 Bydd y Llyfrgell bob amser yn ceisio cynnwys darpariaethau ar gyfer Hawliau Eiddo Deallusol mewn cytundebau a dogfennau eraill sy’n berthnasol i dderbyn deunydd i'r casgliadau.

4.3 Gwasanaethau i ddarllenwyr

4.3.1 Bydd copïau o eitemau o'r casgliadau a roir i aelodau'r cyhoedd yn cael eu darparu yn unol â’r eithriadau perthnasol yng nghyfraith hawlfraint.

4.3.2 Ble bydd angen caniatâd gan ddeiliad hawlfraint er mwyn darparu copïau i'r cyhoedd, bydd staff yn arddangos diwydrwydd dyladwy bob amser. Gellid darparu copïau at rhai dibenion a than rai amgylchiadau dan yr eithriadau i gyfraith hawlfraint. Lle nad yw hyn yn berthnasol, bydd y Llyfrgell yn darparu copïau ar yr amod bod y person sy’n gwneud y cais am gopi wedi derbyn tystiolaeth o ganiatâd y deiliad hawliau neu bod Canllawiau Chwilio ac Asesu Hawliau wedi eu dilyn.

4.3.3 Bydd gweithdrefnau'r Llyfrgell wrth drwyddedu delweddau yn fasnachol ac addysgol dan adolygiad rheolaidd ac yn gyson ag arfer gorau o fewn i'r sector diwylliant a threftadaeth.

4.4 Trwyddedau trydydd parti

4.4.1 Pan fydd gwasanaethau neu weithgareddau’r Llyfrgell yn seiliedig ar amodau trwydded neu gytundeb, bydd y Llyfrgell yn sicrhau bod amodau a thelerau’r drwydded neu gytundeb yn cael eu dilyn bob amser.

4.5 Casgliadau digidol

4.5.1 Nid yw’r Llyfrgell yn arddel perchnogaeth hawlfraint ar atgynhyrchiadau digidol. Rhoir mynediad i atgynhyrchiadau dan yr un hawliau ag sy'n berthnasol i'r gwaith yn ei ffurf wreiddiol. 

4.5.2 Bydd y Llyfrgell yn chwilio am gyfleon ac yn cefnogi ymdrechion i ddefnyddio a datblygu'r casgliadau digidol a'r metadata perthnasol fel ffynhonnell wybodaeth ac adnodd addysgol. Bydd yn annog ac yn cefnogi eraill, drwy gydweithio gydag unigolion a chyrff (ee y gymuned academaidd) a thrwy gydweithrediad ehangach gyda defnyddwyr (ee dulliau torfol), i ddefnyddio a chyfoethogi ei chasgliadau digidol.

4.6 Cynhyrchu incwm

4.6.1 Bydd y Llyfrgell yn ceisio datblygu modelau refeniw a fydd yn alinio â mynediad ar-lein am ddim i'w chasgliadau digidol ac adnoddau eraill.

4.7 Hawliau Eiddo Deallusol y Llyfrgell

4.7.1 Pan fydd Hawliau Eiddo Deallusol yn eiddo i'r Llyfrgell, bydd y Llyfrgell bob amser yn anelu i rannu'r gweithiau hynny dan drwydded a fydd yn galluogi mynediad ac ailddefnydd oni bai bod achos busnes na fyddai gwneud hynny er budd gorau’r Llyfrgell neu bod gwaharddiad neu gyfyngiad cyfreithiol i atal y Llyfrgell rhag gwneud hynny.

4.8 Hawlfraint anhysbys ('gweithiau amddifad')

4.8.1 Mewn rhai achosion, bydd deiliad hawlfraint yn anhysbys neu'n anolrheinadwy ar ôl chwiliad rhesymol. Bydd ymdriniaeth y Llyfrgell o weithiau o'r fath wedi ei disgrifio mewn rhagor o fanylder yn y Canllawiau Chwilio ac Asesu Hawliau.

4.9 Gwefannau a rhaglenni trydydd parti

4.9.1 Bydd y Llyfrgell yn ceisio ac yn archwilio cyfleon i arddangos casgliadau digidol a chynnwys arall ar wefannau a rhaglenni trydydd parti.

4.9.2 Bydd y Llyfrgell yn archwilio i gyfleon i arddangos ei chasgliadau a'i Eiddo Deallusol ei hun ar wefannau trydydd parti masnachol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a chynhyrchu incwm ohonynt ar yr amod nad ydynt yn tanseilio buddiannau'r Llyfrgell ac yn arbennig ei gallu i gyflawni ei hamcanion craidd.

4.10 Projectau

4.10.1 Bydd projectau yn rhoi ystyriaeth berthnasedd y Polisi Hawliau Eiddo Deallusol o’u camau rhagarweiniol (e.e. paratoi cais am gyllid) a chynllunio hyd at gau’r project.

4.11 Metadata

4.11.1 Bydd y Llyfrgell yn anelu i wneud y metadata a gynhyrchir ganddi ar gael mor eang â  phosibl fel y gall eraill ei ailddefnyddio. Dylai penderfyniad i beidio â chyhoeddi metadata dan drwydded agored fod yn wedi ei gefnogi gan achos busnes na fyddai gwneud hynny er budd gorau’r Llyfrgell neu bod gwaharddiad neu gyfyngiad cyfreithiol i atal y Llyfrgell rhag gwneud hynny.

4.12 Cronfeydd data

4.12.1 Gallai’r Llyfrgell arddel perchnogaeth o Hawliau Cronfa Ddata pan y bydd wedi buddsoddi’n sylweddol mewn casglu, gwirio neu gyflwyno cynnwys cronfa ddata. Bydd y Llyfrgell yn ceisio rhoi canllawiau eglur ynghylch Hawliau Cronfa Ddata ar ei gwefan, ond anogir y sawl sy'n dymuno defnyddio casgliad o ddata (gan gynnwys delweddau) gysylltu â’r Llyfrgell am gadarnhad ymlaen llaw ac y dylid gwneud hynny pan ystyrir gwneud defnydd masnachol ohono.

4.13 Eiddo Deallusol a gynhyrchir gan staff y Llyfrgell

4.13.1 Bydd yr holl Eiddo Deallusol a grëir gan aelodau staff fel rhan o'u cyflogaeth gan y Llyfrgell, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i waith testunol, ffotograffau, fideo, sleidiau, meddalwedd, côd a data electronig, yn eiddo i'r Llyfrgell. Mewn achosion ble mae'r hyn a olygir oddi wrth 'fel rhan o'u cyflogaeth' yn aneglur, mae'r cyfrifoldeb ar y cyflogai i gysylltu â'r Uned Adnoddau Dynol i drafod unrhyw hawliau y maent yn dymuno eu cadw.

4.14 Eiddo Deallusol a brosesir gan staff

4.14.1 Ni chaniateir i staff greu na dosbarthu, ar ffurf analog na digidol, unrhyw gopïau anawdurdodedig o Eiddo Deallusol a gynhyrchir, a gesglir, a gadwir, neu a reolir gan y Llyfrgell.

4.15 Hawliau Eiddo Deallusol a gynhyrchir gan wirfoddolwyr

4.15.1 Pan y byddo’n briodol, bydd y Llyfrgell yn ceisio sicrhau bod unrhyw Eiddo Deallusol a gynhyrchir gan wirfoddolwyr ar gael dan drwydded agored er mwyn sicrhau ei gynaladwyedd a galluogi eraill i'w ddefnyddio.

4.16 Cytundebau a phartïon allanol sy'n darparu gweithiau, cynhyrchion neu wasanaethau

4.16.1 Wrth negodi cytundebau â phartïon allanol sy'n darparu gweithiau, cynhyrchion neu wasanaethau, bydd y Llyfrgell yn ceisio sicrhau bod perchnogaeth o Hawliau Eiddo Deallusol wedi ei ystyried cyn dod i gytundeb.

4.17 Ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff

4.17.1 Mae'r Polisi hwn ar gael i bob aelod staff ar rwydwaith fewnol y Llyfrgell ac i'r cyhoedd ar wefan y Llyfrgell.

4.17.2 Bydd y Llyfrgell, drwy ddarparu hyfforddiant, adnoddau, cyngor a goruchwyliaeth, yn ceisio sicrhau bod staff sy'n ymdrin â Hawliau Eiddo Deallusol yn meddu’r sgiliau a gwybodaeth sy’n angenrheidiol i gyflawni eu dyletswyddau a chyfrifoldebau yn effeithiol.

4.18 Torri Polisi

4.18.1 Gallai Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac unigolion wynebu camau sifil a throseddol o ganlyniad i dor-hawlfraint a chyfreithiau Hawliau Eiddo Deallusol eraill. Mae'r Llyfrgell yn ystyried torri'r Polisi hwn naill ai'n fwriadol neu drwy esgeulustod fel trosedd ddisgyblu a bydd yn ymdrin ag achosion o'r fath yn unol â gweithdrefnau disgyblu'r Llyfrgell.

4.19 Monitro ac adolygu

4.19.1 Bydd y Polisi yn cael ei monitro yn rheolaidd a'i hadolygu yn flynyddol. Cyflwynir adroddiad o’r adolygiad yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cydymffurfio Gwybodaeth o’r flwyddyn galendr.

4.20 Ymholiadau

4.20.1 Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â hawliau eiddo deallusol i Dîm Ymholiadau’r Llyfrgell, gofyn@llgc.org.uk neu +44 (0)1970 632933.

Adolygwyd: Ebrill 2023