Mewn rhai achosion, gallai fod yn anodd iawn adnabod neu olrhain deiliaid hawliau ar gyfer gweithiau o’r casgliadau.
Fel rhan o’n hymgais i adnabod ac olrhain y deiliaid hawliau cyfredol, mae rhestr o unigolion, gweithiau a chyhoeddwyr wedi ei chyhoeddi a’i diweddaru ar y dudalen hon.
Os ydych yn ddeiliad hawliau ar gyfer unrhyw un o’r isod, neu os oes gennych wybodaeth a allai ein cynorthwyo yn ein chwiliad, buasem yn ddiolchgar petaech yn ysgrifennu at hawliau@llgc.org.uk os gwelwch yn dda. Buasem yn falch o glywed gennych.
Rhestr o bersonau, gweithiau a chyhoeddwyr
Personau
- E. O. Davies, Ysgrifennydd Pwyllgor Hamdden y Milwyr, Llandudno
- Ithel Davies (1894-1989) bargyfreithiwr ac ymgyrchydd gwleidyddol Cymreig
- W. Watkin Davies (1895-1973), bargyfreithiwr, darlithydd ac awdur
- J. Hugh Edwards (1869-1945), gwleidydd Rhyddfrydol
- Llewelyn Wyn Griffith (1890-1977)
- Nyrs Ethel Dora Heins o Aberhonddu
- E. Morgan Humphreys (1882-1955)
- Tommy James, Penrhynbach, Pennal a wasanaethodd gyda 16eg Bataliwn y Catrawd Brenhinol Cymreig
- H. Iorwerth Hughes, Lerpwl
- Syr Ellis Griffith Ellis (1860-1926), bargyfreithiwr ac Aelod Seneddol
- E .T. John (1857-1931)
- Capten David Jones (-1916)o 10fed Bataliwn (1af Rhondda) y Catrawd Cymreig
- Francis Wynn Jones (1898-1970), ystadegydd a llenor
- Idwal Jones (1895-1937), athro ysgol, digrifwr, bardd a dramodydd
- T. Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd
- Dr Thomas Jones (1870-1955), gwas sifyl a Dirprwy Ysgrifennydd i'r Cabinet 1916-1930
- Tom Hughes Jones
- Syr J. Herbert Lewis (1858-1933), gwleidydd Rhyddfrydol
- Ivan Monckton, Prestigne, Powys
- Y Parchg J. Dyfnallt Owen (1873-1956), gweinidog, bardd, newyddiadurwr ac Archdderwydd
- Gerald Rhys Phillips (????-1934), mab D. Rhys Phillips ac athro yn Ysgol Ramadeg Bideford
- Brigadier-General H. E. ap Rhys Pryce
- Morgan James Rees (1875-1916), swyddog yng Nghorfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol (Royal Army Medical Corps)
- John Bryn Roberts (1843-1931) cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig
- Professor Roderick Urwick Sayce (1890-1970), golygydd Montgomeryshire Collections y Powysland Club ac anthropolegydd blaenllaw
- Albert James Sylvester (1889-1986)
- D. A. Thomas, Viscount Rhondda (1856-1918)
- David Thomas (1880-1967)
- J. Thomas, Llangwyllog, Ynys Mon
- J. B. Thomas, Blaendulais
- Dr William Thomas (????-????)
- Y Parchg D. Cynddelw Williams (????-????)
- Eliseus Williams h.y. ‘Eifion Wyn’ (1867-1926), bardd
- Evan Williams, Arfonwr (????-????)
- John James Williams (1869-1954), gweinidog a bardd
- W. S. Gwynn Williams (1896-1978), cerddor a chyfansoddwr
- W. Llewelyn Williams (1867-1922), newyddiadurwr, cyfreithiwr a gwleidydd