Mae'r Llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i'r wasg a'r cyfryngau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu cwmnïau i ffilmio yn y Llyfrgell ond mae natur ein casgliadau yn golygu fod rhaid i ni roi sylw i ystyriaethau ynglŷn â chadwraeth, hawlfraint a diogelwch ac ni ellir sicrhau mynediad i bopeth.
Sut gall y Llyfrgell fod o ddefnydd i chi?
Mae’r wybodaeth isod wedi ei diweddaru i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yn y Llyfrgell o ran mynediad yn ystod cyfnod Covid 19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd y sefyllfa yn newid. Mae gwaith adnewyddu mawr hefyd yn digwydd i adeilad y Llyfrgell ar hyn o bryd. Ceir gwybodaeth bellach am y gwaith hwnnw ar y dudalen Gwaith Adeiladu.
Mae’r trefniadau sydd mewn lle i ddelio gydag argyfwng Covid 19 yn cynnwys y canlynol:
Gall aelod o'ch staff ymaelodi â'r Llyfrgell am ddim, a gwneud ymchwil ar ei liwt ei hunan yma.
I ffilmio deunydd o'n casgliadau llyfrau, ffotograffau, mapiau, cardiau post, llawysgrifau, posteri neu ddarluniau cysylltwch â'r Uned Farchnata ar post(at)llgc.org.uk neu 01970 632 584.
Gweler isod am restr brisiau.
Mae adeilad ysblennydd y Llyfrgell gyda'i olygfa fendigedig o dref Aberystwyth a Bae Ceredigion yn lleoliad ffilmio gwych. Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal cyfweliadau mewn awyrgylch urddasol ac ysgolheigaidd.
Mae Oriel Gregynog a gofodau arddangos eraill y Llyfrgell i gyd ar gau ar hyn o bryd. Ceir gwybodaeth am ein rhaglen gyfredol ar y dudalen Arddangosfeydd.
Codir £300 y dydd am ffilmio neu £60 yr awr. Mae'r pris hwn yn cynnwys y gwaith ymchwil o nôl deunydd sydd i gael ei ffilmio a phresenoldeb aelod o staff y Llyfrgell sydd yn gorfod bod wrth law am resymau diogelwch a chadwraethol. Rhaid rhoi o leiaf 4 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad ffilmio lleoliad, ond disgwylir 10 niwrnod gwaith o rybudd cyn dyddiad ffilmio eitemau o'r casgliadau.
Codir £150 y dydd am ddefnyddio'r Llyfrgell fel lleoliad ffilmio heb ddefnyddio dim o gasgliadau'r Llyfrgell. Rhaid rhoi 4 diwrnod gwaith o rybudd cyn y dyddiad ffilmio.
Cynigir pecyn i gwmni sy'n defnyddio mwy na 10 delwedd ar ôl golygu.