Cofeb Tryweryn yw Campwaith Mewn Ysgolion 2019

12.09.2019

 

Heddiw, 12 Medi 2019, cafodd disgyblion Ysgolion Ffederasiwn Cysgod y Foel, Gwynedd gyfle i fod yn rhan o ddigwyddiad Campweithiau Mewn Ysgolion - un o brosiectau estyn allan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Fel rhan o’r prosiect, sy’n bartneriaeth rhwng y Llyfrgell ac Art UK, cludwyd cerflun bychan (maquette) Cofeb Tryweryn gan John Meirion Morris i Ysgol Bro Tryweryn  ac Ysgol Ffridd y Llyn er mwyn ei arddangos i’r holl ddisgyblion.

Crëwyd y cerflun yn wreiddiol fel ‘braslun’ ar gyfer cofeb barhaol sylweddol i’w chodi ar lan Llyn Celyn i goffau boddi pentref Capel Celyn yn ystod y 1960au. Er nad oes cerflun wedi’i godi ar y safle, mae’n parhau i ysgogi trafodaethau lleol a chenedlaethol.

Yn ystod y dydd, daeth disgyblion hŷn y ddwy ysgol ynghyd ar gyfer gweithdy celf arbennig, o dan ofal yr artist profiadol Iola Edwards, sef merch John Meirion Morris.

Mae’r gweithgaredd hon yn rhan o strategaeth y Llyfrgell i estyn allan i gymunedau ar draws Cymru, a chefnogi cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, addysgol a chelfyddydol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n gyfraniad creiddiol tuag at ymrwymiad y Llyfrgell i gefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru Cyfuno: Creu Cyfleoedd trwy Ddiwylliant: 2017-2019, a chafwyd cefnogaeth Rhwydwaith Cyfuno Gwynedd i ddewis ysgolion ar gyfer y prosiect eleni.


Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae'r cerflun bychan hwn gan John Meirion Morris, cerflun Cofeb Tryweryn, yn un o'r miloedd o drysorau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n medru cynnig mynediad i blant a phobl ifanc at hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru. Dyma ddarn sydd ag iddo arwyddocâd wirioneddol bwysig yn sgil boddi pentref Capel Celyn ac effaith hynny ar ein hanes ni a'n datblygiad fel Cymry. Mae'r gweithdy  yn Ysgol Bro Tryweryn yn enghraifft o sut y gellir defnyddio casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i symbylu gwaith creadigol, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu a meithrin sgiliau newydd.”


Dywedodd Rhian Llwyd Dafydd, Pennaeth Ysgolion Ffederasiwn Cysgod y Foel:
“Rydan ni'n hynod o ddiolchgar i gael y cyfle arbennig hwn i weld campwaith John Meirion Morris yn yr ysgol. Mae'n gofnod o hanes sydd yn agos iawn at ein calonnau i gyd. Yn ychwanegol at hyn, bydd yn fraint cael gweithio gydag Iola Edwards, merch John Meirion Morris sydd yn gwneud y digwyddid yn fwy arbennig. Diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am drefnu'r digwyddiad ac am nawdd a chefnogaeth Art UK. Mae'n fraint o'r mwyaf i ddisgyblion hynaf Cysgod y Foel gael bod yn rhan o'r gweithgaredd arbennig hwn.”


Meddai Iola Edwards, Artist ac Arweinydd Gweithdy Campwaith Mewn Ysgolion 2019:
“Fel teulu, rydym yn teimlo anrhydedd mawr fod gwaith fy nhad wedi ei ddewis i fod yn rhan o`r prosiect cynhyrfus yma.

“Rwyf innau yn edrych ymlaen at weld ac ennyn ymateb y plant i Gofeb Tryweryn, mewn gweithdy celf, o fewn ysgol sydd mor agos i hanes boddi Capel Celyn.”

 

Cafodd y gymuned leol gyfle hefyd i weld y campwaith a arddangoswyd yn Ysgol Bro Tryweryn ar ôl oriau dysgu tan ddiwedd y prynhawn.


Yn dilyn diwrnod Campwaith Mewn Ysgolion, bydd disgyblion Ysgolion Ffederasiwn Cysgod y Foel yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth er mwyn mynychu gweithdai pellach am foddi Capel Celyn, wedi eu trefnu gan Adran Addysg LlGC.


DIWEDD


Gwybodaeth Bellach
Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk    neu
01970 632 534


Nodiadau i Olygyddion

Partneriaid Allweddol:

Am Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw llyfrgell fwyaf Cymru ac ynddi cedwir cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae 4,000 o gyhoeddiadau newydd yn cael eu casglu bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:
•    6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
•    950,000 o ffotograffau
•    60,000 o weithiau celf
•    1.5 miliwn map
•    7 miliwn troedfedd o ffilm
•    40,000 o lawysgrifau
•    250,000 awr o fideo
•    1,900 metr ciwbig o archifau

Mae gwasanaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn rhad ac am ddim i ddinasyddion Cymru ac nid ydyw’n gwahaniaethu ar sail gallu neu anallu i dalu. Mae croeso i blant a phobl ifanc o bob cefndir i ddefnyddio’r Llyfrgell a defnyddio’i gwasanaethau, boed hynny drwy ddod i Aberystwyth neu ar-lein. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnal gweithdai mewn ardaloedd ar draws Cymru sy’n ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau, ac sy'n cyflwyno'i chasgliadau i bobl ifanc, rhieni ac athrawon. Trefnir y gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr addysg, a sefydliadau ac ysgolion unigol gyda'r nod o sicrhau bod cymaint â phosib o blant a phobl ifanc Cymru yn medru elwa o weithio gyda chasgliadau cyfoethog y Llyfrgell.


Am Gwasanaeth Addysg LlGC
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:
•    Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel sy’n hyrwyddo LlGC a’r casgliad cenedlaethol drwy’r cwricwlwm ysgol.
•    Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
•    Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’n casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
•    Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
•    Cynorthwyo LlGC i gyflawni’r pum blaenoriaeth strategol yn Cof y Genedl: Llunio’r Dyfodol cynllun strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2017 - 2021.
•    Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru, a chyhoeddi’r rhain ar Hwb.
•    Rheoli prosiectau amrywiol sy’n cynnig mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
•    Cyfrannu at gefnogi agenda cynhwysiad cymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn ardaloedd difreintiedig.
Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.


Am Campweithiau Mewn Ysgolion
Yn 2013 lansiodd Art UK prosiect Campweithiau mewn Ysgolion gyda'r nod o ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf hynod ac eiconig y tu mewn i'w hystafell ddosbarth, gan chwalu rhai rhwystrau traddodiadol sy’n codi wrth ddod i gysylltiad â chelf. O ganlyniad, benthycwyd ystod o gampweithiau i ysgolion gan artistiaid enwog, er enghraifft L. S. Lowry, Monet a Turner.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun, cyhoeddodd Art UK y byddai Campweithiau mewn Ysgolion yn dychwelyd yn 2018, fel rhan o'r prosiect cerfluniau - y prosiect dogfenni cerfluniau mwyaf erioed a gynhaliwyd yn y DU hyd yma. Unwaith eto, bydd gweithiau celf yn teithio allan o stiwdios artistiaid, amgueddfeydd ac orielau’r genedl, ac i mewn i ysgolion. Mae'r fenter hefyd yn hwyluso’r broses o adeiladu perthynas rhwng ysgolion a chasgliadau sy’n arwyddocaol i’w hardal.

Gwneir rhaglen Campweithiau mewn Ysgolion yn bosibl diolch i grantiau hael gan Sefydliad Stavros Niarchos a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.


Am Art UK
Mae Art UK yn elusen addysg ddiwylliannol sy’n anelu at wneud gweithiau celf mewn casgliadau cyhoeddus yn y DU yn hygyrch i bawb, ar gyfer mwynhad, dysg ac ymchwil.
Maent yn galluogi cynulleidfaoedd byd-eang i ddysgu am gasgliadau celf genedlaethol y DU wrth ddigideiddio gweithiau celf, adrodd straeon y tu ôl i’r gweithiau, a chreu cyfleoedd cyffrous ar gyfer rhyngweithio cyhoeddus yn y maes, ar-lein ac mewn modd wyneb yn wyneb.

Mae prosiect cerfluniau Art UK yn fenter uchelgeisiol i ddigideiddio casgliad cerfluniau cenedlaethol y DU. Bydd dros 100,000 o gerfluniau – sydd wedi'u lleoli mewn orielau, amgueddfeydd ac adeiladau cyhoeddus ac yn yr awyr agored mewn parciau, strydoedd a sgwariau - yn cael eu harddangos ar wefan Art UK. Wedi i’r prosiect gyrraedd ei nod, y DU fydd y wlad gyntaf yn y byd i greu arddangosfa ffotograffig ar-lein rhad ac am ddim o'i cherfluniau cyhoeddus.

www.artuk.org


Am Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn medru buddsoddi arian i gynorthwyo pobl ledled y DU i archwilio, mwynhau a gwarchod eu treftadaeth - o'r archeoleg o dan ein traed i'r parciau a'r adeiladau hanesyddol rydym yn eu caru, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr, i fywyd gwyllt prin.

www.hlf.org.uk


Am Sefydliad Stavros Niarchos
Mae Sefydliad Stavros Niarchos yn un o brif gyrff dyngarol preifat y byd, sy'n rhoi grantiau ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg, iechyd, chwaraeon, a lles cymdeithasol. Ers 1996 mae'r Sefydliad wedi ymrwymo i drosglwyddo mwy na $ 2.5 biliwn, ar ffurf dros 4,000 o grantiau, i sefydliadau dielw mewn 124 o genhedloedd ledled y byd.

www.snf.org


Am R K Harrison
Mae R K Harrison yn dylunio cynlluniau yswiriant ar gyfer casglwyr preifat, amgueddfeydd, perchnogion orielau a gwerthwyr celf. Maent yn falch o ddarparu yswiriant ar gyfer y prosiect cerfluniau, yn enwedig y fenter Campweithiau mewn Ysgolion.

www.rkharrison.com


Am Hiscox
Mae Hiscox yn yswiriwr arbenigol byd-eang, sydd â'i bencadlys yn Bermuda ac wedi'i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain (LSE: HSX). Maent yn falch o ddarparu yswiriant ar gyfer y prosiect cerfluniau, yn enwedig y fenter Campweithiau mewn Ysgolion.

www.hiscoxgroup.com


Ysgolion Ffederasiwn Cysgod y Foel

Ysgol Bro Tryweryn:
Frongoch
Y Bala
Gwynedd
LL23 7NT

Ysgol gynradd sy’n sefyll tua milltir o Lyn Celyn. Bydd y cerflun yn cael ei ddangos i holl ddisgyblion yr ysgol yn ystod gwasanaeth y bore, a bydd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn cymryd rhan yn y gweithdy celf i ddilyn.

Ysgol Ffridd y Llyn:
Cefnddwysarn
Y Bala
Gwynedd
LL23 7HE

Bydd y gofeb yn cael ei harddangos o flaen holl ddisgyblion yr ysgol yn ystod gwasanaeth y bore, a bydd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn teithio i Frongoch i gymryd rhan yn y gweithdy celf yn Ysgol Bro Tryweryn.


Am John Meirion Morris
Ganed John Meirion Morris yn Llanuwchllyn, yn 1936, ac fe’i hystyrir yn un o gerflunwyr amlycaf Cymru. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Celf Lerpwl ac yn dilyn cyfnod fel athro yn Llanidloes ac Ysgol Gelf Leamington Spa teithiodd i Affrica i ddarlithio ym Mhrifysgol Kamasi yng Nghana. Dylanwadodd diwylliant ysbrydol y wlad honno’n drwm arno, gan ei atgoffa o’r gwerthoedd a’r traddodiadau a geir yng Nghymru. Wedi dwy flynedd yno, dychwelodd i’w famwlad a bu’n darlithio ar gerflunio ac addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth am dros ddegawd, cyn gadael i ganolbwyntio ar ei gelf. Dychwelodd am gyfnod i faes addysg i fod yn bennaeth ar Adran Gelf Y Coleg Normal ym Mangor, gan ymddeol yn 1990.


Am Iola Edwards
Ganwyd Iola Edwards yn Ghana ym 1967 pan oedd ei thad (y cerflunydd o Gymru, John Meirion Morris) yn gweithio ym Mhrifysgol Kumasi. Cafodd ei magu yn Aberystwyth a Llanuwchllyn, bro mebyd ei chyndeidiau. Astudiodd Celf fel rhan o’i hyfforddiant dysgu  yng Ngholeg y Normal, Bangor, gan ddefnyddio ei sgiliau i ddatblygu creadigrwydd plant drwy’r celfyddydau mewn ysgolion.


Os ydych am dderbyn delweddau o’r digwyddiad Campweithiau Mewn Ysgolion cysylltwch â post@llgc.org.uk.