Y Cenhedloedd Unedig yn cydnabod Cronicl y Milwr o Galais

09.06.2018

Mae un o gampweithiau anghofiedig Cymru yn un o chwe thrysor Prydeinig sydd wedi eu hychwanegu at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan nawdd UNESCO.

Lluniwyd Cronicl Cymraeg Elis Gruffudd rhwng 1550 a 1552 gan filwr a gwas sifil a wasanaethai yn y garsiwn Seisnig yn Calais. Cronicla hanes y byd o’r Creu hyd at ddyddiau’r awdur, gan gyfuno ffeithiau hanesyddol, corff unigryw o chwedlau traddodiadol o Gymru, a thystiolaeth llygad dyst o gyfnod y Tuduriaid. Dyma’r cronicl Cymraeg cyntaf, ac olaf o’i fath.

Ganed Elis Gruffudd tua 1490 ym mhlwyf Llanasa, sir y Fflint. Ymunodd â’r fyddin Seisnig, gan ymladd fel milwr cyffredin mewn ymgyrchoedd yn yr Isalmaen, Gwlad Belg a Sbaen. Erbyn 1518, roedd yn byw yn Llundain, a symudodd yn barhaol i Calais yn 1530, trefedigaeth Seisnig yr honnid ar y pryd ei bod yn eiddo i Goron Lloegr. Arhosodd yno’n aelod o’r garsiwn Seisnig weddill ei ddyddiau, ac yno y lluniodd ei gronicl, er budd ei gyd-wladwyr uniaith yn ôl yng Nghymru (‘rhag i’r mater gael ei anghofio yn Llanasa’). Mae’n bosibl iddo gael ei ladd pan gipiwyd Calais gan y Ffrancod yn 1558.

Tardda llawer o gynnwys rhan olaf ei Gronicl o’r ffynonellau ysgrifenedig a llafar a oedd ar gael i’r awdur pan oedd yn byw yn Llundain a Calais, gan gynnwys:
•    ei brofiad ei hunan o ymgyrchoedd milwrol Seisnig dramor yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg
•    adroddiadau llygad dyst unigryw o ddigwyddiadau megis y cyfarfyddiad enwog cydrhwng Harri VIII a Ffransis I o Ffrainc ar Faes y Brethyn Euraid ym Mehefin 1520
•    clecs gweision a morynion y Llys Brenhinol yn Llundain yn ymwneud â pherthynas odinebus Harri VIII ac Anne Boleyn
•    gwybodaeth ‘o ffynonellau agos’ am gwymp Thomas Cromwell, meistr Wolf Hall.

Dyma adroddiad sylwebydd Cymreig cyffredin o fywyd cyffrous a chyfnewidiol ei oes wrth iddo ysgrifennu’n alltud yn Llundain, ac ar ffiniau Lloegr yng Nghalais. Pabydd ydoedd pan gyrhaeddodd Galais yn 1530, ond daeth yn Brotestant pybyr yn y man, a hynny ar y blaen i fwyafrif ei gydwladwyr. Yn wir, gall mai ef oedd y Cymro cyntaf i droi’n Brotestant.

Dywed Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y pedair cyfrol hyn. Hwn yw’r cronicl naratif mwyaf uchelgeisiol erioed i’w greu yn yr iaith Gymraeg, a dyma’r cyfanwaith rhyddiaith hwyaf yn yr iaith. Cynrychiola hefyd yr enghraifft wybyddus gynharaf o awdur Cymreig, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, y hwnt i’r Deyrnas Gyfunol (er nad oedd, yn llythrennol, yn ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau’r Deyrnas Gyfunol ar y pryd!).’

Dywed ymhellach: ‘Er iddo gael ei ddigido’n llawn, a’i gyhoeddi ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, braidd yn anghofiedig fu’r campwaith hwn yn ein mysg ni’r Cymry. Ni chopïwyd y gwaith cyfan erioed, na’i gyfieithu, na’i gyhoeddi’n gyfrol.’

Ychwanega Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:


‘Mae ychwanegu Cronicl Elis Gruffudd at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol eleni’n amserol iawn. Yn gyntaf, rydym wrth ein boddau i’r gwaith gael ei gynnwys ym mhrosiect Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru, Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 Gwrthrych, a arianwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Yn ail, mae’n bleser cyhoeddi y bydd y Cronicl yn cael ei arddangos i’r cyhoedd, yn y Llyfrgell, mewn arddangosfa arbennig o drysorau Plasty Mostyn, sir y Fflint, rhwng 30 Mehefin a 8 Rhagfyr eleni. Trwy gyfrwng arddangosfa, darlithoedd cyhoeddus, a chynhadledd academaidd, rydym yn benderfynol y bydd Elis Gruffudd a’i Gronicl yn derbyn sylw dyladwy fel trysorau cenedlaethol yn 2018!’

Gwybodaeth Bellach:
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i Olygyddion
1.    Gwybodaeth am Raglen Cof y Byd UNESCO:

•    Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yw adain ddeallusol y Cenhedloedd Unedig, ac fe’i sefydlwyd yn 1945.
•    Bwriad Rhaglen Cof y Byd UNESCO yw hwyluso diogelu treftadaeth ddogfennol y byd, i gynorthwyo mynediad i bawb, ac i gynyddu ymwybyddiaeth o fodolaeth ac arwyddocâd y dreftadaeth ddogfennol hon yn rhyngwladol trwy gyfrwng Cofrestr ryngwladol, a Chofrestri ym mhob gwlad unigol. Mae’r statws hwn, a gydnabyddir trwy’r byd, yn dathlu cyfran o gyfoeth archifol y Deyrnas Gyfunol.
•    Mae Cofrestr ryngwladol Cof y Byd yn cydnabod treftadaeth ddogfennol o bwys byd-eang, ac yn cynnwys dogfennau o’r Deyrnas Gyfunol megis Magna Carta. Mae Cofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol yn anrhydeddu treftadaeth ddogfennol o bwysigrwydd cenedlaethol a rhanbarthol, ac yn cynnwys dogfennau megis Gwarant Dienyddio'r Brenin Siarl y Cyntaf a Chasgliad Llawysgrifau Peniarth.
•    Am ragor o wybodaeth am raglen Cof y Byd, gweler www.unesco.org/new/en/communication-and-information/flagship-project-activities/memory-of-the-world/homepage/ (gwefan allanol ar gael yn Saesneg yn unig).

2.    Cymru ac UNESCO:
Yn ogystal â Chasgliadau Cof y Byd, cydnabydda UNESCO’n ffurfiol fod yng Nghymru gyfoeth o amgylcheddau sydd mewn dosbarth aruchel byd-eang. Yn eu mysg y mae:
•    tri Safle Treftadaeth y Byd (Pont Ddŵr Pontcysyllte a’r Gamlas, Trefor, Wrecsam; Tirwedd Diwydiannol Blaenafon, Torfaen; a Chastelli a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn)
•    un Warchodfa Biosffer (Biosffer Dyfi)
•    dau Geoparc Byd-eang (Geoparc y Fforest Fawr ym Mannau Brycheiniog a Geoparc GeoMôn yn Amlwch, Môn)
Y pum eitem arall o Gymru ar gofrestr Cof y Byd, y Deyrnas Gyfunol yw:
•    Cyfweliadau Sinema Hepworth, Archif Genedlaethol Sain a Sgrin Cymru, Aberystwyth
•    Casgliad Gweithiau Dur Abaty Castell-nedd, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Abertawe
•    Casgliad Llawysgrifau Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
•    Hanes Bywyd David Lloyd George, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Aberystwyth
•    Arolwg o Faenorau Crughywel a Thretŵr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

3. Ychwanegiadau eraill eleni i Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol:

•    Archif Clwyfedigion Comisiwn Beddrodau Rhyfel y Gymanwlad
•    Casgliad Llawysgrifau Cotton y Llyfrgell Brydeinig
•    Llyfr Corawl Coleg Eton
•    Adroddiadau Pencadlys ac Adroddiadau Maes, ynghyd â deunydd Ffotograffig, perthynol i Arolwg Prydeinig Pegwn y De a’i Ragflaenwyr
•    Llawysgrifau Gaeleg Cynnar Llyfrgell y Cyfreithwyr Adfocad, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.