01.03.2018
Ymunwch â ni yng nghaffi Pen Dinas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth am de prynhawn Masnach Deg ar ddydd Gwener yr 2il o Fawrth rhwng 3pm a 4pm.
“Mae prynu nwyddau Masnach Deg yn parhau yn rôl bwysig i unrhyw gaffi neu gyflogwr” dywed Heather Davies, rheolwraig Caffi Pen Dinas, sydd wedi ei leoli yn y Llyfrgell Genedlaethol.
“Rydym yn prynu coffi, te a siwgr Masnach Deg yn rheolaidd, felly mae’n addas iawn i ni gynnal te prynhawn i ddathlu pythefnos Masnach Deg. Dewch draw rhwng 3pm a 4pm ar yr 2il o Fawrth. “
Mae Caffi Pendinas a’r Llyfrgell Genedlaethol yn credu yn gryf fod gan bob un ohonom gyfraniad i’w wneud i sicrhau fod ffermwyr yn cael pris teg am eu nwyddau.
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
#FairtradeFortnight