12.06.2017
Bydd prosiect Cynefin yn dathlu cwblhau prosiect lleol i astudio hanes Dwygyfylchi Cyn Dyfodiad y Rheilffordd ar y 14 o Fehefin 2017 yn Amgueddfa Newydd Penmaenmawr am 2:30
Bydd Llyfryn a thaflen taith gerdded yn cael eu lansio, yn cynnwys gwaith ymchwil y gymdeithas hanes lleol i'r hyn ddigwyddodd yn yr ardal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyfnod pan ddatblygodd tref Penmaenmawr yn sgil datblygiadau rheilffordd a hefyd ffyrdd lleol.
Bydd cyfle yma hefyd i weld dangosiad o wefan newydd sy'n cael ei ddatblygu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fydd yn dangos holl fapiau a dogfennau'r degwm yng Nghymru. Bydd y wefan hon yn defnyddio'r wybodaeth gafodd ei drawsgrifio a'i leoli'n ddaearyddol gan wirfoddolwyr prosiect Cynefin, prosiect a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Bydd taith gerdded yn cael ei gynnal ar y diwrnod canlynol.
Meddai Einion Gruffudd, rheolwr prosiect Cynefin:
"Bydd yn bleser lansio ffrwyth gwaith Cymdeithas Hanes ac Amgueddfa Penmaenmawr.
Dyma hanes yr ardal wedi ei ysgrifennu gan bobl yr ardal, adnodd gwerthfawr iawn. Mae'n rhan o brosiect Cynefin sydd hefyd wedi ail lunio map degwm o Gymru, gwaith a wnaed gan gannoedd o wirfoddolwyr ar draws Cymru, sydd wedi treulio miloedd o oriau yn trawsgrifio dogfennau'r degwm. Dwi'n edrych ymlaen i weld ymateb pobl Penmaenmawr i'r wefan newydd rydyn ni wedi bod yn ei ddatblygu yn y Llyfrgell Genedlaethol."
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Mwy am brosiect Cynefin