Pasiant cerddorol ar ei ffordd i Aberystwyth

06.03.2017

Mae gŵyl cerddoriaeth glasurol fwyaf mawreddog Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen ar gyfer 2017 ac mae’r cyfan yn cychwyn yn Aberystwyth ar ddydd Gwener, 16 Mehefin. Gŵyl Gregynog eleni fydd y fwyaf uchelgeisiol eto yn cymryd Pasiantri fel ei phrif thema, a bydd yn cyflwyno perfformiadau cerddorol, cynyrchiadau dawns, arddangosfeydd hanesyddol a sgyrsiau gafaelgar mewn nifer o leoliadau gwahanol ledled Cymru rhwng 16 Mehefin a 2 Gorffennaf.

Bydd yr Ŵyl yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda sgwrs am gynnwys eleni gan Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl. Yn hwyrach yn y dydd bydd perfformiadau gan y telynor Gwyddelig Paul Dooley, gan ddod â manuscript Robert ap Huw o gerddoriaeth delyn canoloesol Cymreig yn fyw, a’r chwaraewr liwt Ffrengig Thomas Dunford yn chwarae darnau Dowland a Bach. Cynhelir arddangosfa hefyd dros nifer o ddyddiau yn Ystafell Summers y Llyfrgell ac mae croeso cynnes i bawb.

I Rhian Davies, curadur yr ŵyl, mae dychwelyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn dipyn o anrhydedd:

"Mae’n wych gallu dychwelyd i Aberystwyth a chynnal diwrnod cyntaf ein rhaglen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r curadu eleni yn benllanw ymchwil dros gyfnod o 20 mlynedd, llawer ohono o fewn casgliadau'r Llyfrgell, ac mae bob amser yn gyffrous i glywed y gerddoriaeth rydych wedi ei astudio yn yr Ystafell Ddarllen yn cael bywyd newydd mewn cyngerdd, yn enwedig pan mae o fewn yr un adeilad. Mae gan Siambr y Cyngor acwsteg ardderchog a bydd yn wefreiddiol i weld a chlywed y cerddorion yn perfformio mewn lleoliad mor agos atoch.

"Bydd y  ffocws yn Aberystwyth ar ddathlu arloesedd Arnold Dolmetsch, yn enwedig ei waith gyda cherddoriaeth ac offerynnau Cymru'r canol oesoedd."

Gregynog yw gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru sy’n dal i gael ei chynnal, ond ei rhagflaenydd fwyaf arwyddocaol oedd Gŵyl Gerddorol Castell Harlech. Gan fanteisio ar 20 mlynedd o waith ymchwil, ysbrydolir y rhaglen ar gyfer tymor Pasiantri Gŵyl Gregynog gan yr hafau hyfryd hynny, ganrif yn ôl, pan ymgasglodd cymuned greadigol ryfeddol yn Harlech, yn cynnwys artistiaid enwog, ffotograffwyr, awduron a dawnswyr yn ogystal â cherddorion, ac fe fyddai miloedd o bobl yn heidio i fod yn rhan o berfformiadau cofiadwy o fewn muriau’r Castell.

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru,

“Rydym yn falch o gael croesawu Gŵyl Gregynog yn ôl ac yn edrych ymlaen at y perfformiadau a’r sgyrsiau cerddorol sydd i'w cynnal yma. Mae'n fraint anhygoel i weld gwaith o'r fath yn gael ei chwarae gan gerddorion o safon byd yn Aberystwyth a byddwn yn annog pawb i ddod draw - mae'n gyfle rhy dda i'w golli."

Ymhlith y llu o uchafbwyntiau eraill yn nhymor 2017 fydd y pianydd Llŷr Williams a’r sacsoffonydd Amy Dickson yng Nghastell Y Waun, darn dawns a gomisiynwyd yn arbennig gan Light, Ladd ac Emberton a berfformir yn y cyfnos ar Draeth Harlech, a sgyrsiau goleuedig gan ddeallusion fel Peter Lord a Hazel Walford Davies.

Mae’r Ŵyl hefyd yn cynnwys rhaglen ategol lawn o sgyrsiau, ffilmiau, teithiau, arddangosfeydd a digwyddiadau allestyn cymunedol er mwyn cyflwyno cyd-destun ac annog trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd i chwarae rhan lawn yn y gweithgarwch.

Am wybodaeth bellach ac am docynnau ewch i www.gregynogfestival.org neu ffoniwch 01686 207100.      

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Deian Creunant – deian.creunant@four.cymru / 01970 636419
Kate Patten – kate.patten@four.cymru / 01970 636401

Nodiadau i Olygyddion

Mae Gŵyl Gregynog yn brosiect arianwyd gan arian loteri ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, yn Brosiect Arweiniol Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru (Croeso Cymru), ac mae’r unig aelod o Gymru ar REMA,  Rhwydwaith Cerddoriaeth Gynnar Ewrop sydd â’i bencadlys yn Versailles.

Gŵyl Gregynog, a gychwynnwyd gan y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies yn Neuadd Gregynog, Tregynon, ger Y Drenewydd yn 1933, yw gŵyl cerddoriaeth glasurol hynaf Cymru.

A hwythau’n wyresau’r diwydiannwr, yr entrepreneur a’r gwleidydd, David Davies, oedd yn hanu o Landinam, Powys, daethant yn ddyngarwyr a deithiai ar hyd a lled Ewrop oedd yn ymddiddori’n angerddol mewn celf a cherddoriaeth, gan gymynroddi mwy na 260 o weithiau o’u casgliad i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, lle y mae llawer ohonynt i’w gweld heddiw.

Mae Gŵyl Gregynog yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd i Gymru ac mae hefyd yn cael effaith gymdeithasol ac economaidd ar y gymuned leol trwy ei buddsoddiad mewn cyngherddau, gweithdai, sgyrsiau a phrosiectau allestyn.