D.Litt. i Daniel Huws

08.11.2017

Mewn cynulliad arbennig o Brifysgol Cymru a gynhaliwyd yn y Deml Heddwch, Caerdydd, ddydd Mercher, 8 Tachwedd, anrhydeddwyd Mr Daniel Huws o Benrhyn-coch, Aberystwyth, - cyn Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru - gyda gradd D.Litt., er anrhydedd.

Mae’r radd yn cydnabod ei ragoriaeth fel prif awdurdod y genedl ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig, ac fel awdur y tair cyfrol arfaethedig, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, y bwriedir eu cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, Canolfan Uchafradd Cymreig a Cheltaidd y Brifysgol, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2019-20.

Ganed Mr Huws yn Llundain yn 1932, ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol y Sir Llangefni ac Ysgol Bryanston. Wedi graddio mewn Archaeoleg ac Anthropoleg ym Mhrifysgol Caergrawnt - lle bu’n gyfaill a chyfoeswr i’r bardd Ted Hughes - aeth Daniel Huws ymlaen i ennill cymhwyster archifol ym Mhrifysgol Llundain, cyn cael ei benodi i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1961. Fe’i dyrchafwyd yn Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau y Llyfrgell yn 1981, ac ymddeolodd yn 1992.

Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd M.A. er anrhydedd i Mr Huws yng Ngorffennaf 2002, a hynny’n bennaf ar sail ei gyfrol bwysig Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd & Aberystwyth, 2000), cyfrol a gydnabyddir yn gyfeirlyfr hanfodol yn y maes.

Ers ei ymddeoliad, cynhyrchodd Mr Huws nifer helaeth o gyhoeddiadau ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig. Yn goron ar lafur oes, bu’n gweithio’n gyson ers 1992 ar A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes up to 1800, catalog cynhwysfawr a manwl o bob llawysgrif Gymraeg, ac o darddiad Cymreig, o’r cyfnod cyn-1800, ynghyd ag astudiaeth o lawysgrifen y Cymry tros gyfnod o saith canrif. Pan gyhoeddir y tair cyfrol yn 2019-20, bydd y gwaith hwn yn chwyldroi ysgolheictod llenyddol a hanesyddol Cymru, ac yn gosod seiliau newydd i astudiaethau o lawysgrifau a thestunau Cymreig ar gyfer cenedlaethau i ddod. Trwy anrhydeddu’r awdur â doethuriaeth, mae Prifysgol Cymru’n cydnabod aruthredd ysgolheictod Daniel Huws, ac yn edrych ymlaen at weld ffrwyth ei lafur yn y man.

Dywedodd Linda Tomos, Prif-weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:

‘Ychydig iawn o gyn-aelodau staff sy’n treulio chwarter canrif o’u hymddeoliad yn ymweld yn gyson â’u hen fan gwaith, gan wneud darganfyddiadau newydd yn rheolaidd. Rydym wrth ein boddau fod y byd academaidd yng Nghymru yn anrhydeddu un o’n pobl ni, a hynny gydag un o’u hanrhydeddau mwyaf. Ni allwn feddwl am deilyngach gwrthrych i’w anrhydeddu yn y fath fodd.’

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell:

‘Mae’r anrhydedd hwn yn cydnabod oes o ymchwil ac o gynnyrch ysgolheigaidd. Bydd hefyd yn rhoi hwb i’r awdur wrth iddo ddynesu at y lan gyda’i gampwaith hir-ddisgwyliedig. Mae Cymru’n gyfarwydd â mawr-wybodaeth, cof dihysbydd, a haelioni Dr Huws, ac mae nifer helaeth o ddarllenwyr y Llyfrgell Genedlaethol, a llyfrgelloedd eraill, yn ddyledus iawn iddo am ei lafur diarbed.’

Yn brif arbenigwr Cymru ar balaeograffeg, mae Daniel Huws hefyd yn hyddysg ym maes cerddoriaeth werin Cymru, ac mae hefyd yn fardd Saesneg nodedig.

Am ragor o wybodaeth cysyllter ag

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk