Mapiau yn datgelu newidiadau mewn defnydd tir

15/7/2016

Mae mapiau degwm a dogfennau o'r 1840au sydd ar gael ar-lein drwy brosiect Cynefin, a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri wedi galluogi myfyrwyr i astudio a mesur newidiadau mewn defnydd tir ac enwau'r caeau mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen.

Cafodd y mapiau a chofnodion degwm eu creu yn wreiddiol i gadw cofnod o'r degymau - math o dreth a oedd yn daladwy gan ffermwyr i’r Eglwys.

Mae'r hen ddogfennau sy'n 180 mlwydd oed yn cael eu trawsgrifio a'u digido drwy wefan cynefin.cymru gan fyddin o dros 850 o wirfoddolwyr, gan ei gwneud hi’n bosibl i gael mynediad at wybodaeth wedi'i recordio a’i ddadansoddi i ddarganfod pwy oedd yn ffermio ble, pwy oedd y  tirfeddianwyr,  pa ddefnydd a wnaed o'r tir a beth oedd enwau’r caeau.

Yn ôl rheolwr y prosiect Einion Gruffudd "Dim ond miliwn o bobl oedd yn byw yng Nghymru yn y 1840au o'i gymharu â thros dair miliwn heddiw, ond roedd llawer mwy o ffermydd, a llawer mwy o dir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu, hyd yn oed ar y bryniau uchaf a’r mynyddoedd."

Dywedodd Mr Gruffudd fod tir fferm wedi ei golli nid yn unig i drefoli a chronfeydd dŵr ond hefyd i goedwigaeth, tra bod ardaloedd helaeth o’r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer cynhyrchu âr, yn awr wedi ei neilltuo i laswellt neu dir mynydd agored.

"Mae cofnodion degwm yn categoreiddio tir, ac hefyd yn enwi'r caeau, sy'n golygu y gallwn ddarganfod enwau caeau sydd heddiw o dan ddŵr, yng nghanol trefi prysur, neu’n goedwigoedd.

Rydym hefyd yn gwybod faint o daliad degwm roedd y ffermwyr yn talu am gael ffermio’r tir.”

Mae prosiect Cynefin hefyd yn uno holl fapiau degwm Cymru i gynhyrchu map unedig digidol yn ystod cyfnod trawsnewidiol iawn yn ein hanes. Bydd y map hwn, a'r holl wybodaeth gysylltiedig sydd wedi ei drawsgrifio, ar gael i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim, ac mae'r rhan fwyaf o hyn eisoes ar gael ar y wefan cynefin.cymru.

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn ffynhonnell newydd wych ar gyfer ymchwil academaidd, ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr MA o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi cael eu comisiynu gan Undeb Amaethwyr Cymru i ymchwilio defnydd tir hanesyddol.

Dywedodd un o'r myfyrwyr, Rhodri Evans "Mae'n wych cael mynediad o'r fath i wybodaeth fanwl sy’n berthnasol i bron bob rhan o Gymru.  Mae’r ffynhonnell yma yn ein galluogi i ymchwilio mewn ffordd a oedd yn gwbl anymarferol o'r blaen. Er enghraifft mae gennym restr o dros chwarter miliwn o enwau caeau sy'n dweud llawer wrthym am y tir, a sut y cafodd ei ffermio. Gallwn hefyd edrych yn ofalus ar yr ardal, lleoliad a defnydd o bob cae fel yr oedd yn y 1840au, a chymharu hynny â heddiw.”

Dywedodd Nick Fenwick, Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru "Mae'r mapiau degwm yn ffynhonnell werthfawr sy'n ein galluogi i astudio newidiadau yn y defnydd o dir fferm mewn gwahanol rannau o Gymru a chwalu rhai o'r mythau am sut mae ffermio wedi newid.

Un o'r rhai mwyaf arwyddocaol o'r rhain yw'r graddau y mae ffermio wedi dod yn llai dwys ar dir uwch yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf.

Mae'r ffordd y mae enwau caeau wedi newid yn ystod y cyfnod, neu yn parhau i gael eu defnyddio hyd heddiw, hefyd yn bwysig o safbwynt hanesyddol, yn enwedig lle mae'r enw'n disgrifio'r defnydd o’r tir neu ddigwyddiadau hanesyddol," ychwanegodd.

Bydd rhai o ganfyddiadau cynnar y prosiect yn cael ei harddangos yn arddangosfa Tŷ Mawr yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.  Cynhelir cyflwyniad am ddim ar y canfyddiadau hyn gan Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin ym mhabell Tŷ Mawr ar faes y Sioe, dydd Llun 18 Gorffennaf am 3:00pm.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post(at)llgc.org.uk

Mae Einion Gruffudd a Nick Fenwick ar gael i siarad ymhellach am y pwnc:
Einion Gruffudd eeg@llgc.org.uk 0787 3486502
Nick Fenwick nick.fenwick@fuw.org.uk 0787 0918319

Delweddau